Mabwysiadu gan Lysrieni a Theuluoedd
Mae nifer o wahanol opsiynau ar gael i lysrieni a theuluoedd sydd eisiau cael cyfrifoldeb rhianta dros blentyn / plant.
I ddechrau’r broses yn gyfreithiol rhaid i chi roi gwybod yn ysgrifenedig i Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd am eich bwriad i wneud cais am Orchymyn Mabwysiadu cyn gwneud cais i’r Llys. Gall plentyn gael ei fabwysiadu hyd nes ei fod yn 18 oed. Mae ein gweithwyr cymdeithasol ar ddyletswydd ar gael yn ystod yr wythnos ac yn gallu trafod eich amgylchiadau unigol gyda chi. Ffoniwch ni ar 0800 023 4064.
Dylech gynnwys yr holl wybodaeth ganlynol yn eich llythyr:
* Yr ymgeisydd yw’r person sy’n dymuno mabwysiadu
- Enw(au) llawn, cyfeiriad a dyddiad(au) geni’r plentyn / plant.
- Enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni’r ymgeisydd.
- Enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni partner presennol yr ymgeisydd (rhieni biolegol y plentyn / plant).
- Enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni rhieni biolegol absennol y plentyn.
- Os nad yw’r plentyn yn blentyn biolegol i unrhyw un o’r ymgeiswyr bydd angen enwau llawn, cyfeiriadau a dyddiadau geni ar eich cyfer chi, eich partner (os yw’n berthnasol) a’r ddau riant biolegol a bydd angen i ni wybod pa mor hir mae'r plentyn wedi bod yn byw gyda chi.
- Hyd eich perthynas â rhiant biolegol y plentyn / plant a pha mor hir rydych chi wedi bod yn byw yn yr un cartref yn llawn amser. Dylech fod wedi bod mewn perthynas am fwy na 2 flynedd ac wedi bod yn rhan o’r teulu am fwy na 6 mis.
- Cadarnhad bod y plentyn / plant yn llwyr ymwybodol o’r cais ac yn gwybod pwy yw ei rieni biolegol. Er bod lefel o ddealltwriaeth yn dibynnu ar oedran(nau) y plentyn / plant, os ydyw o oedran sy'n caniatáu rhywfaint o ddealltwriaeth disgwylir bod hyn wedi'i drafod ag ef yn llawn cyn i'r Gweithiwr Cymdeithasol gynnal ei ymweliad cyntaf.
- Lefel y cyswllt rhwng y plentyn a’i riant biolegol absennol.
- Cadarnhad bod rhiant biolegol absennol y plentyn yn ymwybodol o'r cais a beth yw eu barn.
- Mae angen i’r llythyr gael ei lofnodi gennych chi a’ch partner presennol (sef rhiant biolegol y plentyn).
Dylech anfon eich llythyr i:
Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, Swyddfa’r Dociau, Subway Road, Y Barri, Bro Morgannwg, CF63 4RT
-
Beth sy’n digwydd nesaf?
Caiff gweithiwr cymdeithasol sy’n arbenigo mewn gwaith mabwysiadu ei benodi i ysgrifennu'r adroddiad a'i ddychwelyd i'r llys. Mae’r adroddiad yn fanwl iawn a bydd yn cynnwys gwybodaeth am bob aelod o’r teulu. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am dad/mam biolegol y plentyn ac yn ystyried a oedd y pâr yn briod ar adeg geni'r plentyn.
-
Pa wiriadau sydd angen eu gwneud?
- Gofynnir i chi (ac unrhyw un dros 16 oed yn eich cartref) gwblhau ffurflenni’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Mae’r rhain yn cadarnhau pwy ydych chi a chânt eu gwirio yn erbyn holl gofnodion cenedlaethol yr heddlu a chronfeydd data swyddogol eraill. Caiff unrhyw euogfarnau a rhybuddion eu datgelu. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn gofyn i gael gweld y dogfennau i gadarnhau pwy ydych chi, a bydd yn llofnodi cefn y ffurflen tra ei fod gyda chi. Rhoddir taflen wybodaeth esboniadol i chi am y rhan hon o’r broses.
- Ni fydd angen i riant biolegol y plentyn gael gwiriadau meddygol ond bydd angen i'r ymgeisydd (wyr) weld meddyg teulu a sicrhau bod adroddiad yn cael ei anfon i'r Llys sy'n gwirio eu sefyllfa iechyd. Gall y ffi am adroddiadau meddygol amrywio ond bydd rhaid i’r ymgeisydd dalu’r ffi hwn.
- Os nad yw’r plentyn rydych chi am ei fabwysiadu yn blentyn biolegol, bydd angen adroddiad meddygol ar y Llys ynghylch y plentyn hwnnw. Gall y ffi am adroddiadau meddygol amrywio ond bydd rhaid i’r ymgeisydd dalu’r ffi hwn.
-
Rhoi Gwybod i'r Llys
Pan fydd eich gweithiwr cymdeithasol wedi cwblhau’r adroddiad bydd angen i chi gwblhau cais ar wefan GOV.UK . Gallwch ei lawrlwytho o'r wefan. Codir tâl am y broses hon, ond nid am ein gwasanaethau. Bydd y llys yn ysgrifennu atom i ofyn am adroddiad.
-
Y Broses Gyfreithiol
- Bydd y Llys yn anfon apwyntiad atoch yn ddigon buan ar ôl i’ch cais gael ei gyflwyno yno. Gelwir hwn yn Wrandawiad Cyfarwyddyd. Bydd y Llys yn gofyn cwestiynau amrywiol i chi a’ch gweithiwr cymdeithasol ac yn amcangyfrif faint o amser fydd ei angen i gyflwyno’r adroddiad. Ni fydd angen cyfreithiwr arnoch ar gyfer cais diwrthwynebiad, ond os ydych am benodi un yna byddai’n mynd i’r gwrandawiad ar eich rhan.
- Bydd angen cyfreithiwr arnoch os nad yw rhiant biolegol y plentyn yn fodlon rhoi caniatâd a’ch bod wedi bod yn briod iddo/iddi ar un adeg.
- Os ydych wedi rhoi'r hyn a elwir yn gyfrifoldeb rhianta dros y plentyn rydych chi am ei fabwysiadu i riant biolegol, mae ganddo/ganddi hawl gyfreithiol i wrthwynebu eich cais. Gall eich gweithiwr cymdeithasol esbonio hyn yn fanylach pan fyddwch yn cwrdd.
- Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r sefyllfa gyfreithiol ar ôl i chi gyflwyno eich cais. Bydd gan yr Awdurdod Lleol hwn ddyletswydd gyfreithiol i fod yn gyfrifol am les y plentyn tan fod Gorchymyn wedi'i wneud. Nid yw hyn yn golygu bod eich plentyn ‘Mewn Gofal’ ond mae’n golygu bod dyletswydd ar y gweithiwr cymdeithasol i ymweld â'r plentyn a chadw mewn cysylltiad ag ef tan y gwrandawiad mabwysiadu.
- Rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol benderfynu a fydd mabwysiadu o fudd i’ch plentyn ar sail y wybodaeth sydd ar gael iddo. Y Barnwr fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
- Cadarnhad bod rhiant / rhieni biolegol absennol y plentyn / plant yn ymwybodol o'r cais a’i farn.
- Os penderfynwch beidio â bwrw ymlaen ar unrhyw adeg, bydd angen i chi roi gwybod i’r Llys am y penderfyniad hwnnw, a bydd y Llys yn rhoi gwybod i ni.
-
-
-
-
-
-
-
Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud cyn neu yn ystod y broses ffoniwch ein gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd: