Child-having-face-painted

Noson Wybodaeth Ebrill 2024

Byddwn yn cynnal ein noson wybodaeth nesaf ym mis Ebrill. Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu ac yr hoffech ddod llenwch ffurflen ymholi neu ffoniwch ni ar 0800 023 4046.

Blog a Newyddion

  • Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2023
     

    Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (16-22 Hydref), mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) yn parhau ei ymdrechion i annog mwy o bobl i ystyried mabwysiadu. Daw hyn wrth i grwpiau o siblingiaid, plant ag anghenion arbennig, a phlant hŷn yng Nghymru barhau i chwilio am eu ‘cartref am byth’.

    Mae NAS yn datgelu ystod o fideos addysgol i fynd i'r afael â chamsyniadau am fabwysiadu a chynorthwyo'r rhai sy'n teimlo efallai nad ydynt yn gymwys i fabwysiadu.

    Yr wythnos hon, nod NAS yw ail-lunio barn y cyhoedd trwy chwalu hen fythau a chyflwyno profiadau go iawn.

    Mae nifer o fabwysiadwyr o Gymru wedi ymuno â'r fenter hon, gan ymddangos mewn fideos ac ysgrifennu blogiau i ledaenu ymwybyddiaeth. Mae Faith, a fabwysiadodd grŵp o siblingiaid gyda Gwasanaeth Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, yn rhannu ei chymhelliant:

    “Roedden ni eisoes wedi ystyried mabwysiadu ond pan wnaethon ni ddarganfod, hyd yn oed pe baen ni wedi cael IVF, na fyddwn i’n gallu cario i’r tymor llawn, fe ddechreuon ni ei ystyried yn fwy difrifol. Pan ddywedodd y gweithiwr cymdeithasol ein bod ni’n addas nid yn unig ar gyfer dau sibling, ond grŵp mwy o faint, fe wnaeth ein syfrdanu ni ond gwnaethom sylweddoli y gallai hyn ddod yn realiti. Cafodd fy mhartner a minnau lawer o drafodaethau, un o’r rhai cyntaf oedd, a yw ein tŷ ni’n ddigon mawr? Pan aethon ni at ein teulu a’n ffrindiau, roedden ni’n meddwl y byddai rhywfaint o wrthwynebiad - roedden ni wedi mynd o fod yn gwpl i fod yn deulu mawr - ond yn lle hynny, fe wnaethon nhw roi cariad a chefnogaeth i ni. Er bod ein teulu ni’n llawer mwy nag y gallen ni erioed fod wedi’i ddychmygu, dyna oedd y peth gorau oherwydd fe wnaethon ni gadw’r siblingiaid hyn gyda’i gilydd.”

    Yn ogystal â rhannu straeon mabwysiadu, mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru wedi bod yn cynyddu gwybodaeth am fabwysiadu gyda chymunedau ledled y DU, trwy eu podlediad gwobrwyog, Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu.

    Canmolwyd y ddwy gyfres o’r podlediad dwyieithog, a oedd yn cynnwys straeon gan saith teulu mabwysiadol ochr yn ochr â phennod arbennig, a gynhyrchwyd ac a gyflwynwyd gan bobl ifanc a fabwysiadwyd, am ei olwg onest ar fabwysiadu.

    Eglurodd Tasha, athrawes a fabwysiadodd ddau sibling ag anghenion dysgu ychwanegol drwy Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ac a gymerodd ran yng nghyfres un o’r podlediad:

    “Pan anfonais fy e-bost o ddiddordeb [i fabwysiadu], roedd fy nheulu’n dweud wrthyf na fyddai ‘nhw’ eisiau fi oherwydd fy mod yn sengl, mae gen i swydd amser llawn, mae gen i gi. Meddyliais ‘Pam na fydden nhw eisiau fi? Fe es i mewn gyda meddwl agored iawn. Yn amlwg roedd yn rhaid i mi ystyried bod fy nheulu yn byw 2 ½ awr i ffwrdd, fodd bynnag, roeddwn yn ymwybodol bod llawer o blant hŷn (oedran ysgol i fyny) yn aml yn aros hiraf. Roedd fy ngweithiwr cymdeithasol yn wych, ac roeddwn i wedi bod mewn cysylltiad â’r teulu maeth. Felly, pan ddes i â nhw adref, wnes i ddim rhoi’r gorau i’r drefn roedden nhw wedi’i hadeiladu yn nhŷ eu gofalwr maeth. Fe wnes i hyd yn oed barhau gyda’r ysgytlaeth siocled cyn mynd i’r gwely gan mai dyna wnaeth eu gofalwyr maeth. Roedd fy merch yn eithaf sensitif i rai pethau, ac fe wnaethon ni weithio arnyn nhw gyda hi dros amser. Roedd sylwi ei bod yn dechrau rhoi’r gorau i’r sbardunau hyn yn arwydd i mi ei bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir.”

    Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru:

    “Rydyn ni’n gobeithio, yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu eleni, y bydd pobl sy’n meddwl am fabwysiadu ledled Cymru yn gweld y wybodaeth sy’n cael ei rhannu yn ddefnyddiol ac yn ysbrydoledig. Ein nod yw ateb llawer o'r cwestiynau a allai fod ganddynt am fabwysiadu grŵp o siblingiaid, plant ag anghenion mwy cymhleth neu blentyn hŷn. Mae ein gwasanaethau bob amser yn hapus i ddarparu mwy o wybodaeth.”

  • Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn lansio canllaw newydd i gefnogi busnesau

    14 Awst, 2023

    Wedi'i lansio'n swyddogol yn Eisteddfod Genedlaethol 2023, mae pecyn cymorth newydd i gyflogwyr, ‘Mabwysiadu yn eich busnes’ y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi cael ei greu i gynnig arweiniad ar y ffordd y gall busnesau addasu eu polisïau AD i deimlo eu bod wedi'u grymuso i drafod a rhannu pwnc mabwysiadu gyda gweithwyr ac i fod yn fwy cefnogol i'r gymuned fabwysiadu.

    Yn 2023, mae Cymru yn gartref i dros 4,400 o fabwysiadwyr ar hyn o bryd - gyda thros 300 yn rhagor hefyd yn mynd drwy'r broses fabwysiadu.

    Mae gan rieni mabwysiadol hawliau statudol i absenoldeb mabwysiadu yn y gweithle; ond nid yw rhai busnesau ar hyn o bryd yn cynnwys yr amser sy'n ofynnol ar gyfer yr hyfforddiant, yr asesiad a'r prosesau eraill y mae'n rhaid i fabwysiadwyr eu cyflawni yn ystod y broses fabwysiadu a thu hwnt.

    Dywed Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru:

    "Er bod mabwysiadwyr yn cael cefnogaeth drwy gydol y broses fabwysiadu, mae angen cefnogaeth ddilynol gan gyflogwyr hefyd i helpu mabwysiadwyr a'r rhai sy'n aros i blentyn ymuno â'u teulu. Mae'n bwysig bod busnesau'n cael eu galluogi gyda mwy o wybodaeth am fabwysiadu, fel y gallant roi'r gefnogaeth gywir i'w gweithwyr. Gall cefnogaeth gael ei adlewyrchu drwy bolisïau AD, o fewn polisïau absenoldeb mabwysiadu i fabwysiadwyr newydd a hefyd o fewn polisïau gweithio hyblyg i bobl sy'n mynd drwy'r broses. Rydym yn falch o fod wedi cynhyrchu'r pecyn cymorth hwn a gobeithiwn y bydd yn cynorthwyo busnesau i gefnogi mabwysiadwyr a’r rheiny sy’n aros i fabwysiadu ac, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, i ddatblygu polisïau sy'n cefnogi amgylchiadau pob rhiant. Yn yr un modd, gall cyflogwyr hefyd gofrestru ar gyfer 'Cynllun Cyflogwr sy’n Hwyluso Maethu y Rhwydwaith Maethu' a byddem yn eu hannog i wneud hynny."

    Lansiwyd y pecyn cymorth i gyflogwr yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan ym mis Awst 2023. Daeth Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru ynghyd a chyflwyno panel gyda busnesau sy’n hwyluso mabwysiadu a maethu. Roedd y panel, a gyflwynwyd gan y Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yn cynnwys mabwysiadwr a gofalwr maeth o Gymru wrth iddynt drafod pwysigrwydd polisïau gweithio hyblyg ac absenoldeb rhiant sy'n adlewyrchu teuluoedd modern yng Nghymru.

  • Cymru ar frig y DU o ran cymorth hanfodol i helpu plant mabwysiedig i ddeall hanesion eu bywydau, yn ôl ymchwil newydd gan Adoption UK

    26 Mai, 2023

    Mae Cymru ar frig gwledydd y DU o ran helpu plant sydd wedi’u mabwysiadu i ddeall rhan gynnar eu bywydau, diolch i flaenoriaeth y llywodraeth o’r gwaith hwn ers 2019. Mewn mannau eraill yn y DU, mae ymdeimlad plant o sicrwydd a hunaniaeth, a’u lles meddwl hwyrach yn eu harddegau ac oedolaeth, yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd methiant cymorth ‘taith bywyd', mae ymchwil newydd gan Adoption UK yn datgelu: Baromedr Adoption UK 2023

    I lawer o bobl sydd wedi’u mabwysiadu, mae gan drawma a brofwyd cyn iddynt gael eu mabwysiadu, ynghyd â cholli hunaniaeth sy’n gysylltiedig â chael eu gwahanu oddi wrth eu teulu biolegol, oblygiadau gydol oes. Mae ‘gwaith taith bywyd’ fel y’i gelwir yn golygu helpu plentyn mabwysiedig i ddeall ei hanes ei hun a’r rhesymau pam y cafodd ei fabwysiadu.

    Mae arbenigwyr mabwysiadu a seicolegwyr yn cydnabod yn eang bwysigrwydd hanfodol deall eich hanes cynnar, fel rhan o lunio ymdeimlad iach o hunaniaeth. Gall dulliau a ddefnyddir mewn gwaith taith bywyd gynnwys gweithgareddau fel chwarae a chwnsela, a defnyddio deunyddiau fel llyfrau taith bywyd, sy’n esbonio stori gynnar plentyn mewn ffordd sy’n briodol i’w hoedran, a ‘llythyrau bywyd diweddarach’ sy’n cael eu hysgrifennu i blant eu darllen pan fyddant yn hŷn.

    Dywedodd 72% o rieni mabwysiadol y DU eu bod yn hapus ag ansawdd y deunyddiau taith bywyd a gawsant, ffigwr sydd prin wedi newid mewn 5 mlynedd. Yng Nghymru, 86% oedd y ffigwr yma - ac mae'n cynrychioli cynnydd o 30% o'i gymharu â 5 mlynedd yn ôl.

    Roedd nifer y teuluoedd a oedd yn derbyn deunyddiau taith bywyd yn fuan ar ôl mabwysiadu hefyd yn uwch yng Nghymru, gan roi’r cychwyn gorau i rieni mabwysiadol yng Nghymru wrth gefnogi eu plant.

    Dywedodd Ann Bell, Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer Adoption UK:

    “Mae deunyddiau taith bywyd yn ffordd hollbwysig o helpu plant mabwysiedig i ddeall eu cefndir a pham y cawsant eu mabwysiadu. Ochr yn ochr â threfniadau i gynnal cysylltiadau teuluol biolegol, lle mae’n ddiogel gwneud hynny, gall y deunyddiau hyn chwarae rhan hanfodol wrth greu ymdeimlad cliriach o hunaniaeth, a sylfeini cryfion ar gyfer blynyddoedd yr arddegau a bywyd diweddarach. Mae gweithredu beiddgar gan lywodraeth Cymru yn dangos bod buddsoddi priodol mewn gwaith taith bywyd yn dwyn ffrwyth. Dylai llywodraethau ledled y DU ddilyn yr un peth yn gyflym.”

    Daw’r ffigurau o bumed adroddiad Mabwysiadu Baromedr Mabwysiadu blynyddol y DU, sef yr arolwg mwyaf cynhwysfawr o fabwysiadu yn y DU. Gwnaeth arolwg o bron i 3,000 o deuluoedd mabwysiadol, darpar fabwysiadwyr a phobl fabwysiedig dros 18 oed, y mae 150 ohonynt yn byw yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cynnig darlun cyfoethog o effaith polisi ac arfer mabwysiadu ar fywydau pobl fabwysiedig a mabwysiadwyr ledled y DU.

    Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC), Suzanne Griffiths:

    “Mae adroddiad Baromedr AUK unwaith eto yn rhoi darlun cadarnhaol o fabwysiadu yng Nghymru yn ogystal â nodi lle mae angen gwelliant pellach. Rydym yn falch o weld Cymru yn arwain y ffordd wrth helpu plant mabwysiedig i ddeall rhan gynnar eu bywydau. Mae gwaith taith bywyd yn cefnogi ein ffocws ar ddeall hunaniaeth fel person mabwysiedig, ac mae wedi’i anelu at bawb sy’n ymwneud â mabwysiadu, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol a theuluoedd. Mae’n galonogol iawn clywed bod y mwyafrif helaeth o rieni mabwysiadol yng Nghymru bellach yn hapus ag ansawdd y deunyddiau stori bywyd a gânt, o gymharu â phum mlynedd yn ôl. Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi cyflwyno’r Ymrwymiad Cymorth Mabwysiadu, y cyntaf o’i fath yn y DU, gan sicrhau bod mabwysiadwyr yng Nghymru yn cael cymorth yn ystod pob cam o’u taith. Bydd NAS yn parhau i weithio gyda rhieni mabwysiadol, plant a phobl ifanc i sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â’r broses fabwysiadu yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.”

    Dywedodd Helen Cruthers, Seicotherapydd yn Hyb Seicoleg a Therapi Adoption UK (PATH), sydd wedi gweithio gyda theuluoedd ers 30 mlynedd ac yn arbenigo yn y maes mabwysiadu a maethu am y 15 diwethaf:

    “Rwy’n gweld â’m llygaid fy hun y gwahaniaeth y mae gwaith stori bywyd yn ei wneud – y daioni sy’n dod o’i wneud yn dda, a’r problemau sy’n deillio o ddiffyg ohono, yn enwedig ym mlynyddoedd yr arddegau ac yn ddiweddarach mewn bywyd. Un o’r pethau tristaf yw pan fydd plant nad oes ganddyn nhw esboniad llawn a chlir o’u bywyd cynnar a’u mabwysiadu yn gwneud yr hyn mae plant bregus yn ei wneud yn aml: yn beio eu hunain, neu’n meddwl bod yn rhaid bod rhywbeth o’i le arnyn nhw. Pan feddyliwch yn y termau hynny, gallwch weld pam ei bod mor bwysig esbonio eu bywyd cynnar iddynt, a pham mae’r buddsoddiad y mae Cymru wedi’i wneud yn y maes hwn mor hynod werthfawr.”

    Dywedodd Sophia (nid ei henw iawn), rhiant mabwysiadol:

    “Mabwysiadodd fy ngŵr a minnau siblingiaid hŷn, chwech a phedair oed ar adeg lleoli sydd, fel pob plentyn â phrofiad o ofal, â thaith bywyd unigryw a chymhleth. Gweithiodd eu gweithiwr cymdeithasol yn rhagweithiol gyda ni i baratoi eu llyfrau taith bywyd, gan gynnwys rhannu drafftiau. Roedd hyn yn bwysig iawn i sicrhau ein bod yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r deunydd gyda'r plant ac adeiladu ar y naratif wrth iddynt dyfu i fyny. Mae’r llyfrau wedi bod o gymorth mawr i ni gael sgyrsiau rheolaidd a gonest fel teulu. Mae'r plant yn dod yn fwy hyderus yn eu hunaniaeth. Yn hollbwysig, rwy’n meddwl bod y deunyddiau, a sut rydym yn eu defnyddio, wedi sefydlu perthnasoedd diogel ac ymddiriedus i siarad yn agored, heb gywilydd.”

  • Lansio podlediad cyntaf y DU gan bobl ifanc mabwysiedig

    29 Mawrth, 2023

    Am y tro cyntaf ym myd y podlediadau y DU, mae grŵp o bobl ifanc, fabwysiedig wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu a chyflwyno pennod podlediad dwyieithog, gan rannu eu profiadau personol o fabwysiadu a chael eu mabwysiadu.

    Mewn rhifyn arbennig o’r podlediad hynod boblogaidd Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu, a wnaed ar ran Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, mae naw o bobl fabwysiedig, rhwng 13 a 26 oed yn sgwrsio â'i gilydd am fabwysiadu, sut mae wedi llunio elfennau o'u bywydau, a phwysigrwydd rhoi pobl fabwysiedig wrth galon pob gwasanaeth.Mae'r bennod yn archwilio ystod amrywiol o brofiadau ac emosiynau sy'n gysylltiedig â thyfu i fyny fel person mabwysiedig.

    Mae Charlotte, 26, yn ymddangos trwy gydol y bennod:

    "Roeddwn i’n lwcus bod fy rhieni bob amser yn rhoi gwybodaeth oed-briodol i mi, roedden i bob amser yn cael gwybod beth oedd angen i mi ei wybod ar y cam cywir o fy mywyd. Dywedwyd wrthyf bob amser bethau pwysig, hyd yn oed os oedd weithiau'n cymryd ychydig yn hirach i mi ddeall y cyfan. Ond, gyda mabwysiadu, tra bod gennych y teulu newydd hwn, rydych hefyd yn profi colled o rieni biolegol a theulu cwbl wahanol ac felly mae pawb yn prosesu pethau’n wahanol."

    Drwy gydol y bennod, mae’r cyfranwyr yn trafod camsyniadau a rhagfarnau cyffredin y maent wedi dod ar eu traws, ac yn amlygu’r angen i barhau i herio canfyddiadau hen ffasiwn ynghylch mabwysiadu.

    Mae Sarah yn 13, ac yn byw yng Ngogledd Cymru:

    "Dyw plant bach ddim yn deall pethau cystal â hynny, felly roedden nhw’n arfer dweud ‘o fe gafodd dy fam a’th dad wared ohonot ti, dydyn nhw ddim yn dy garu di’. Y dyddiau hyn, mae pobl yn dechrau deall mwy am fabwysiadu."

    Mae’r bobl ifanc yn y bennod yn aelodau o’r grŵp Connected a Chyngor Ieuenctid Connect, sy’n cael ei redeg gan yr elusen Adoption UK ar ran Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru.

    Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac mae’n darparu man diogel i’r bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau, cysylltu â phobl ifanc eraill sydd wedi’u mabwysiadu, a hwyluso cydweithio â llunwyr polisi ar draws Cymru a’r DU, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, cynghori ar brosesau mabwysiadu a chymorth.

    Mae Charlotte, yn cyffwrdd â’r gefnogaeth y mae’n ei derbyn gan y grwpiau Connected:

    "Mae’r grwpiau’n rhoi lle diogel iawn i mi archwilio fy nheimladau a gofyn cwestiynau fel ‘a yw hyn yn normal? Pam ydw i’n teimlo fel hyn?’ gyda gweithwyr ieuenctid hyfforddedig ac mae hynny’n help aruthrol, rwy’n gallu gwneud ffrindiau a magu hyder. Rhai o’r pethau fyddwn i byth wedi eu gwneud oni bai am y grŵp, yn enwedig cael cyfleoedd lluosog i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl fabwysiedig yn cael eu clywed mewn cyfarfodydd pwysig iawn."

    Cynhyrchwyd y bennod gan y bobl ifanc dros gyfnod o flwyddyn, gyda chefnogaeth staff o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, gweithwyr ieuenctid ymroddedig, arbenigwyr cynhyrchu podlediadau: Bengo Media, ac ymgynghorwyr cyfathrebu strategol: Cowshed Communication.

    Roedd datblygiad y bennod yn cynnwys gweminarau, nosweithiau hyfforddi a sesiynau cydweithredol i’r cyfranwyr, archwilio’r diwydiant podledu, sgiliau cynhyrchu ymarferol, ystyriaethau golygyddol, adrodd straeon pwerus a magu hyder. Y gobaith yw y bydd y sgiliau a enillwyd trwy'r broses yn galluogi'r rhai sy'n gysylltiedig i ddilyn cyfleoedd pellach yn y maes hwn.

    Meddai Charlotte, am ei phrofiad o gynhyrchu’r podlediad:

    "Mae wir angen tîm i wneud podlediad ac roedd pawb yn Bengo Media, Cowshed a Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn allweddol i ni drwy gydol camau cynllunio, cynhyrchu a recordio’r podlediad. Roedd pawb a gymerodd ran yn feddylgar, yn garedig ac wedi rhoi lle diogel i ni siarad am ein profiadau o fabwysiadu ac ni allaf ddiolch digon iddynt. Fy hoff ran oedd cyfarfod â phawb o Bengo Media a Cowshed yn bersonol ar y diwrnod recordio oherwydd bod yr holl gynllunio wedi'i wneud trwy Zoom, felly roedd gweld pawb gyda'i gilydd yn teimlo bod y pos yn gyflawn. Roedd hi hefyd mor hyfryd cael y cyfle i siarad am y gwahanol sefyllfaoedd mae pobl fabwysiedig yn eu hwynebu ac roedd recordio podlediad gyda ffrindiau yn hynod o cŵl hefyd! Gobeithio bod unrhyw un sy’n gwrando ar y podlediad yn gwneud hynny gyda meddwl a chalon agored. Rwy’n gwybod pa mor anodd y gall fod i gydymdeimlo â sefyllfa nad ydych wedi bod drwyddi neu nad ydych yn gwybod llawer amdani, ond bydd bod â meddwl agored a bod yn barod i wrando yn helpu person mabwysiedig yn aruthrol. Rydyn ni eisiau cael ein clywed a theimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi mewn cymdeithas."

    Meddai Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru:

    “Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn falch o’r ffaith bod llawer o’r newidiadau mewn mabwysiadu sydd wedi digwydd yng Nghymru wedi digwydd o ganlyniad i wrando ar ein defnyddwyr gwasanaeth ac ymateb i’r hyn y maent yn ei ddweud wrthym. Rydym felly wrth ein bodd bod y bobl ifanc wedi cael y cyfle i fod yn rhan o’r podlediad hwn ac wedi teimlo y gallant rannu eu meddyliau a’u teimladau gyda ni mewn ffordd mor agored a gonest. Mae eu straeon mor bwysig nid yn unig i’n helpu ni i ddeall, ond hefyd i unrhyw un sy’n meddwl am fabwysiadu ddysgu sut deimlad yw hi i’r plant a’r bobl ifanc.”

    Meddai Ann Bell, Cyfarwyddwr Adoption UK Cymru:

    “Rydym wedi ein syfrdanu gan y bobl ifanc hyfryd o bob rhan o Gymru sydd wedi cymryd rhan yn y podlediad. Nid yw byth yn hawdd iddynt rannu eu straeon, gall fod yn drawmatig ac yn gynhyrfus. Mae un o'r bobl ifanc, Keira May, yn edrych ymlaen at rannu'r podlediad yn ei gwasanaeth ysgol. Mae'n gobeithio y bydd yn helpu eraill i ddysgu am fabwysiadu a sut brofiad yw cael eich mabwysiadu. Rydym yn hynod falch o wasanaeth CONNECT a’r ffordd y maent wedi cefnogi’r bobl ifanc i gymryd rhan ar bob cam.”

    I wrando ar y podlediad, neu i gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu yng Nghymru ewch i wefan NAS

  • Sgwrs Mabwysiadu Fawr 2023

    31 Ionawr, 2023

    Yn ystod y Sgwrs Mabwysiadu Fawr eleni, a ddaeth â’r gymuned fabwysiadu ynghyd i drafod y blaenoriaethau ar gyfer mabwysiadu yng Nghymru, ymddiheurodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, yn bersonol i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan arferion mabwysiadu hanesyddol.

    Dywedodd Mrs Morgan:

    “Er bod arferion mabwysiadu gorfodol yn bodoli ers cyn datganoli yng Nghymru, maen nhw wedi cael effaith barhaol ar bawb a’u profodd – ar y rhieni a’r plant. Hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf â phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan fabwysiadu gorfodol hanesyddol. I’r holl ddioddefwyr, hoffwn fynegi fy edifeirwch a fy nghydymdeimlad dwysaf - eich bod wedi gorfod dioddef arferion hanesyddol mor ofnadwy - a hynny oherwydd methiannau cymdeithas. Am hyn, mae’n wirioneddol ddrwg gen i."

    Gellir darllen ei datganiad llawn yma.

    Daw’r ymddiheuriad personol ar ôl i’r Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol gyhoeddi ei argymhellion, yn dilyn ymchwiliad i ddeall profiadau menywod di-briod y mabwysiadwyd eu plant rhwng 1949 a 1976 yng Nghymru a Lloegr.

    Croesawodd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru argymhellion yr ymchwiliad pan gawsant eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022, ac er bod deddfwriaeth ac arferion mabwysiadu wedi’u cryfhau’n sylweddol ers hynny, rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau yng Nghymru ymhellach.

    Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn cydymdeimlo’n ddwys â phawb yr effeithir arnynt. Dylid parhau i gydnabod anghyfiawnder yr arferion hanesyddol hyn.

    Mae mabwysiadu wedi newid yn sylweddol ers hynny a bellach yn cael ei ystyried ar gyfer plant dim ond pan fydd opsiynau eraill wedi'u harchwilio'n llawn.

    Nod gwasanaethau yw helpu teuluoedd biolegol i aros gyda'i gilydd lle bynnag y bo hynny'n bosibl, a lle nad yw hynny'n bosibl, mae mabwysiadu'n rhoi diogelwch a chyfle i blant ffynnu.

    Os ydych chi’n oedolyn mabwysiedig, yn rhiant biolegol neu’n berthynas biolegol arall yr effeithiwyd arno gan fabwysiadau hanesyddol yn y 1950au, 1960au a dechrau’r 1970au, mae amrywiaeth o wasanaethau presennol a all eich cefnogi.

    Gallwch ofyn am gyngor a chymorth gan eich asiantaeth fabwysiadu leol, i’ch helpu i archwilio pa gymorth a allai fod ar gael i chi’n lleol i ddelio ag effaith mabwysiadu hanesyddol eich plentyn.

    Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yr holl asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru ar Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol gwefan. 

    Yn ogystal â'r asiantaethau mabwysiadu statudol, mae sefydliadau eraill a all helpu'r rhai y mae mabwysiadu'n effeithio arnynt. Mae rhai o'r gwasanaethau hyn ar gael am ychydig neu ddim cost o gwbl, tra bod eraill yn costio mwy.

    Mae Adoption UK a’i gangen Gymreig, Adoption UK Cymru, yn sefydliad elusennol, sy’n gweithredu llinell gymorth am ddim i bobl sydd wedi’u mabwysiadu a rhieni sy’n mabwysiadu ac sydd hefyd yn cynnig gwasanaeth cymorth i oedolion mabwysiedig sy’n tanysgrifio i’r gwasanaeth hwn: Adoption UK 

    Bwriedir i’r wefan Chwilio ac Aduniad Mabwysiadu fod yn fan galw cyntaf i unrhyw un sy’n ystyried dod o hyd i berthnasau biolegol a mabwysiedig neu gysylltu â pherthnasau biolegol a mabwysiedig neu olrhain mabwysiadu a ddigwyddodd yn y DU. 

    Ffynhonnell arall o wybodaeth a chyngor i oedolion mabwysiedig unrhyw le yn y DU yw Family Connect.

    I gael manylion am wasanaethau eraill, gan gynnwys y rhai sy'n cynnig gwasanaeth sy'n seiliedig ar ffi, cysylltwch â'ch asiantaeth fabwysiadu leol, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi am yr ystod o wasanaethau sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol. Gall rhai o'r gwasanaethau sy'n gweithredu ar draws y DU helpu gyda mynediad at gofnodion ac efallai y bydd eraill hefyd yn gallu cynorthwyo lle mae'r ddau barti eisiau ailgysylltu trwy gynnig yr hyn a elwir yn wasanaeth cyfryngol. Mae rhai o'r sefydliadau yn elusennau ac eraill yn fusnesau preifat ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yng nghostau eu gwasanaethau.

    Mae’n rhaid i bob sefydliad sy’n darparu’r gwasanaethau hyn fod wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) neu Ofsted yn Lloegr.

    Mynediad at gofnodion a gwasanaethau cyfryngol

    Gall pob un o’r pump Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol yng Nghymru, sydd wedi’u lleoli mewn awdurdodau lleol, helpu gyda mynediad at gofnodion. Mae hon yn ddyletswydd statudol. Efallai y byddant hefyd yn gallu cynnig gwasanaeth cyfryngol. Yn wahanol i fynediad at gofnodion geni ar gyfer pobl a fabwysiadwyd, mae hwn yn wasanaeth dewisol. Ni chodir tâl am y naill na’r llall o’r gwasanaethau hyn, ond mae capasiti’n gyfyngedig, ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros am ychydig cyn y gallwch weld rhywun.

    Mae sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau gan gynnwys mynediad at gofnodion geni a/neu wasanaethau cyfryngol heblaw’r gwasanaethau mabwysiadu rhanbarthol yng Nghymru wedi’u rhestru isod. Bydd yr holl sefydliadau hyn hefyd yn darparu rhywfaint o gymorth emosiynol. Mewn rhai achosion bydd hyn yn cael ei ddarparu gan weithiwr cymdeithasol mabwysiadu mewn achosion eraill gan gwnselydd neu therapydd hyfforddedig.

    Gwasanaeth Cyfryngol Canfod Mabwysiadu: Dyma'r unig asiantaeth o'i math sydd wedi'i lleoli yng Nghymru ac sy'n gallu cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n cynnig mynediad at gofnodion geni, olrhain a gwasanaethau cyfryngol. 

    CMB Counselling: Mae’r sefydliad hwn yn cynnig gwasanaethau cymorth mabwysiadu i bobl sydd wedi’u mabwysiadu, perthnasau biolegol pobl a fabwysiadwyd a disgynyddion y rhai a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005. 

    Father Hudson’s Care: Mae'r asiantaeth elusennol hon yn cynnig cymorth i bawb y mae mabwysiadu'n effeithio arnynt, gan gynnwys gwasanaethau olrhain a chyfryngol. 

    Joanna North Associates Ltd: Mae hwn yn gwmni sy'n cynnig ystod o wasanaethau i oedolion mabwysiedig a pherthnasau biolegol, gan gynnwys mynediad at gofnodion geni, cwnsela, olrhain a gwasanaethau cyfryngol. 

    PAC-UK: Mae hwn yn sefydliad sy'n gweithredu ar draws y DU. Mae ganddi wasanaeth arbenigol sy'n darparu cymorth i oedolion sydd wedi'u mabwysiadu'n blant, ac oedolion sydd fel arall wedi'u lleoli'n barhaol fel plant. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gofnodion mabwysiadu, olrhain, gwasanaethau cyfryngol a chwnsela.

    Mae yna nifer o sefydliadau eraill sy'n cynnig cymorth emosiynol neu seicolegol i'r rhai y mae mabwysiadu'n effeithio arnynt, ond nad ydynt mewn sefyllfa i gynorthwyo gyda mynediad at gofnodion geni, olrhain na darparu gwasanaethau cyfryngol. Ceir manylion am y rhain ar wefan y Consortiwm o Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (CASA).

    Y gofrestr cyswllt mabwysiadu

    Cedwir manylion pob mabwysiad yng Nghymru a Lloegr gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO). Mae’r GRO yn gweithredu’r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu genedlaethol, sy’n caniatáu i bobl fabwysiedig a rhieni biolegol pobl fabwysiedig gofrestru eu manylion a nodi a ydynt yn dymuno i eraill gysylltu â nhw ai peidio. Mae cost i'w hychwanegu at y gofrestr. Mae hyn yn £15 ar gyfer oedolion mabwysiedig neu £30 ar gyfer aelodau o'r teulu biolegol. Sylwer mai dim ond rhwng y bobl hynny sydd wedi dewis rhoi eu manylion ar y gofrestr honno ac sydd wedi cofrestru eu parodrwydd i gael cyswllt y gall y gofrestr gyswllt wneud cysylltiadau. Nid oes gwasanaeth olrhain na chyfryngol yn gysylltiedig ag ef. 

    Y fframwaith cyfreithiol a'r broses ar gyfer mynediad at gofnodion geni

    Oedolion mabwysiedig – o dan gyfraith y DU, mae gan bob oedolyn mabwysiedig hawl gyfreithiol i gael mynediad at wybodaeth o’u cofnodion geni, er mwyn cael copi o’u tystysgrif geni wreiddiol unrhyw bryd ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Mae'r gyfraith yn mynnu bod y cofnodion hyn yn cael eu storio'n ddiogel am o leiaf 100 mlynedd. Mae'r fframwaith cyfreithiol ychydig yn wahanol, yn dibynnu a gawsoch eich mabwysiadu cyn 12 Tachwedd 1975 neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Os ydych eisoes yn gwybod eich manylion geni sylfaenol, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO) i gael copi o'ch tystysgrif geni wreiddiol. Os nad ydych chi'n gwybod y manylion sylfaenol hynny, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais i'w cael. Mae manylion ar wefan GRO. Fel arall, gallwch anfon e-bost: adoptions@gro.gov.uk neu ffonio: 0300 123 1837.

    Bydd y rhan fwyaf o'r wybodaeth fanwl am amgylchiadau mabwysiadu wedi'i chofnodi yn ffeiliau achos yr asiantaeth a leolir plentyn gyda'i rieni mabwysiadol. Mae'r cofnodion hyn yn cael eu cadw gan asiantaeth fabwysiadu sy'n bodoli eisoes neu mae modd cael gafael arnynt. Bydd y GRO yn gofyn i'r oedolyn mabwysiedig enwebu asiantaeth fabwysiadu i'w helpu i gael mynediad at ei gofnodion. Yr asiantaeth fabwysiadu yn eu hardal fydd hon fel arfer, hyd yn oed os cedwir eich cofnodion yn rhywle arall. Os gwnaed y gorchymyn mabwysiadu cyn 12 Tachwedd 1975, mae gofyniad cyfreithiol i weithiwr cymdeithasol mabwysiadu gwrdd â'r sawl sy'n cael ei fabwysiadu cyn y gall weld ei gofnodion. Os cawsant eu mabwysiadu ar ôl y dyddiad hwnnw, nid oes rhaid iddynt siarad â gweithiwr cymdeithasol mabwysiadu, ond mae’n debygol o fod yn ddefnyddiol iawn gwneud hynny. Gall y gweithiwr cymdeithasol mabwysiadu eu cynghori a’u cefnogi i ddeall y wybodaeth a’i rhoi yn ei chyd-destun hanesyddol. Gallant hefyd drafod pa opsiynau sydd ar gael os yw'r sawl sy'n cael ei fabwysiadu yn dymuno ymholi ymhellach neu geisio aduniad ac felly angen olrhain a gwasanaeth cyfryngol.

  • Cadw Mewn Cysylltiad â Theulu Maeth

    17 Hydref, 2022

    Yr Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol hon a thrwy gydol tymor dau o'r Podlediad, mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn tynnu sylw at y berthynas hanfodol rhwng y sawl sydd wedi’u mabwysiadu, a'u teuluoedd a'u cysylltiadau.

    Mae cael rhwydwaith cefnogol o bobl yn helpu plentyn i deimlo ei fod yn cael ei garu, i ddatblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth, a chynnal perthnasoedd iach yn y dyfodol.

    Mae teuluoedd maeth yn hanfodol wrth gefnogi plant drwy gyfnodau pontio mawr gan gynnwys i deuluoedd mabwysiadol newydd. Gall cynnal perthynas ymhell i'r dyfodol fod yn gyfle anhygoel i blentyn gadw cysylltiad â'i brofiadau bywyd cynnar. Mae symud ymlaen o ofal maeth i fabwysiadu yn garreg filltir allweddol ond does dim rhaid iddo olygu ffarwel am byth.

    Cawsom sgwrs gyda dau deulu a fabwysiadodd gyda Chydweithfa Fabwysiadu'r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd sydd wedi cadw mewn cysylltiad â gofalwyr maeth eu plant.

     

    Profiad Rachel

    Mabwysiadodd Rachel a'i gŵr eu merch yn 2008 ac mae'n dal i gynnal perthynas gref gyda'i theulu maeth. Bellach yn ofalwyr maeth eu hunain, maen nhw'n teimlo'n angerddol am bwysigrwydd cadw mewn cysylltiad.

    "Pan wnaethon ni fabwysiadu fy merch, Nicola, roedd gofalwr maeth ein merch a meibion geni Nicola wastad yn wirioneddol gynnes a chyfeillgar. Fe wnaethon nhw bopeth o fewn eu gallu i wneud iddo fynd yn dda fodd bynnag, dywedwyd wrthym, yn ôl yn y dyddiau hynny, nad oeddech chi'n cadw mewn cysylltiad â'r teulu maeth a'i fod yn hollt llwyr, ac rydym bellach yn gwybod mai dyna'r peth gwaethaf posib mewn gwirionedd.

    Roedd fy merch wir yn eu colli nhw felly ar y cyfle cyntaf fe wnes i gysylltu a gofyn a allen ni fynd i'w gweld, ac fe wnaethon nhw ein croesawu gyda breichiau agored. Os ydy'r bechgyn yn gwybod ein bod ni'n mynd draw, maen nhw'n gwneud ymdrech i orffen gwaith yn gynnar. Yn y gorffennol, os oedden nhw allan gyda ffrindiau, bydden nhw'n dod nôl. Byddai fy merch wastad yn eu galw nhw'n frodyr maeth. Ac maen nhw fel brodyr iddi. Os ydyn nhw'n ein gweld ni allan, byddan nhw wastad yn stopio ac yn sgwrsio, yn rhoi cwtsh iddi. Roedden nhw’n dda iawn gyda hi, yn ei hannog yn fawr ac yn wir dderbyn ei diagnosis o ASAFf; maen nhw wastad wedi ei derbyn hi am bwy ydi hi.

    Rydyn ni wedi penderfynu nawr eu bod nhw'n rhan o'n teulu ni. Maen nhw'n aruthrol o bwysig i ni ac yn rhan graidd o'n bywyd ni. Rhan enfawr o'n bywyd."

     

    Profiad Siân

    Pan fabwysiadodd Siân a'i phartner eu plant, roedden nhw'n benderfynol o gadw mewn cysylltiad â'u teulu maeth. Mae Siân yn teimlo'n gryf bod eu perthynas yn hynod o bwysig i hunaniaeth a stori bywyd ei phlant.

    "Pan ddaethon nhw i fyw yma, roedd fy merch yn dair oed ac roedd fy mab i newydd droi'n ddwy. Dwi'n meddwl bod fy merch yn cofio mwy am fod gyda'i theulu maeth.

    Roedd ein plant gyda'u gofalwyr maeth am 18 mis ac roedd gan eu gofalwyr maeth ferch a oedd yn 18 oed pan symudodd ein plant i mewn. Roedd fy merch yn enwedig yn ei charu'n fawr. Graddiodd yn yr haf, a chawsom luniau ganddi, ac mae'r plant wrth eu boddau yn ei gweld. Mae hi'n hyfryd iawn gyda nhw, mae hi'n chwarae gyda nhw yn y parc, yn cael hufen iâ iddyn nhw. Mae hi wir wrth ei bodd yn eu gweld nhw, dwi'n meddwl. Rydyn ni'n dal i'w cyfarfod unwaith y flwyddyn ac rydyn ni'n anfon lluniau drwy'r amser.

    Mae'n bwysig iawn i gadw mewn cysylltiad, mae 'na lawer o golled mewn mabwysiadu ac mae'r perthnasau hynny yn un o'r pethau nad oes rhaid iddyn nhw ei golli. Mae fy merch wedi cael llawer o gwestiynau yn y gorffennol am yr hyn sydd wedi digwydd iddi, ac mae ei theulu maeth wedi bod yn o gymorth enfawr wrth ateb rheini. Maen nhw'n gwybod hanes y dyddiau cynnar hynny; roedden nhw'n byw drwyddynt gyda'n plant, ac maen nhw'n gallu siarad â nhw yn y dyfodol am eu teuluoedd genedigol.

    Cydnabod stori ein plant yw’r nod. Mae mabwysiadu yn daith gydol oes ac maen nhw ynddi am byth felly mae'n ymwneud â chael cefnogaeth i'w helpu drwy'r darnau heriol ac anodd yn ogystal â'r darnau hyfryd. Mae modd gwella trawma perthynas drwy gael perthynas bositif iawn a dyna beth rydyn ni'n ceisio ei wneud."

     

    Profiad Cassidy

    Mae teulu Cassidy yn meithrin ym Mro Morgannwg. Yn saith ar hugain oed mae hi wedi dod yn gymorth hynod o bwysig i'r plant mae ei rhieni'n eu maethu.

    “Rwy’n rhan o’r daith, yn bendant. Dwi'n gwybod fy mod i wedi gallu bod yno ar gyfer y bobl ifanc mewn ffordd na all fy rhieni fod weithiau. Fel person ifanc, dwi'n rhywun sy'n gallu uniaethu â'u profiadau ieuenctid o oedran tebyg. Dwi wedi dysgu amynedd a dealltwriaeth ac nid yw popeth yn digwydd ar unwaith.

    Mae bod yn rhan o deulu maeth wedi fy nysgu nad oes ots am eich cefndir na pha ffordd o fyw rydych chi'n dod ohoni, mae pawb yn haeddu'r cyfle hwnnw. Mae pawb angen rhywun ac mae'n bwysig iawn i bobl deimlo bod ganddyn nhw le diogel a rhywle y gellir eu derbyn i fod yn nhw eu hunain. Mae gweld y parodrwydd hwnnw i helpu a chefnogi eraill wedi yn bendant wneud i fi gredu y gallwn i ei wneud e ac y byddwn i eisiau ei wneud e."

     

    Dim ond cyfran fechan o'r bobl a ymatebodd i gymryd rhan yn yr erthygl hon yw'r straeon hyn. O'r ymateb a gawsom gallwn weld bod llawer o bobl, dros nifer o flynyddoedd, wedi cadw mewn cysylltiad â'i gilydd yn anffurfiol neu'n ffurfiol ac wedi ffurfio cysylltiadau cadarnhaol, gydol oes sydd wedi creu teulu cynhwysol ac eang i blant sydd wedi eu mabwysiadu.

    Mae arferion mabwysiadu modern yn y DU yn dod yn fwy a mwy ymwybodol o'r effaith gadarnhaol y gall cyswllt parhaus yn bersonol a/neu drwy lythyrau / cyswllt digidol ei chael ac fel gwasanaeth rydym yn hyrwyddo cyswllt yn glir lle bo'n ddiogel ac yn hyfyw i wneud hynny, gyda gofalwyr maeth a theulu geni. Mae gan ofalwyr maeth gyfoeth o wybodaeth am flynyddoedd cynnar plentyn hefyd a gall hyn fod yn adnodd anhygoel o wybodaeth i'w teulu mabwysiadol.

    Rydym yn gwerthfawrogi bod cyswllt yn aml yn destun pryder i ddarpar rieni, ond byddem yn annog darpar rieni i ofyn cwestiynau a dysgu mwy gyda meddylfryd agored i helpu eu hunain i amgyffred pwysigrwydd y perthnasoedd parhaus hyn ar gyfer eu plentyn/plant.

    Yn y pen draw mae plentyn sydd â phrofiad o ofal yn cael ei garu gan nifer o bobl. Po fwyaf y gellir dangos hyn drwy berthynas barhaus, go iawn, y mwyaf cadarnhaol yw’r profiadau y byddwn yn parhau i'w gweld ar gyfer plant / oedolion ifanc wrth iddynt gofleidio eu stori a'u cysylltiadau bywyd.

     

    Adnoddau Pellach

    Ar hyn o bryd mae diffyg gwybodaeth ar-lein am bwysigrwydd cadw mewn cysylltiad â theulu maeth yn benodol, fodd bynnag, isod mae rhai adnoddau am bwysigrwydd cyswllt parhaus i blentyn:

     

    • . PAC-UK Llais Coll Teuluoedd Biolegol:Yn ffilm fer, ddwys PAC-DU mae teuluoedd biolegol yn rhannu’n onest eu bywydau a’r amgylchiadau arweiniodd at gymryd eu plentyn oddi wrthynt a chael ei fabwysiadu. Maen nhw'n trafod galar, sut mae'r golled yma wedi effeithio ar eu bywydau: PAC-UK yn cyflwyno: Lleisiau Coll Teuluoedd Biolegol - YouTube

     

    • . Podlediad Two Good Mums: Mae’r fam gyntaf (mam geni), Laura a’r fam fabwysiadol, Peggy yn siarad am sut y gwnaethon nhw adeiladu perthynas ar ôl i Peggy fabwysiadu plant Laura. Maen nhw'n tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol a gafodd hyn iddyn nhw a'u plant: Podlediad | Two Good Mums

     

    • . Four Thought: Mum… Again: Mae Angela'n tynnu sylw at drawma colli cysylltiad gyda'i phlant biolegol a'r hyn y gellir ei wneud i annog cyswllt parhaus: Four Thought, Mum... again

     

    • . All You Can Ever Know gan Nicole Chung: Mae'r llyfr hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhieni mabwysiadol yn rhagweithiol wrth ddarganfod mwy am deulu geni eu plentyn mabwysiedig a rhannu hyn gyda'r plentyn.

     

    • . Split Up in Care: Life Without Siblings: Cafodd Ashley John-Baptiste, gohebydd a chyflwynydd y BBC ei fagu mewn gofal maeth.  Credai Ashley ei fod yn unig blentyn tan un diwrnod, ac yntau yn ei 20au canol, cysylltodd dyn gydag e drwy'r cyfryngau cymdeithasol gan rannu mai ef oedd ei frawd. Yn y rhaglen ddogfen hon mae Ashley yn rhannu ei stori ei hun ac yn cydblethu lleisiau plant, pobl ifanc ac oedolion sydd â phrofiad o fod mewn gofal ochr yn ochr â  gweithwyr cymdeithasol a rhieni maeth: Split Up in Care: Life without Siblings

     

    • . Our Lives: Searching for My Other Mam: Yn 2022, bron i hanner can mlynedd ar ôl ei fabwysiadu, dechreuodd Gerallt chwilio i ddod o hyd i'w rieni genedigol a'r dreftadaeth ddu nad yw byth wedi ei nabod. Mae'r rhaglen ddogfen hon yn amlygu pwysigrwydd perthyn, dod o hyd i hunaniaeth, a phwysigrwydd treftadaeth ddiwylliannol: Our Lives - Cyfres 6: Searching for My Other Mam

     

    • Our Lives: Finding my Family: Wedi'i ffilmio dros dair blynedd, mae'r rhaglen ddogfen hon yn amlygu'r daith y mae Leah, person mabwysiedig yn mynd arni i ddod o hyd i'w theulu genedigol: Our Lives - Cyfres 5: Finding my Family

     

     

    Mae gennym dîm llawn amser, mewnol sy'n ymroddedig i roi cymorth â mabwysiadu, blwch llythyrau a gwaith stori bywyd ac mae gennym hefyd ymgynghorydd rhiant biolegol yn ein tîm sy'n cefnogi teuluoedd geni i gysylltu / ail-gysylltu â'u plant.

    I gael gwybod mwy am gysylltiad uniongyrchol ac anuniongyrchol drwy ein hasiantaeth ewch i'n gwefan: Contact (adopt4vvc.org)

    Os ydych chi'n berson mabwysiedig, teulu mabwysiadol, teulu geni neu ofalwr maeth a hoffech gysylltu neu ail-gysylltu neu os hoffech gymorth gyda stori bywyd, yna cysylltwch â'n Tîm cymorth mabwysiadu / blwch llythyrau / stori bywyd: contact@adopt4vvc.org / 0800 023 4064. Dyw hi byth yn rhy hwyr i ffurfio neu ail adeiladu perthynas.

    Os ydych yn Ofalwr Maeth, gallwch hefyd gael cymorth a chyngor gan Maethu Cymru.

  • Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu: Dymor Dau Dweud y Gwir: Straeon Mabwysiadu

    17 Hydref, 2022

    Un o’r ffyrdd gorau o ysbrydoli a thawelu meddwl pobl i fabwysiadu yw trwy rannu straeon bywyd go iawn y rhai sydd wedi bod yno ac wedi gwneud hynny. 

    Mae Dweud y Gwir: Straeon Mabwysiadu, podlediad  wrth y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, yn anelu at fod yn adnodd addysgiadol sy’n cynnwys grŵp amrywiol o fabwysiadwyr yn trafod eu profiadau cyffredin gyda’i gilydd.

    Profodd tymor un o’r podlediad  yn hynod boblogaidd gyda mabwysiadwyr a darpar fabwysiadwyr a rhai a fabwysiadwyd, yn cyflawni dros 17,000 o lawrlwythiadau ar draws y DU a thu hwnt. 

    Ar gyfer tymor dau, rydym wedi cynyddu’r cynhyrchiad. Bydd pob pennod yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gael i’w gwrando ar Spotify, Apple Music a llwyfannau ffrydio eraill, a’u gwylio ar YouTube.

    Mae tymor dau yn cynnwys chwe phennod sy’n treiddio’n ddwfn i realiti mabwysiadu yn 2022. Mae ein teuluoedd yn cyffwrdd â rhai o heriau presennol gofal, gan gynnwys trawma cynnar, ac yn rhannu enghreifftiau o ble maen nhw wedi cyrchu cymorth ac arweiniad. 

    Clywn hefyd ein mabwysiadwyr yn siarad am y perthnasoedd y maent wedi’u meithrin â’u teuluoedd maeth a’u brodyr a’u chwiorydd biolegol a’r manteision y maent wedi’u rhoi i’r teulu cyfan ac i ddatblygiad y plant.

    Hefyd, mae cyngor uniongyrchol ar y ffordd orau i lywio’r system addysg i sicrhau bod eich plentyn yn cael y cymorth sydd ei angen arno.

    Gall y plant sy’n aros hiraf i gael eu mabwysiadu ar hyn o bryd fod ychydig yn hŷn, yn rhan o grŵp o frodyr a chwiorydd neu o ethnigrwydd BAME. Mae ein teuluoedd yn mynd i’r afael â rhai o’r stigmas sy’n gysylltiedig â mabwysiadu ac yn ailddatgan bod mabwysiadu i bawb. 

    Mae’r plant sy’n aros wrth galon y tymor hwn, ac felly i gloi’r gyfres, roeddem wrth ein bodd yn cydweithio â’r Cyngor Ieuenctid ar gyfer ein pennod feddiannu arbennig. Clywn gan fabwysiadwyr ledled Cymru a fydd yn trafod eu taith hyd yn hyn ac yn rhannu gwirioneddau mabwysiadu yn 2022.

    Mae pob un o’n teuluoedd yn wahanol. Mae’r straeon yn amrywio o’r un rhyw, mabwysiadwyr unigol a mabwysiadwyr sengl i fabwysiadwyr hŷn a mabwysiadwyr brodyr a chwiorydd. Doedd neb yn adnabod ei gilydd cyn gwirfoddoli i gymryd rhan, ond o fewn eiliadau mae fel gwrando ar hen ffrindiau yn siarad wrth iddyn nhw fondio dros eu hangerdd dros fabwysiadu.

    Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau tymor dau. Os byddwch yn ei gael yn fewnweledol , rhannwch gyda’ch ffrindiau a’ch teulu i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i ddechrau teulu yn 2022. 

    Gallwch wrando neu wylio yma: Podlediad / Fideo

  • Barn broffesiynol: Jessica Rutherford - Gweithio gyda phobl sy'n byw gydag Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws

    12 Mai, 2022

    Mae ymchwil ddiweddar (2022) wedi datgelu y gallai hyd at bedair miliwn o bobl o Brydain fod ag Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws, lle mae amlygiad i alcohol cyn geni yn effeithio ar ymennydd a chorff babi sy'n datblygu. 

    Fe siaradon ni â Jessica Rutherford (Hi), Arweinydd y Gwasanaeth Achosion Cymhleth ac ASAFf yn Nudge Education; sefydliad sy'n brwydro i ddileu ymddieithriad cronig o addysg, i gael gwybod mwy am yr anhwylder.

    Fel rhan o'i rôl, mae Jessica, sydd â saith mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phobl sy'n byw gydag ASAFf ac sydd ar fin cwblhau ei PhD mewn Ymyriadau Addysgol ar gyfer plant sydd ag ASAFf yn cynnig cymorth arbenigol, pwrpasol i unigolion sydd wedi cael diagnosis neu yr amheuir bod ganddynt ASAFf a phobl â phroffiliau niwroddatblygiadol cymhleth nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu yn eu lleoliad addysg presennol. 

    Dyma ei barn hi: 

    C:  Beth yw Anhwylder Syndrom Alcohol y Ffetws (ASAFf)?

    Mae Anhwylder Syndrom Alcohol y Ffetws (ASAFf) yn anabledd ar yr ymennydd. Mae'n niwed organig i'r ymennydd sydd wedi'i achosi o ganlyniad i amlygiad i alcohol cyn geni.

    Ar hyn o bryd mae pedwar cant ac wyth ar hugain o gyflyrau sy'n cydfodoli sy'n golygu bod cael ASAFf yn gwneud plentyn yn fwy agored i'r cyflyrau eraill hyn.

    Nid oes unrhyw swm diogel o alcohol i'w yfed yn ystod beichiogrwydd.  Rwy'n credu ei fod yn fwy niweidiol nag unrhyw sylwedd arall; Credaf y gallai amlygiad i heroin fod yn llai niweidiol i ffetws sy'n datblygu nag alcohol. 

     

    C:  Pa mor gyffredin yw ASAFf yn y DU?

    Mae'r ffigurau niferoedd a gawsom o astudiaeth sgrinio yn 2019 yn awgrymu y gallai rhwng 6% a 17% o'r boblogaeth gyffredinol fod ag ASAFf gydag ymchwil pellach. Nid oes gennym unrhyw ddata cywir am y niferoedd sy'n cael diagnosis ar hyn o bryd.  

    Yn 2021, cynhaliwyd astudiaeth niferoedd gan Brifysgol Salford gyda chanlyniadau'n awgrymu cyfradd niferoedd o rhwng 1.6% a 3.8%. Mae hynny'n wahaniaeth enfawr sy'n dangos bod angen astudiaethau pellach.  

    Mae unigolion sydd ag ASAFf yn aml yn wynebu heriau gydag addysg a gallant ymddieithrio'n hawdd pan nad ydynt yn cael eu cefnogi'n briodol, neu os yw eu lleoliad ysgol yn anaddas ar gyfer eu hanghenion. 

    O'm profiad i, rydym yn gweld nifer uwch o achosion o ASAFf ymhlith y boblogaeth sydd wedi ymddieithrio o addysg, yn agosach at 15-20% mae'n debyg, a dyna pam y gwnaethom sefydlu'r gwasanaeth Achosion Cymhleth ac ASAFf penodedig yn Nudge. 

     

    C:  Beth yw'r symptomau a sut mae'n effeithio ar blant?

    Nid oes unrhyw ddau blentyn yn cyflwyno'r un peth gydag Anhwylderau Sbectrwm Alcohol y Ffetws.

    Mae ASAFf yn effeithio ar yr ymennydd a'r system nerfol ganolog felly gall plentyn arddangos symptomau emosiynol, ymddygiadol neu gorfforol. 

    Mae gan tua 10% o unigolion sydd ag ASAFf rai nodweddion ffisegol sy'n gysylltiedig ag ASAFf y mae'r rhan fwyaf ohonynt i’w gweld yn yr wyneb fel philtrum llyfn (y rhan rhwng y trwyn a'r wefus uchaf) a gwefus uchaf tenau. 

    Mae rhai o'r symptomau y gall plentyn sydd ag ASAFf eu cael yn cynnwys: heriau prosesu synhwyraidd, gweithredu gwael, problemau cysgu eithafol, datblygiad neu dwf araf, problemau cydsymud neu gof ac anawsterau gyda phrosesu clywedol.  Mae plant sydd ag ASAFf hefyd yn llawer mwy tebygol o ddioddef dibyniaeth a phroblemau iechyd meddwl yn ddiweddarach mewn bywyd na'u cyfoedion.

     

    C:  Beth ydych chi'n ei fwynhau am weithio gyda theuluoedd a phobl sy'n byw gyda ASAFf – a pham wnaethoch chi ddechrau gweithio gyda nhw?

    Dechreuais weithio gyda phobl sy'n byw gydag ASAFf fel rhan o'm PhD yn gyntaf – ond fe wnes i ddarganfod fod gennyf awydd i gyfarfod a chael dealltwriaeth wirioneddol o'r rhai sy'n byw gyda'r cyflwr. Ar ôl i mi gyfarfod â theuluoedd a phobl sy'n byw gydag ASAFf, roedd gennyf ddiddordeb mawr yn y cyflwr, sut mae'n amlygu ei hun, sut mae’n cael ei gamddeall – a pha mor wirioneddol ryfeddol yw pobl sy'n byw gydag ASAFf.  A'u gofalwyr, maen nhw’n anhygoel.  Nid wyf erioed wedi dod ar draws grŵp o rieni sy’n brwydro mor galed ac yn ddiflino dros eu plant.

    Mae fy niddordeb a'm gwaith yn y maes hwn wedi parhau i dyfu gan fod y rolau yr wyf wedi'u cael yn caniatáu i mi gefnogi gofalwyr yn rhai o'r heriau dyddiol y maent yn eu hwynebu, yn enwedig o ran addysg.

     

    C:  Ym mis Ebrill 2022, nododd NICE (y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal) sut y gall gwasanaethau iechyd a gofal wella diagnosis, asesu ac atal ASAFf.  Beth yw eich ymateb i hyn?

    Mae hon yn garreg filltir i'r gymuned ASAFf.  Mae’r cyhoeddiad yn amlinellu pum maes allweddol i'w gwella ar gyfer darparwyr gwasanaethau lleol ac mae'n rhywbeth y mae gweithwyr proffesiynol wedi bod yn gweithio tuag ato ers blynyddoedd lawer.  

    • Bydd merched beichiog bellach yn cael cyngor ac yn cael eu holi am y defnydd o alcohol yn ystod beichiogrwydd a ddylai arwain at leihad yn nifer y rhai sydd mewn perygl o ASAFf.
    • Bydd plant yr amheuir bod ganddynt ASAFf yn cael eu hatgyfeirio ar gyfer asesiad arbenigol.
    • A bydd gan y rhai sy'n byw gyda'r cyflwr bellach gynllun rheoli i gefnogi eu hanghenion.

    Rwy’n falch iawn dros y rheiny sy'n byw gydag ASAFf oherwydd mae gennym nawr ddogfennaeth hanfodol ar waith i greu llwybr at ddiagnosis a chymorth priodol. 

    Hyd yma, mae addysg wedi bod yn faes o anhawster sylweddol i lawer o'r rhai sy'n byw gydag ASAFf.  Y gobaith yw mynd i'r afael â heriau mewn addysg drwy lansio Safonau Ansawdd NICE.  

     

    C:  Beth allwn ni ei wneud i gefnogi plant sydd ag ASAFf?

    Mewn tua 90% o achosion, mae ASAFf yn anabledd cwbl gudd heb unrhyw arwyddion corfforol.  Rydym yn aml yn gweld llawer o gamddiagnosis o'r anhwylder oherwydd ei fod yn cyflwyno mewn ffordd debyg i ADCG ac Awtistiaeth. 

    Fodd bynnag, mae ymyrraeth gynnar yn gwbl allweddol.  Mae'n bwysig i blentyn gael diagnosis o ASAFf fel y gall ddechrau derbyn cymorth arbenigol gan weithwyr proffesiynol fel therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol, seicolegwyr a ffisiotherapyddion.  Gall cael mynediad i'r gwasanaethau hyn yn gynnar iawn helpu i wella'r canlyniadau i blentyn.

    Y rheswm am hyn yw er bod yr ymennydd yn dal i ffurfio, mae ganddo'r gallu i drwsio ei hun ac i ryw raddau atal y difrod.  Gelwir hyn yn niwroblastigedd.  

    Mae ASAFf yn anabledd gydol oes, mae'n anaf i'r ymennydd, ac er nad oes modd gwella'r cyflwr hwn, os yw plentyn eisoes yn cael diagnosis, mae mewn sefyllfa ragorol i gael mynediad at y cymorth cywir a chael y cymorth cywir. 

    I'r rhieni hynny sy'n credu y gallai fod gan eu plentyn ASAFf ond nad ydynt eto wedi cael diagnosis, byddwn yn eu cynghori i siarad â'u gweithwyr iechyd proffesiynol, darllen drwy unrhyw ddogfennau sy'n gysylltiedig â'r plentyn os oes ganddynt brofiad o ofal a pharhau i gofnodi unrhyw ymddygiad sydd, yn eu barn nhw, ychydig yn anarferol a mynd â hwy at eu darparwr gofal iechyd, siarad â'u hysgol am gymorth gydag addysg neu gysylltu â chymorth mabwysiadu.

     

    C:  Pa adnoddau sydd ar gael i unigolion / plant sy'n byw gydag ASAFf a'u teuluoedd / rhwydwaith cymorth?

    Mae nifer o sefydliadau sy'n darparu cymorth megis: 

     

    Os ydych chi'n berson mabwysiedig sy'n byw gydag ASAFf neu'n berson sy'n rhianta neu’n rhan o rwydwaith cymorth plentyn / unigolyn mabwysiedig sy'n byw gydag ASAFf ac yr hoffech gael cyngor, eich cyfeirio neu gael cymorth mabwysiadu uniongyrchol, cysylltwch â ni: 0800 023 4064 / contact@adopt4vvc.org / Cymorth Mabwysiadu’r FCCh

  • Cymdeithasol Teuluol newydd a'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cyhoeddi partneriaeth newydd

    11 Mawth, 2022

    Mae New Family Social yn falch iawn o gyhoeddi heddiw 11 Mawrth, diwrnod olaf Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT+, bartneriaeth newydd gyda Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

    Bydd y berthynas strategol hon yn golygu y gall ymgeiswyr LHDTQ+ i wasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol yng Nghymru wneud cais i gael mynediad i aelodaeth Aur New Family Social yn rhad ac am ddim. Mae’n berthnasol i’r holl fabwysiadwyr LHDTQ+ sydd wedi mabwysiadu neu’n cael eu cefnogi gan awdurdod lleol o Gymru ac i bob ymgeisydd LHDTQ+ yn y dyfodol sy’n dilyn y llwybr hwn.

    Dyma’r bartneriaeth genedlaethol gyntaf o’i bath gyda New Family Social yn unrhyw un o wledydd y DU. Mae’n darparu lefel gyson o wasanaethau cymorth cymheiriaid i fabwysiadwyr LHDTQ+ ac ymgeiswyr mabwysiadu, pa bynnag gonsortiwm awdurdod lleol y maent yn gwneud cais drwyddo. Bydd gweithwyr cymdeithasol mabwysiadu ar gyfer awdurdodau lleol Cymru hefyd yn elwa ar gymorth penodedig a mynediad at yr arferion da diweddaraf wrth weithio gyda phobl LHDTQ+, a ddatblygwyd gan New Family Social. 

  • Mae ymgyrch newydd a lansiwyd gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn gobeithio annog mwy o bobl i fabwysiadu'r plant hynny sy'n aros hiraf

    Ar unrhyw un adeg mae tua 119 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu yng Nghymru, gyda 29 o'r plant hynny yn aros am naw mis neu fwy. 

    I fechgyn, grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant dros dair oed, a’r rhai sydd â hanes cynnar cymhleth, gall yr aros i ddod o hyd i gartref am byth bara am amser hir. 

    Ar gyfartaledd, mae brodyr a chwiorydd yn aros 135 diwrnod yn fwy na phlant unigol i gael eu mabwysiadu. I lawer o ddarpar rieni gall meddwl am fabwysiadu dau blentyn neu fwy godi pryderon am fforddiadwyedd a gofod ffisegol. 

    Ond nod ymgyrch newydd sy'n cael ei lansio gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yw annog mwy o bobl i fabwysiadu'r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf. 

    Meddai Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru:

    “Gwyddom o waith ymchwil a gynhaliwyd o fewn gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru fod mythau mewn perthynas ag oedran a rhyw yn parhau i fodoli; mae rhai darpar fabwysiadwyr yn credu bod plant iau yn cyflwyno llai o broblemau ac mae eraill yn teimlo ei bod yn haws gofalu am ferched.

    Nid yw hyn bob amser yn wir gan fod gan bob plentyn anghenion a phrofiadau gwahanol ac yn aml gall y plentyn tawelach fod yn anoddach gweithio ag ef. Weithiau rydyn ni’n gwybod llai am brofiadau plentyn iau ond efallai y bydd gennym ni wybodaeth fanylach am blentyn hŷn. Ar gyfer y plant hŷn hyn rydym yn aml mewn sefyllfa well i ragweld unrhyw anghenion cymorth yn y dyfodol pe bai ei angen arnynt.

    Rydym yn llwyddo i leoli plant o bob grŵp oedran, rhyw, cefndir ac amgylchiadau, ond yn anffodus mae’n bosibl y gall plant hŷn, bechgyn, grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant ag anghenion ychwanegol aros ychydig yn hirach. Rydym yn annog pobl i ystyried pob plentyn wrth ddod i mewn i’r broses fabwysiadu. Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a’i dimau rhanbarthol yn cefnogi pawb sy’n cael eu heffeithio gan fabwysiadu, gan weithio gyda rhieni biolegol a pherthnasau, rhieni mabwysiadol a gweithwyr proffesiynol i wneud yn siŵr bod lles gorau plentyn yn cael ei roi wrth wraidd pob mabwysiadu." 

    Yn eu hysbyseb teledu newydd bwerus dilynwn hanes plentyn saith oed wrth iddo gael ei baru â’i deulu newydd. Mae’r hysbyseb emosiynol yn agor gyda bachgen ifanc yn cyfarch ei dad mabwysiedig yn gwisgo pob eitem o’i ddillad, gan gynnwys het wlanog a menig, esgidiau glaw melyn a gogls glas llachar. Mae'r hysbyseb (sy'n cynnwys actorion) yn datgelu sut mae'r plentyn wedi cael ei symud o gwmpas llawer ac y gallai gymryd amser i ddod allan o'i gragen. Rydyn ni'n gwylio wrth i'r bachgen bach frwydro i fwyta ffa pob ar dost gyda menig ymlaen a pha mor anodd yw sgorio gôl mewn esgidiau glaw. Yn y pen draw, mae'r bachgen yn teimlo'n ddigon diogel i dynnu ei ddillad amddiffynnol, yn gallu bwyta popcorn a gwylio ffilm gyda'i dad. 

    Daw’r hysbyseb i ben gyda’r tad a’r mab yn gwisgo pâr o gogls yn hapus, gyda’r geiriau ‘Dewis mabwysiadu. Dewis teulu.' 

    Mae’r hysbyseb yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn o fabwysiadu ledled Cymru – gan gynnwys Clare a Gareth a fabwysiadodd grŵp o frodyr a chwiorydd trwy Fabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd yn 2016. 

    Eglura Clare:

    “Roedd ein mab yn gwisgo ei gogls nofio bob dydd, ym mhobman yr aeth o’r diwrnod y symudodd i mewn nes i’r strapiau rwber ddiflannu a chwympo’n ddarnau.” 

    Wrth gyfeirio at yr hysbyseb dywed Suzanne Griffiths:

    “Rydym yn gobeithio y bydd yr hysbyseb teledu newydd yn helpu pobl sy’n meddwl am fabwysiadu i ddeall bod plant sydd wedi cael dechrau anodd neu heriol mewn bywyd yn aml wedi datblygu eu ffyrdd eu hunain o ymdopi ac felly mae angen amser, amynedd a chefnogaeth i'w helpu i ymgartrefu yn eu teuluoedd newydd. Mae rhai yn ymgartrefu'n haws nag eraill ond yr hyn sy'n bwysig yw eu bod yn cael eu galluogi i wneud hynny ar eu cyflymder eu hunain. Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cynnig cymorth i bob teulu newydd a sefydledig i gynorthwyo gyda’r addasiadau cynnar hynny, a thrwy gydol eu taith gydol oes fel teulu.”

    Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gofyn i bobl rannu delweddau ohonynt eu hunain yn gwisgo gogls ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod #DewisTeulu: adoptcymru.com/dewisteulu

  • Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn Lansio Ymgyrch #ChooseFamily yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2021
    Mae #DewisTeulu yn ymgyrch newydd gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) i agor meddyliau a chalonnau pobl i’r plant sy’n aros i gael eu mabwysiadu ar hyn o bryd: adoptcymru.com/dewisteulu
  • Podlediad Dweud y Gwir yn Blaen yn Cipio’r Aur 

    04 Hydref, 2021

    Enillodd ein podlediad wobr Aur am y Defnydd Gorau o Gynnwys yng ngwobrau CIPR PRide Cymru eleni gwobr sy'n dathlu ac yn cydnabod cyfathrebiadau gwych. 

    Dyma beth oedd gan y beirniaid i'w ddweud: 

    “Daeth yr ymgyrch hon ag agwedd ffres iawn at fater cymhleth a sensitif, gyda ffocws ar adrodd straeon a phrofiadau bywyd go iawn. Fe wnaeth dull manwl o ymchwilio ac ymglymiad grwpiau teulu amrywiol o’r cychwyn greu podlediad cymhellol ac arloesol a ysbrydolodd ymgysylltiad newydd a ffrwythlon i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.” 

    Dywedodd y cyflwynydd podlediad a Swyddog Polisi ac Ymarfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Corienne Strange:

    “Fel llawer o sefydliadau nid oedd gennym unrhyw syniad beth fyddai’r pandemig yn ei olygu i’n gwasanaeth. Roedd y podlediad yn hollbwysig wrth ein helpu i rannu ein neges ond daeth â phobl ynghyd ar adeg pan oedd cysylltiad mor anhygoel o bwysig. Yr hyn y gwnaethon ni ddod i ben ag ef oedd cynnyrch proffesiynol a chyfredol sydd nid yn unig yn wrandawiad pleserus, ond does dim amheuaeth y bydd yn sefyll prawf amser i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wrth i ni barhau â’n cenhadaeth i annog mwy o bobl i fabwysiadu. Ni allem fod yn hapusach gyda’r gydnabyddiaeth aur i bawb dan sylw.” 

    Diolch enfawr i'n mabwysiadwyr, ein tîm cyfathrebu yn Cowshed a'r cynhyrchwyr podlediad yn Bengo Media am eu holl amser, didwylledd a’u gwaith caled. 

    Podlediad: Dweud y Gwir yn Blaen
  • Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol 2020/21

    28 Medi, 2021

    Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020/2021. Un o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad yw bod yr ymholiadau cychwynnol wedi cynyddu gan 23% yn ystod 2020/21!

    Mae'r adroddiad yn ymdrin â gwybodaeth am:

    • Ymholiadau Ccychwynnol
    • Mabwysiadwyr cymeradwy
    • Plant a leolir
    • Cymorth mabwysiadu

    Yr adroddiad llawn: Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol 2020/21

  • Lansio ymgyrch Maethu Cymru i gynyddu nifer y Gofalwyr Maeth ledled Cymru

    20 Medi, 2021

    Mae ymgyrch gan 'Maethu Cymru', y rhwydwaith newydd o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol ledled y wlad, am gael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc. 

    Gyda dros draean (39%) o oedolion Cymru yn dweud eu bod wedi ystyried dod yn ofalwr maeth, mae ymgyrch newydd yn lansio ledled Cymru heddiw gyda'r nod o gynyddu nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth yn sylweddol mewn Awdurdodau Lleol.

    Ledled y wlad, mae pob plentyn sydd angen gofalwr maeth o dan ofal ei Awdurdod Lleol. Nod yr ymgyrch hysbysebu newydd, ar ran Caerdydd a'r 21 tîm maethu awdurdod lleol dielw arall yn 'Maethu Cymru', yw cynyddu niferoedd y rhieni maeth sydd eu hangen er mwyn helpu i gadw plant yn eu hardal leol, pan fydd hynny'n iawn iddynt.  

    Gall helpu plant i aros yn eu cymuned leol fod o fudd mawr a golygu'r byd i blentyn. Nid yn unig y mae'n eu cadw mewn cysylltiad â'u ffrindiau, eu hysgol a'u hymdeimlad o hunaniaeth, ond mae hefyd yn magu hyder ac yn lleihau straen. 

    Mae dal angen recriwtio tua 550 o ofalwyr maeth a theuluoedd newydd ledled Cymru bob blwyddyn. Mae hyn er mwyn bodloni’r angen gan blant am ofal a chymorth, ac i lenwi’r bylchau wrth i ofalwyr ymddeol neu er mwyn cynnig cartref parhaol i blant. 

    Tra bod pob plentyn yn wahanol, mae’r gofalwr maeth sydd ei angen arno hefyd yn wahanol. Nid oes y fath beth â theulu maeth 'nodweddiadol'. P'un a yw rhywun yn berchen ar ei gartref ei hun neu’n rhentu, p'un a yw rhywun yn briod neu'n sengl. Beth bynnag fo'u rhyw, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hethnigrwydd neu ffydd, mae yna bobl ifanc sydd angen cefnogaeth.   

    Bydd yr ymgyrch newydd gan Maethu Cymru yn cael ei chynnal ar y teledu, radio, Spotify a llwyfannau digidol.

    I gael gwybod mwy am faethu gydag Awdurdod Lleol Caerdydd, ewch i: www.maethucymru.llyw.cymru

  • Baromedr AUK 2021

    04 Awst, 2021

    Mae adroddiad Baromedr AUK yn paentio darlun cadarnhaol iawn i Gymru. Mae'n wych gweld ymgysylltiad mor gryf gan fabwysiadwyr Cymru a phositifrwydd ynghylch y sgwrs fabwysiadu - gydag 80% o ymatebwyr o Gymru yn debygol o annog eraill i fabwysiadu ac 83% yn teimlo'n optimistaidd am y dyfodol. Pleidlais o hyder yw'r canfyddiadau - gan ailadrodd pwysigrwydd y gwaith rydym yn ei wneud a'r angen i barhau i wneud hynny.

    Mae'n bwysig ein bod yn bachu ar y cyfle hwn i gydnabod a dathlu'r gwelliant sydd eisoes wedi digwydd, fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon ynghylch yr angen am welliant parhaus i wasanaethau mabwysiadu a chymorth dros y flwyddyn nesaf ar gyfer plant, pobl ifanc, a'u rhieni mabwysiadol. Bydd GMC yn parhau i weithio ar ddeall blaenoriaethau rhieni mabwysiadol, plant a phobl ifanc er mwyn cynnig cefnogaeth - yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio i fod yn oedolion. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu:

    • Cefnogaeth, hyfforddiant ac arweiniad i rieni sy'n mabwysiadu
    • Cefnogaeth iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddyliol
    • Hyfforddiant ‘ymwybyddiaeth’ mabwysiadu ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol
    • Cymorth taith bywyd sensitif ac amserol

    - Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

  • Adroddiad y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar Gymorth Mabwysiadu yng Nghymru

    07 Mai, 2021

    Rydym yn falch o gyhoeddi'r adroddiad hwn ar ymchwil a gwblhawyd ar gyfer GMC gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus ym Mhrifysgol Oxford Brooks. Daw'r canfyddiadau o weithgarwch a gynhaliwyd ym mis Hydref a mis Tachwedd 2020.  I gyd, clywodd yr astudiaeth gan dros 430 o unigolion yn ymwneud â chymorth mabwysiadu yng Nghymru, gan gynnwys 313 o rieni mabwysiadol.

    Mae'r adroddiad yn rhoi darlun calonogol o welliannau o ran argaeledd cymorth mabwysiadu yng Nghymru a phositifrwydd ymhlith teuluoedd mabwysiadol wrth ofyn am a derbyn cymorth, ac yn disgrifio gwasanaethau newydd ychwanegol ac arloesol. Mae'r astudiaeth hefyd yn rhoi cipolwg pwysig ar anghenion presennol teuluoedd mabwysiadol ochr yn ochr â nodi'r gwaith pellach sydd ei angen i greu gwasanaethau cyson a chynaliadwy.

    Bydd yr adroddiad yn parhau i weithredu fel glasbrint ar gyfer cynnal y trefniadau gwell a datblygu yn y dyfodol. Mae'r canfyddiadau'n cyd-fynd â chorff cynyddol o ymchwil sy'n dangos sut mae anghenion plant mabwysiedig yn debycach i blant sy'n 'derbyn gofal' na phlant eraill mewn perthynas â'u hanghenion emosiynol, iechyd a lles uwch. Gellir darllen yr adroddiad llawn yma.

    Mae'r prif ganlyniadau'n cynnwys:

    • . Cafodd y plant lawer mwy o anawsterau, fel y'u mesurwyd gan yr Holiadur Cryfderau ac Anawsterau a chan gynnwys diagnosisau penodol, na sampl gymharol o blant eraill.

     

    . Mae anghenion cymorth plant ar ôl mabwysiadu yn codi’n aml ar adegau o bontio, fel symud o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd, ac i rai gall hyn hefyd amharu ar fywyd bob dydd, fel newid annisgwyl i’r drefn arferol.

    • . Dywedodd cyfran uchel o rieni eu bod yn teimlo ei bod hi’n 'iawn gofyn am help' a’u bod yn gwybod sut i wneud hynny; roedd hyn yn uwch ar gyfer teuluoedd mabwysiadol newydd.

     

    . Teimlai mwy na hanner y rhieni, a mwy na 70% o weithwyr proffesiynol, fod angen gwneud mwy i wneud lleoliadau addysg yn gefnogol i anghenion plant mabwysiedig ac yn 'ymwybodol o fabwysiadu' gan nodi bod hwn yn ddarlun sy'n gwella.

    . Mae nifer sylweddol o fabwysiadwyr yn credu bod eu plant yn ffynnu gartref ac yn adrodd lefelau uchel o hyder o ran magu eu plant, yn enwedig y rhai yn y grwpiau oedran iau ac er gwaethaf yr effaith ar eu lles eu hunain, ond nodwyd hefyd eu bod wedi gwneud newidiadau er mwyn 'gwneud i bethau weithio iddyn nhw a'u teulu'.

    . Dywedodd bron i 50% o'r mabwysiadwyr a gymerodd ran fod y pandemig Covid 19 wedi effeithio ar eu hangen am gymorth.Nododd llawer, er bod y diffyg pwysau allanol wedi lleddfu rhai pethau, fod y diffyg rhyngweithio â phlant/oedolion eraill a dychwelyd i'r gwaith/ysgol wedi creu straen a heriau ychwanegol.

  • Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd 2021

    16 Mawrth, 2021

    Yn gynharach y mis hwn, gofynnon ni i'n tîm rannu eu profiadau o waith cymdeithasol; beth wnaeth eu hysbrydoli i fod yn weithiwr cymdeithasol, beth sydd wedi eu herio a beth fydden nhw'n ei ddweud wrth eraill sy'n ystyried dod yn weithwyr cymdeithasol.

    Dyma eu straeon:

    Sharron

    "Meddyliais am ymgymryd â gyrfa mewn gwaith cymdeithasol yn ystod canol fy 20au.  Roeddwn yn ffodus o gael cyfle i weithio ochr yn ochr â Thîm Plant ag Anableddau wrth i mi gydlynu cynlluniau chwarae integredig i blant 5-18 oed. Fe'm hysbrydolwyd gan hyn i fod yn weithiwr cymdeithasol gan y gallwn weld sut yr oedd gweithwyr cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i'r plant mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Roeddwn bob amser eisiau gweithio mewn tîm gofal maeth neu dîm mabwysiadu ers cymhwyso gan fod helpu plant i ddod o hyd i sefydlogrwydd yn waith sy’n rhoi cymaint o foddhad.  Rwy'n teimlo'n freintiedig fy mod wedi gweithio yn y Gwasanaeth Mabwysiadu ers blynyddoedd lawer ac er ein bod yn wynebu llawer o heriau, mae gweld plentyn yn ymgartrefu gyda theulu mabwysiadol oherwydd eich bod wedi helpu i'w wneud yn bosibl yn rhywbeth eithaf arbennig. Byddwn yn cynghori unrhyw un sy'n ystyried dod yn weithiwr cymdeithasol i geisio cael cymaint o brofiad o ofal cymdeithasol/profiad bywyd ag y gallant cyn iddynt ddewis hyn fel gyrfa gan ei fod yn cadw eich traed ar y ddaear. Mae bod yn weithiwr cymdeithasol wedi fy helpu i feddwl am y darlun ehangach; mae wedi fy helpu i roi fy hun yn esgidiau pobl eraill ac yn gyffredinol wedi fy ngwneud yn berson mwy meddylgar, sy'n gwerthfawrogi'r pethau llai mewn bywyd yn llawer mwy."

    - Sharron, Tîm Recriwtio ac Asesu

     

    Chris

    "Rwyf wedi cael amrywiaeth o swyddi dros y 41 mlynedd diwethaf, gan gynnwys gweithio ym maes ymchwil meddygol ac addysgu gwyddoniaeth, ond ers 26 mlynedd, rwyf wedi bod yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Wrth wneud hynny rwyf wedi cael y fraint o fod ochr yn ochr â llawer o deuluoedd, wrth iddyn nhw brofi llawenydd enfawr a thristwch dwfn. Mae’n parhau i fod y swydd fwyaf heriol a buddiol yr wyf wedi'i gwneud erioed. Gwn nad oes atebion holl-gywir ac anghywir mewn gwaith cymdeithasol; gallaf ond geisio gwneud fy ngorau, peidio byth â bod yn hunanfodlon a pheidio byth â rhoi'r gorau i ddysgu."

    - Chris, Tîm Cymorth Mabwysiadu

     

    Sheree

    “I mi, rwyf bob amser wedi bod eisiau gwneud gwaith cymdeithasol, dwi ddim yn siŵr pam ond dwi’n meddwl mai’r awydd cyffredinol i helpu eraill, i rymuso pobl a’u helpu i gael y sgiliau a'r wybodaeth gywir i'w helpu yn eu gallu i wneud penderfyniadau. Rwyf wedi gweithio mewn sawl maes gwaith cymdeithasol sydd i gyd wedi rhoi mwy o sgiliau i mi ac rwyf wedi dysgu llawer iawn o'r meysydd hyn. Byddwn yn dweud wrth rywun sydd am fod yn weithiwr cymdeithasol, gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn rhoi amser i chi’ch hun, gan fod gwaith cymdeithasol yn gofyn am dipyn o’ch amser.  Mae hunanofal yn bwysig iawn a gallwch golli nabod arnoch chi eich hun os na wnewch chi weithredu ar hyn.  Byddwch yn drefnus, a byddwch yn barod am y pethau annisgwyl sy'n codi.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn dechrau eich diwrnod gyda chynllun o'r hyn rydych chi'n mynd i'w wneud. Fyddwch chi byth yn cwblhau eich rhestr o 'Bethau i’w Gwneud' mewn un diwrnod! Mae gwaith cymdeithasol bob amser yn newid, mae ffyrdd newydd o reoli a gwneud pethau yn ymddangos bob amser. Byddwch yn hyblyg ar gyfer newid.”

    -        Sheree, Tîm Canfod Teulu

     

    Emily

    Beth / Pwy wnaeth eich ysbrydoli i astudio gwaith cymdeithasol?

    Mae'n debyg i mi gael fy rhoi ar y trywydd iawn i fod yn weithiwr cymdeithasol gan fod fy Mam bob amser wedi gweithio mewn swyddi’n cefnogi lles a chyfiawnder cymdeithasol (ac wedi arfer mynd â mi i'r gwaith yn aml pan oeddwn i'n fach) – mae hi'n dal i wneud, ac roedd fy Llys-Dad yn Swyddog Heddlu am 30 mlynedd. Roedd y ddau ohonynt bob amser yn cymryd eu gwaith o ddifrif a chredaf eu bod wedi meithrin ynof y sylweddoliad bod bywyd yn galed iawn i rai, a wnaeth yn fy marn i, fy arwain tuag at ryw fath o yrfa yn gweithio gyda phobl, beth bynnag fyddai hynny. 

    Roeddwn i'n weithiwr ieuenctid cyn i mi ddychwelyd i'r brifysgol i ddod yn weithiwr cymdeithasol. Roeddwn wrth fy modd yn fy swydd yn gweithio gyda phobl ifanc ond roeddwn i'n teimlo bod llawer mwy y gallwn ac y dylwn fod yn ei wneud. Roeddwn i'n aml yn teimlo y gallwn helpu mwy pe bawn ond yn deall amgylchiadau'r bobl ifanc yn well, yn enwedig y rhai a ddaeth atom o'r gwasanaethau troseddau ieuenctid neu'n gadael gofal.  Yn eironig, gwn yn awr y gallwn fod wedi bod yn fwy defnyddiol pe bai eu gweithwyr cymdeithasol wedi bod yn well am gysylltu â'n gwasanaeth – darllenwch unrhyw adolygiad achos difrifol a byddwch yn siŵr o ddod o hyd i broblemau gyda chydweithio wedi'u hamlygu. 

    Ar ôl i mi gymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol, fe wnes i ymdrech enfawr bob amser i gysylltu â phob math o wahanol asiantaethau, nid dim ond y rhai amlycaf, gan gynnwys y gwasanaeth ieuenctid yn yr ardaloedd yr oeddwn yn ymdrin â hwy pan oeddwn yn weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant.  Roeddwn i'n arfer galw heibio ar nosweithiau ieuenctid i gael sgyrsiau tawel gyda'r gweithwyr ieuenctid ac adeiladu fy nghysylltiadau â nhw fel hyn. Roedd eu hymwneud bob amser yn amhrisiadwy i'm gwaith gyda rhai o'm pobl ifanc hŷn ond hefyd weithiau i'w brodyr a'u chwiorydd iau.  Mae'n anhygoel pa wybodaeth leol a drama sy’n deillio o nosweithiau clybiau ieuenctid.  

     

    Pam wnaethoch chi benderfynu cymryd swydd yn y tîm mabwysiadu?

    Ni feddyliais erioed y byddwn yn gweithio ym maes mabwysiadu yn y pen draw.  I’r gwrthwyneb. Roeddwn bob amser am weithio yn y gwasanaethau troseddau ieuenctid neu adael gofal gyda phobl ifanc hŷn, er fy mod bob amser yn dwlu ar y rhai bach.

    Mi newidiodd un ferch fach a'i Mam yn ei harddegau oedd ymhlith fy llwyth achosion amddiffyn plant, lwybr fy ngyrfa i gyd. Roeddwn bob amser yn teimlo bod rhan fach o'm henaid yn cael ei chymryd bob tro roedd rhaid i mi dynnu plentyn oddi ar eu rhieni er eu diogelwch eu hunain; nid oedd yn rhan o'r swydd y byddaf byth yn teimlo'n falch ohoni - roedd y ffaith fy mod wedi gwneud plant yn fwy diogel yn deimlad gwych ond gallai’r loes calon oedd yn dod law yn llaw â hynny i bawb dan sylw fod yn eithaf gofidus. Cofiaf roi'r ferch fach hon gyda'i mabwysiadwyr a theimlo ymdeimlad enfawr o gyfrifoldeb.  Roedd ei Mam wedi erfyn arnaf dro ar ôl tro i beidio â'i rhoi gyda mabwysiadwyr ond i fynd â hi adref gyda mi, fel y gwnaeth ei Mam-gu.  Er gwaethaf y peth ofnadwy yr oeddwn wedi'i wneud iddyn nhw, na fyddan nhw byth yn ei oresgyn, roeddwn nhw’n ymddiried ynof, ac roedd hynny’n teimlo'n llethol. Roedd Mam y ferch fach mor ifanc ei hun a'i phlentyndod ei hun yn anhygoel o drawmatig; roedd hi wedi bod angen mabwysiadwyr ei hun ac ni allwn ddianc rhag y teimlad bod angen iddi hi gael yr union beth oedd yn digwydd i'w merch. Treuliais oriau di-dâl diddiwedd yn creu llyfr stori bywyd y ferch fach hon ac yn ysgrifennu’r llythyr ati yn ei bywyd yn ddiweddarach (fe wnes i’r rhain dros ei Mam hefyd) ac roedd ffarwelio â hi'n eithaf caled ar ôl popeth yr oeddwn wedi'i brofi law yn llaw â’r un fechan hon; teithiau hwyr y nos ar draffyrdd i lochesi menywod gyda hi a Mam, ei chasglu o’r ysbyty sawl gwaith ar ôl taro ei phen, newid cewynnau yng nghist fy nghar am na allai/na fyddai Mam yn ei wneud, a’i diddanu mewn oriau cyswllt pan nad oedd ei Thad yn gallu gwneud dim ond dweud ei henw wrthi. Roeddwn i methu peidio, roedd gennym gwlwm bychan a sylweddolais fy mod am ddeall llawer mwy am sut roedd bywyd yn debygol o droi allan i'r ferch fach hon a rhai bach eraill fel hi, felly pan ddaeth swydd mewn mabwysiadu yn wag, fe wnes i gais. Fe wnes i hefyd sicrhau cyfweliadau gyda thîm troseddau ieuenctid lleol. Cynigiwyd swyddi i mi yn y ddau faes; er mawr syndod i mi fy hun, dewisais fabwysiadu ac rwyf mor falch fy mod wedi gwneud hynny. Credaf yn gryf y dylai pob gweithiwr cymdeithasol sy'n gweithio ym maes amddiffyn plant dreulio o leiaf 6-12 mis yn gweithio mewn tîm mabwysiadu; Rwyf wedi dysgu cymaint, a gwn, pe byddwn yn dychwelyd i faes amddiffyn plant, y byddwn yn ymarfer yn hollol wahanol.

    -        Emily, y Tîm Recriwtio ac Asesu

  • Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT+ 2019 - Mawrth 2021

    01 Mawrth, 2021

    Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT+ Hapus! 

    Drwy gydol yr wythnos hon, rydym ochr yn ochr â, New Family Social yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ac yn annog pobl sy'n ystyried eu hunain yn LHDT+ i ystyried mabwysiadu.

    Rydym ni yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd yn dathlu teuluoedd o bob lliw a llun. Mae hyn yn golygu ein bod yn derbyn ymholiadau gan bobl beth bynnag fo'u rhywioldeb, mynegiant rhywedd, hunaniaeth rhywedd, unrhyw un 21+ oed, pobl â ffydd neu hebddo, pobl sy'n sengl, yn cyd-fyw, wedi dyweddïo neu'n briod, o unrhyw dreftadaeth, ethnigrwydd neu ddiwylliant. 

    Nid digwyddiad un tro yw wythnos mabwysiadu LHDT+. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid yn New Family Social drwy gydol y flwyddyn  Fel aelod-asiantaeth, mae ein mabwysiadwyr nid yn unig yn cael cymorth gan ein tîm, ond gallant hefyd fanteisio ar yr holl adnoddau ac arbenigedd sydd gan New Family Social i'w cynnig. 

    Thema wythnos mabwysiadu LHDT+ eleni yw #adeiladueichteulu. Felly os ydych yn ystyried eich hunan yn LHDT+, os ydych yn sengl neu mewn perthynas ac yn ymchwilio i lwybrau i adeiladu teulu, byddem wrth ein bodd yn siarad â chi: 0800 023 4064 / contact@adopt4vvc.org / Contact Us

    Os ydych yn ystyried llwybrau at fod yn rhiant, rydym yn argymell edrych ar ein rhestr o adnoddau: Darllen, Gwrando, Gwylio. Nid rhestr gynhwysfawr yw hon ond mae’n cynnwys llyfrau fel y llyfr i blant, 'and Tango makes three', Canllaw Stonewall ar gyfer Tadau Hoyw, podlediadau, sioeau a dolenni at dudalennau Instagram mabwysiadwyr fel @unlikelydad, @LeonWenham, @that_a.c_life ac @The_Adventure_Squad.

  • Addewid Dim Hiliaeth Cymru

    17 Chwefror, 2021

    Rydym wedi ymuno â sefydliadau ac unigolion eraill ledled Cymru i wneud addewid gyda Dim Hiliaeth Cymru. Ein haddewid Dim Hiliaeth Cymru: Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd

    Drwy wneud addewid, rydym yn ymrwymo i fod yn wrth-hiliol ac yn anwahaniaethol ym mhopeth a wnawn. Rydym wedi creu'r datganiad canlynol i gefnogi ein haddewid ac i egluro ymarferoldeb ein hymrwymiad fel gwasanaeth yn fanylach.

    Ein datganiad manwl:

    Mae ffydd, arferion diwylliannol, crefydd, treftadaeth, hunaniaeth, hil a diwylliant yn gydrannau bywyd a hunaniaeth person. Felly rydym yn annog teuluoedd, plant, rhieni a staff i rannu’r holl agweddau ar eu bywydau a’u hunaniaeth gyda ni. 

    Fel asiantaeth ni yw’r gydweithfa fabwysiadu awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ymdrin â’r nifer fwyaf o bobl. Rydym yn falch o'n cymuned amrywiol ac rydym yn adolygu pob agwedd ar ein gwasanaeth yn rheolaidd wrth i ni ymrwymo'n barhaus i fod yn gwbl gynhwysol. 

    Mae ein plant i gyd yn unigryw ac yn cynrychioli trawstoriad eang ac amrywiol o gymdeithas. Felly, ein blaenoriaeth bob amser yw sicrhau y gallwn gynnig sbectrwm o aelwydydd amrywiol y gellir eu hystyried i fodloni anghenion unigol ein plant ac a fydd yn cynnig bywyd teuluol cariadus, diogel a chefnogol. 

    Rydym yn dathlu amrywiaeth a theuluoedd o bob math. Nid ydym yn gwahaniaethu yn seiliedig ar ethnigrwydd, oedran, anabledd, ffydd, crefydd rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd, mynegiant rhywedd neu statws perthynas. Rydym yn ymrwymo i gadw at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 drwy ddarparu gwasanaethau teg a chyfartal i bawb.  

    Rydym yn adolygu ein holl adnoddau o ran iaith a delweddau cynhwysol yn rheolaidd. Mae ein pecynnau gwybodaeth ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Arabeg, Sbaeneg ac Eidaleg. Drwy gynnig gwybodaeth yn iaith gyntaf neu iaith ddewis unigolyn, ein gobaith yw y bydd yr unigolyn hwnnw’n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gynnwys ac y bydd yn gallu deall mabwysiadu’n fwy mewn iaith/ieithoedd y mae’n teimlo'n fwyaf cyfforddus yn ei/eu defnyddio.  

    Mae ein tîm yn cymryd cyfrifoldeb i ymgysylltu'n barhaus â hiliaeth, gwahaniaethu (o unrhyw fath), arferion diwylliannol, traddodiadau a ffydd gan wrando a herio ein hunain yn barhaus i ddysgu rhagor amdanynt. 

      • Rydym yn addo sefyll dros hiliaeth a phob math arall o wahaniaethu 
      • Rydym yn addo defnyddio ein lleisiau, ein sefyllfa a'n llwyfannau i herio anghydraddoldeb, annog cynhwysiant radicalaidd a dathlu unigrywiaeth, tebygrwydd a theuluoedd o bob math. 
      • Rydym yn addo parhau i wrando a dysgu mwy am ddiwylliannau a hunaniaethau ac i herio ein hunain i sicrhau ein bod yn wrth-hiliol ac yn anwahaniaethol ym mhopeth a wnawn.

     

  • Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2020

    12 Hydref, 2020

    Un o’r ffyrdd gorau o ysbrydoli pobl i fabwysiadu yw trwy rannustraeon llwyddiant y rhai sydd wedi bod yno a’i wneud.

    Nod Dweud y gwir yn blaen: Straeon mabwysiadu, podlediadgan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yw bod yn adnoddaddysgiadol sy’n cynnwys grŵp o fabwysiadwyr yn trafod euprofiadau a rennir gyda’i gilydd.

    Mae Dweud y gwir yn blaen: Straeon mabwysiadu ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac mae’n cynnwys 10 mabwysiadwr o bobrhan o Gymru yn trafod pwnc mabwysiadu gwahanol bobwythnos — o’r camau cyntaf i gefnogaeth ôl-fabwysiadu. Mae straeon yn amrywio o fabwysiadwyr o’r un rhyw a mabwysiadwyrsengl i fabwysiadwyr hŷn a mabwysiadwyr brodyr a chwiorydd.

    Nid oedd unrhyw un yn adnabod ei gilydd cyn y cyfarfod ond ofewn eiliadau mae fel gwrando ar hen ffrindiau’n siarad. Mae nnhw’n chwerthin gyda’i gilydd, maen nhw’n crio gyda’i gilydd.

    Mae Dweud y gwir yn blaen: Straeon mabwysiadu yn amhrisiadwyp’un a ydych chi eisoes wedi mabwysiadu, yn edrych i ddechrau’rbroses neu ddim ond diddordeb mewn gwahanol ffyrdd ogychwyn teulu.

    Gwrandewch ar y podlediad yma: adoptcymru.com/podlediad

    Cofrestrwch ar gyfer gweminar dros ginio i glywedstraeon ac awgrymiadau mwy gonest ganfabwysiadwyr a gweithwyr mabwysiadu ledled Cymru: https://bit.ly/3d2L2o5

  • Cymru yn dod i'r brig mewn arolwg mabwysiadu ledled y DU, ond mae angen mwy o gefnogaeth o hyd ar gyfer plant bregus, yn ôl adroddiad

    29 Medi, 2020

    Ochr yn ochr â nodi darlun sy'n gwella ar lawer ystyr, mae tystiolaeth o hyd bod bywydau rhai o blant mwyaf bregus y DU yn cael eu heffeithio gan gyfleoedd a gollwyd i roi cefnogaeth amserol a digonol iddynt, mae adroddiad newydd yn datgelu heddiw.

    Mae'r Baromedr Mabwysiadu, a gyhoeddwyd gan yr elusen Adoption UK, yn disgrifio'r effaith ddramatig y gall y gefnogaeth gywir ei chael. Bellach yn ei ail flwyddyn, mae'r Baromedr yn seiliedig ar yr arolwg mwyaf erioed o fabwysiadwyr. Eleni, ymatebodd 5,000 o bobl i'r arolwg, gyda 361 ohonynt yng Nghymru.

    Mae'r Baromedr Mabwysiadu hefyd yn asesu polisïau'r llywodraeth sy'n rheoleiddio mabwysiadu. Polisïau Cymru a sgoriodd orau, gyda thri maes o bolisi yn sgorio ‘da’ - Cymeradwyaethau a Chyfateb, Mabwysiadwyr Newydd eu Lleoli a Theuluoedd Sefydledig. Polisi yn ymwneud â dod o hyd i deuluoedd i blant a sgoriodd orau yn gyffredinol.

    Fodd bynnag, sgoriodd pob gwlad yn wael mewn o leiaf un maes polisi. Polisi yn ymwneud ag Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws (FASD) a sgoriodd waethaf, gyda’r holl genhedloedd yn cael eu hasesu fel rhai ‘gwael’, ac roedd profiadau mabwysiadu plant â FASD neu yr amheuir eu bod hefyd yn ‘wael’ ym mhob gwlad.

    Bu cynnydd yng Nghymru ers Baromedr y llynedd, gan adeiladu ar y gwelliant a welwyd ers i Gymru weithredu ei Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS). Ym mis Mehefin 2019, bu buddsoddiad o £2.3m mewn gwasanaethau mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru. Mewn partneriaeth â sefydliadau'r trydydd sector, mae peth o'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau newydd gan gynnwys y Gwasanaethau Addysg a Chefnogaeth Therapiwtig mewn Mabwysiadu (TESSA) a gwasanaeth pobl ifanc newydd. Roedd ymatebwyr yng Nghymru gryn dipyn yn fwy cadarnhaol ynghylch eu profiadau o gael gafael ar gymorth yn ystod 2019 nag yr oeddent y flwyddyn flaenorol.

    Un o'r prif themâu sydd wedi dod i'r amlwg ledled y DU yw'r methiant i ddarganfod a thrin niwed i'r ymennydd a achosir gan blant yn dod i gysylltiad ag alcohol yn y groth. Mae'r adroddiad yn datgelu bod mwy nag un o bob pedwar o blant mabwysiedig yng Nghymru (28%) naill ai'n cael diagnosis o FASD neu yr amheuir eu bod yn dioddef ohono. Roedd 53% o deuluoedd a holwyd yng Nghymru wedi aros dwy flynedd neu fwy am ddiagnosis, ac roedd 68% yn teimlo nad oedd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol wybodaeth sylfaenol am y cyflwr hyd yn oed, er bod FASD yn fwy cyffredin yn y boblogaeth yn gyffredinol nag awtistiaeth.

    Dywedodd un fam sy’n mabwysiadu, Joanne, o Dde Cymru: “Dywedwyd wrthym y gallai fod gan ein mab FASD pan ddaeth atom yn bedair oed, ond dywedwyd wrthym na fyddem byth yn cael diagnosis am nad oedd ganddo'r nodweddion wyneb cysylltiedig. Buan iawn y daeth yn dreisgar ac yn ymosodol. Byddai’n flin iawn am ddwy awr bob nos pan roedden yn ei roi i'w wely. Byddai’n taflu pethau, taro, cicio, crafu. Rydw i wedi cael tri llygad du ac mae gen i graith ar fy ngên yn sgil cael fy nharo â channwyll. Gwelsom feddygon teulu, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant Glasoed (CAMHS), tîm niwro-ddatblygiadol a seiciatrydd plant cyn i feddyg ddiagnosio ein mab â FASD o'r diwedd. Cawsom ein rhyddhau yr un diwrnod heb gynnig unrhyw gefnogaeth. ”

    Profodd tua thri chwarter y plant mabwysiedig drais, camdriniaeth neu esgeulustod wrth fyw gyda'u teuluoedd biolegol, yn aml ag effeithiau gydol oes ar eu perthnasoedd, eu hiechyd a'u gallu i ddysgu. Er gwaethaf yr heriau sylweddol, mae'r adroddiad yn dangos bod mabwysiadwyr yng Nghymru yn parhau i fod yn gadarnhaol ac yn gydnerth - byddai 75% yn annog eraill i ystyried mabwysiadu.

    Ond mae methiannau mewn polisi ac ymarferiad a cholli cyfleoedd i ymyrryd yn golygu bod problemau yn aml yn adeiladu i argyfwng. Mae bron i hanner (48%) y teuluoedd â phlant hŷn yn nodi heriau difrifol, megis cael eu tynnu i mewn i ymddygiad camfanteisiol troseddol, gan gynnwys camfanteisio rhywiol ar blant a gweithgareddau llinellau sirol. Mae mwyafrif llethol (66%) yr ymatebwyr o Gymru sydd â phlant oed ysgol yn rhagweld y byddant yn gadael yr ysgol heb lawer neu ddim cymwysterau oherwydd nad oedd ganddynt y gefnogaeth gywir.

    Dywedodd awdur yr adroddiad Becky Brooks:

    “Mae'n hanfodol yn foesol ac yn economaidd bod teuluoedd sy'n mabwysiadu yn cael y gefnogaeth gywir o'r diwrnod cyntaf. Ac eto, nid oedd gan 68% o'r teuluoedd mabwysiadol newydd a ymatebodd i'r arolwg gynllun cymorth ar waith. Mae'r gost i'r plentyn, y teulu ehangach a'r gymdeithas pan fydd teulu mabwysiadol yn dymchwel, yn annerbyniol."

    Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru:

    “Mae'r Baromedr yn wiriad i'w groesawu gan deuluoedd sy'n mabwysiadu o ran lle'r ydym fel gwasanaeth. Mae'r canfyddiadau'n nodi'n galonogol bod gwelliannau wedi'u gwneud. Maent hefyd yn adlewyrchu lle gwyddom fod mwy o waith i'w wneud, yn benodol mynediad at gymorth mabwysiadu a gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc mabwysiedig. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol yn y meysydd hyn dros y flwyddyn ddiwethaf gyda chefnogaeth cronfa cymorth mabwysiadu o £2.3m gan Lywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen at adroddiadau yn y dyfodol i weld yr effaith y mae hyn yn ei chael. Ar y cyfan, mae yna rai negeseuon cadarnhaol iawn yn yr adroddiad i’w dathlu ac rydym yn falch o weld bod mabwysiadu yng Nghymru mewn lle da o ran ei daith wella. Dyma'r union beth y sefydlwyd NAS i'w gyflawni."

    Mae'r Baromedr Mabwysiadu yn galw ar lywodraethau ym mhob un o bedair gwlad y DU i ddarparu asesiadau therapiwtig manwl ar gyfer pob plentyn cyn iddynt gyrraedd eu teulu newydd, gyda chynlluniau cymorth cyfoes i'w cynnal hyd at oedolion cynnar.

    Canfyddiadau allweddol ymatebwyr yng Nghymru:

    • Byddai 75% o'r ymatebwyr yn annog eraill i fabwysiadu a dywedodd cyfran debyg eu bod yn teimlo'n optimistaidd ynghylch dyfodol eu teulu
    • Dywedodd 75% eu bod yn hyderus ynghylch ble i fynd am gymorth a chyngor ar ôl mabwysiadu
    • Dywedodd 70% eu bod yn cael gwybod yn rheolaidd am hyfforddiant, digwyddiadau a gwasanaethau cymorth eraill
    • Mae lefelau uwch o foddhad â'r gefnogaeth a ddarperir
    • - 75% yn dweud bod cefnogaeth wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar eu plant (62% yn flaenorol)
    • - 77% yn dweud bod cefnogaeth wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar eu teulu (62% yn flaenorol)
    • - 84% yn dweud y byddai'n werth gofyn am gefnogaeth yn y dyfodol (77% yn flaenorol)
    • Roedd 88% o'r ymatebwyr yn teimlo bod eu gweithwyr cymdeithasol yn gefnogol yn ystod yr wythnosau a'r misoedd cynnar ar ôl eu lleoli
    • Dywedodd 92% o ddarpar fabwysiadwyr fod y diwrnodau hyfforddi yr oeddent wedi'u mynychu yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol
    • Roedd 53% o ddarpar fabwysiadwyr yn teimlo bod y broses mor anodd nes eu bod yn meddwl tybed a allent barhau (78% yng Ngogledd Iwerddon)

     

    • Profodd 56% o fabwysiadwyr newydd straen, pryder neu symptomau iselder ôl-fabwysiadu yn ystod yr wythnosau cynnar
    • Roedd 68% o'r mabwysiadwyr sefydledig yn wynebu heriau
    • Profodd 5.3% o deuluoedd mabwysiadol blentyn yn gadael cartref yn gynamserol yn ystod 2019
    • Roedd pobl ifanc 16-25 oed ddwywaith (19%) yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) na'u cyfoedion
    • Roedd 55% o deuluoedd yn ymwybodol o'r cyllid pwrpasol ar gyfer plant â phrofiad gofal yn yr ysgol yng Nghymru (PDG LAC) ond dim ond 6% a ddywedodd eu bod yn gwybod sut mae'n cael ei ddefnyddio
    • Dywed 77% o fabwysiadwyr fod angen mwy neu lawer mwy o gefnogaeth ar eu plentyn yn yr ysgol na'u cyfoedion
    • Dim ond 39% sy'n dweud eu bod yn teimlo bod gan yr athrawon ddealltwriaeth dda o anghenion plant â phrofiad gofal

     

    • Roedd 97% o'r mabwysiadwyr yn ymwybodol o fodolaeth FASD a chafodd 83% hyfforddiant neu ran o'r broses baratoi mabwysiadu
    • Dywedodd 70% eu bod wedi cael digon o wybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch a allent, gyda digon o gefnogaeth, rianta plentyn â FASD
    • Dywedodd 89% o'r plant hynny sydd â diagnosis o FASD ei bod wedi cymryd mwy na blwyddyn o godi pryderon i gael diagnosis
    • - Dim ond 16% o'r rhai a gafodd ddiagnosis a ddywedodd ei bod yn broses syml
    • - A dim ond 16% a ddywedodd eu bod yn teimlo bod gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sylfaenol yn wybodus am FASD
    • - Mae 28% arall o'r rhieni hynny nad oes gan eu plant ddiagnosis FASD yn amau bod gan eu plant FASD

     

    * Mae o leiaf 55,000 o deuluoedd mabwysiadol yn y DU.

  • Gweithiwr meithrinfa, dyn camera, mam sengl ac cynghorydd adnoddau dynol yn wynebau ymgyrch newydd i ddangos bod mabwysiadwyr yn bob math o bobl

    14 Hydref, 2019

    Lansio ymgyrch gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ddathlu ei bum mlynedd gyntaf:

    • Yr hysbyseb deledu gyntaf ar gyfer ymgyrch fabwysiadu yng Nghymru 
    • 1,630 o blant wedi derbyn cartref sefydlog 
    • Mwy na £2.3 miliwn mewn ariannu ychwanegol ar gyfer mabwysiadu
    • Cofrestr fabwysiadu i gyflymu canfod teuluoedd

    Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (Hydref 14-20) eleni, bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) yn dathlu ei bum mlynedd gyntaf gyda lansiad ymgyrch newydd, Y Rhiant Sydd Ynot Ti. Gan ddefnyddio mabwysiadwyr go iawn, mae’r ymgyrch yn anelu i annog pobl o bob cefndir i ddod yn rhiant trwy fabwysiadu.

     

    Ers 2014, mae NAS wedi cefnogi mwy na 1,630 o blant yng Nghymru i ddod o hyd i’r teulu cywir iddyn nhw. Mae Y Rhiant Sydd Ynot Ti yn ymgyrch genedlaethol gaiff ei harwain gan fabwysiadwyr o bob oed, cefndir, gallu a chyfeiriadedd rhywiol er mwyn helpu’r gwasanaeth i barhau i lwyddo i baru teuluoedd.Mae pobl go iawn sydd wedi bod trwy’r broses fabwysiadu yn rhannu eu profiadau - yr hyn yr oedden nhw’n ei feddwl cyn cychwyn a’r hyn y maent wedi ei ddysgu am eu hunain yn ystod y broses - er mwyn chwalu rhai o’r chwedlau sy’n peri i bobl beidio â mabwysiadu.

    Mae Chris, a fabwysiadodd ei ferch trwy Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda’i wraig yn 2015, yn un o’r mabwysiadwyr sy’n cefnogi’r ymgyrch. Roedd y cwpwl wedi ceisio cael plant ond heb lwyddiant ac fe gymerodd nifer o flynyddoedd iddyn nhw benderfynu mabwysiadu.

    Meddai Chris:

    “Pan ddechreuon ni feddwl am fabwysiadu roedd gennym ni’r syniad yma, er mwyn rhoi’r hyn yr oedd plentyn ei angen i addasu i deulu newydd, y byddai rhaid ichi feddu ar rinweddau arbennig ac na allech chi fod mewn gwaith llawn amser. Wedi ymchwilio, siarad gyda phobl eraill a mynd ar gyrsiau, fe wnaethon ni sylweddoli ein bod ni’n meddu ar y rhinweddau arbennig hynny wedi’r cyfan."

    “Fe wnes i feddwl pa fath o gysylltiad fyddai rhyngof fi a’n merch a sut y byddai’n cymharu pe bae ni wedi ei geni. Ond pan welon ni ei llun a derbyn rhywfaint o wybodaeth amdani, roedden ni’n gwybod y byddai hi’n ffitio i mewn i’n teulu a chymerodd hi fawr o amser i’r cysylltiad ffurfio."

    “Fe wnaethon ni fabwysiadu ein merch pan oedd hi ychydig yn hŷn, felly mae ganddi rywfaint o gof o’i phlentyndod. Rydyn ni wedi cael dyddiau da a dyddiau gwael, ond mae cefnogaeth wedi bod ar gael inni bob amser er mwyn ei helpu hi i ymdopi gyda’i hemosiynau."

    “’Dyw plentyn ddim eisiau pethau materol; maen nhw eisiau cael eu caru a’u meithrin. Mae mabwysiadu wedi bod mor werthfawr i mi ac fe hoffwn i annog pobl eraill i ddysgu mwy cyn dweud ‘tydi hyn ddim i mi’.”

    Pum mlynedd o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru

    Ers 2014, mae’r NAS wedi: 

      • Sicrhau mwy na £2.3 miliwn o ariannu ychwanegol i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau a chymorth mabwysiadu.
      • Cwtogi’r amser aros ar gyfer cymeradwyo mabwysiadwyr a chanfod teuluoedd ar gyfer plant a gwella prosesau adrodd a gwerthuso.
      • Cynyddu’r deunyddiau taith bywyd sydd ar gael i helpu plant i ddeall hanes eu teulu’n well.
      • Creu pum cydweithfa fabwysiadu ranbarthol a datblygu partneriaeth gref gydag Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol. Gan ychwanegu gwahanol arbenigedd, gwasanaethau ychwanegol a mwy o ddewis i’r gwasanaeth, gan arwain at fentrau newydd cyffrous fel Mabwysiadu Gyda’n Gilydd, TESSA a gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc newydd.
      • Rhoi Cofrestr Fabwysiadu Cymru ar waith, gan gynnig dewisiadau ehangach a dyfnach ar gyfer darpar rieni a phlant. 

    Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwraig Gweithrediadau’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol:

    “Rydym wedi cyflawni cymaint mewn pum mlynedd ac rydym yn ddiolchgar i bob un o’r gwasanaethau mabwysiadu rhanbarthol a gwirfoddol yn ogystal â’n hasiantaethau partner, sydd eisoes wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i bobl gaiff eu heffeithio gan fabwysiadu yng Nghymru. Yn bwysicaf oll, fodd bynnag, rydym yn ddiolchgar i’r cannoedd o rieni mabwysiadol sydd wedi camu ymlaen o bob cefndir."

    “Ein nod yw defnyddio’r arbenigedd a’r ddealltwriaeth yr ydym wedi eu crynhoi dros y pum mlynedd diwethaf er mwyn cyrraedd hyd yn oed mwy o ddarpar-fabwysiadwyr yng Nghymru a sicrhau y gallwn barhau i ddod o hyd i deuluoedd ar gyfer plant fydd yn eu helpu i ffynnu.“Mae ambell i gamsyniad ynghylch pwy all fabwysiadu ond ’does dim o’r fath beth ag ‘un maint i weddu i bawb’. Mae e’ i gyd yn dibynnu ar yr unigolyn. Y pethau pwysicaf y gallan nhw eu cynnig i blentyn yw amser, amynedd, a sicrwydd, yn ogystal â chariad."

    “Ein gobaith ni yw, trwy roi sylw i rieni mabwysiadol ddaw o bob mathau o gefndiroedd, yw y gallwn helpu pobl eraill i sylweddoli'r potensial sydd ganddyn nhw i fod yn rhieni gwych a chodi’r ffôn a galw eu hasiantaeth fabwysiadu leol i ddysgu mwy.”

  • Y llyfr gwreiddiol cyntaf Cymraeg i gyflwyno mabwysiadu i blant 

    14 Hydref, 2019

    Mae’r awdures Eurgain Haf wedi ysgrifennu llyfr i blant dan 7 sydd yn cyflwyno’r syniad o fabwysiadu - y llyfr gwreiddiol cyntaf yn y Gymraeg i wneud hyn. 

    Mae Y Boced Wag yn stori annwyl sy’n dilyn Cadi'r cangarŵ wrth iddi geisio dod o hyd i hapusrwydd, a llenwi ei phoced wag.  

    Cyhoeddir y llyfr i gyd-fynd ag Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol a gynhelir yn flynyddol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r angen am gartrefi i blant a phobl ifanc. Eleni cynhelir yr Wythnos rhwng 14 a 20 Hydref.

    Mae’n bwnc agos at galon Eurgain, gan ei bod hi wedi mabwysiadu plentyn. Nod y llyfr yw ceisio helpu rhieni eraill i egluro'r broses o fabwysiadu i’w plant, pe baen nhw’n dymuno hynny: 

    “Rwy’n gobeithio y bydd y llyfr o gymorth i rieni sydd wedi mabwysiadu, i’w helpu i esgor ar y drafodaeth bwysig ond anodd ac emosiynol honno gyda’u plant, ynglŷn â’r ffaith eu bod wedi eu mabwysiadu, a hynny yn eu mamiaith. Bydd y llyfr yn help i rieni gyda phlant sydd yn adnabod teuluoedd wedi’u mabwysiadu hefyd ac yn stori fach hyfryd sy’n sefyll ar ei thraed ei hun.”

    “Fe wnaethon ni fabwysiadu ein mab pan oedd yn fabi ac erbyn hyn mae yn llawn dychymyg ac yn hoff iawn o ddyfeisio straeon. Pan oedd yn y dosbarth Meithrin fe ddaeth gartref o’r ysgol un dydd hefo llun o gangarŵ, un trist iawn yr olwg. Fe’i holais pam fod y cangarŵ yn edrych mor brudd? Ai ateb syml oedd, am fod ei phoced yn wag. Dywedais y bydden ni yn dod o hyd i ffordd i roi gwên yn ôl ar wyneb y cangarŵ, a gyda’n gilydd rydym wedi dyfeisio stori ‘Y Boced Wag’."

    Mae Cadi’n mynd ar antur fawr i chwilio am ei hapusrwydd gan ddod ar draws anifeiliaid sydd eisiau ei helpu, Mae’r antur yn aflwyddiannus ond pan mae’n deffro’n bore wedyn mae’n darganfod bod cangarŵ bach wedi cael lloches yn ei phoced a bod ei dymuniad wedi ei wireddu.

    “Fe ddefnyddiais y stori wedyn fel modd o egluro iddo ei fod wedi ei fabwysiadu, a’r bwlch oedd yn ein teulu ni nes iddo fo ddod i lenwi ein haelwyd gyda hapusrwydd.  Mae’n stori sy’n rhoi cysur iddo ac mae’r syniad yn un syml a dealladwy y gall plant ei pherchnogi ac uniaethu â hi. Fel y dywed, “fy stori i yw hi.”


  • Buddsoddiad o £2.3m ar gyfer cymorth mabwysiadu yng Nghymru 

    06 Mehefin, 2019

    Heddiw (Mehefin 6), cyhoeddodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru (GMC) ac Adoption UK Cymru (AUK) fuddsoddiad o £2.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu yng Nghymru.

    Mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn y Senedd a fynychwyd gan bobl allweddol o’r sector, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yr ariannu a lansiodd yn swyddogol wasanaeth newydd ‘Cofrestr Fabwysiadu Cymru’.

    Mae’r buddsoddiad o £2.3m i’w wario trwy bum rhanbarth GMC ledled Cymru i atgyfnerthu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, cynyddu lefelau staff a gwella ffyrdd o weithio mewn meysydd allweddol o gymorth i deuluoedd mabwysiadol.

    Mae’r gofrestr newydd yn rhan allweddol o’r broses baru ar gyfer mabwysiadu nifer o blant a bydd yn cynorthwyo gyda dod o hyd i deulu’n fuan. Bydd y gofrestr, sydd bellach ar gyfer pob plentyn sydd â chynllun mabwysiadu yng Nghymru, nid dim ond y plant sydd wedi bod yn aros hiraf, yn rhoi mwy o ddweud i fabwysiadwyr yn y broses o ddod o hyd i deulu.

    Meddai Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwraig Gweithrediadau y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol:

    “Mae’r gofrestr newydd yn cefnogi ein hymrwymiad i sicrhau’r broses baru a chanfod teulu gorau posibl ar gyfer plant a mabwysiadwyr. Mae’n wasanaeth dwyieithog sy’n ei wneud yn fwy cynhwysol ac mae hefyd yn cynnig mynediad â chymorth i fabwysiadwyr weld proffiliau plant a gwneud penderfyniadau, gyda chymorth eu Gweithiwr Cymdeithasol.”

     Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

    “Fel Llywodraeth rydym yn buddsoddi arian i atgyfnerthu gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru gan gydweithio gyda sefydliadau allweddol i ddefnyddio’r ariannu yma i ddarparu’r cymorth cywir i rai sy’n cael eu mabwysiadu a mabwysiadwyr. Yn ogystal â sicrhau y gellir dod o hyd i deuluoedd mabwysiadol yn gyflymach, bydd yr ariannu yma’n galluogi’r rhanbarthau mabwysiadu i wella ymhellach y ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu yn eu hardal.”

     Ychwanegodd Suzanne Griffiths:

    “Mae’r buddsoddiad hwn yn hwb mawr i’n gwaith i wella’r cymorth sydd ar gael i deuluoedd mabwysiadol ledled Cymru. Gwella gwasanaethau, ac yn enwedig wasanaethau cymorth, oedd un o’r heriau pennaf oedd yn wynebu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol pan gafodd ei sefydlu. Rydym eisoes wedi gwneud llawer o welliannau trwy ein gwasanaethau llywodraeth leol rhanbarthol, ond bydd yr ariannu yma’n ein galluogi i sicrhau bod gwasanaethau gwell ar gael yn gyson i deuluoedd ledled Cymru yn ogystal â darparu, mewn partneriaeth â’r drydydd sector, wasanaethau newydd cyffrous fel TESSA a gwasanaeth newydd i blant a phobl ifanc”. 

    Yn ogystal, defnyddiwyd rhan o’r buddsoddiad fel arian cyfatebol ar gyfer £250,000 ychwanegol oddi wrth Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a ddyfarnwyd i AUK i drosglwyddo eu rhaglen Gwasanaethau Cymorth Addysg Therapiwtig mewn Mabwysiadu (TESSA).

    Dywedodd Ann Bell, Rheolwraig Datblygu, AUK Cymru:

    “Mae’n bleser gan Adoption UK weithio gyda’r Loteri Genedlaethol i ehangu’r rhaglen TESSA ar draws y Deyrnas Unedig. Mae TESSA yn sicrhau y caiff teulu mabwysiadol wasanaeth seicolegydd clinigol a mabwysiadwr profiadol, gan roi strategaethau ymdopi iddyn nhw yn ogystal â dealltwriaeth o sut y mae rhieni eraill wedi gweithio trwy heriau er mwyn helpu eu teulu i ffynnu. Mae ymyrraeth gynnar yn allweddol ar gyfer mabwysiadu’n llwyddiannus ac mae TESSA wedi bod yn hynod o effeithiol yng Ngogledd Iwerddon, gyda theuluoedd mabwysiadol yn sôn am y gwahaniaeth aruthrol y mae wedi ei olygu iddyn nhw. Bydd yr ariannu ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru yn cynyddu maint a chyrhaeddiad TESSA yng Nghymru yn sylweddol, gan sicrhau ei fod ar gael i fwy o lawer o deuluoedd mabwysiadol newydd.”

  • Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT+ 2019

    Rydym yn falch o gefnogi Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT+ 2019! Eleni, o 4 i 10 Mawrth 2019, bydd asiantaethau mabwysiadu a maethu trwy’r DU, ynghyd â New Family Social yn codi ymwybyddiaeth i annog rhagor o bobl sy’n LHDT+ i ystyried mabwysiadu a maethu.

    Rydym yn falch o fod yn asiantaeth mabwysiadu sy’n gynhwysol ac mae gennym rwydwaith amrywiol o staff a mabwysiadwyr sydd eisoes yn gweithio â ni.

    Yn 2018 1 o bob 7 mabwysiadwr yng Nghymru’r llynedd yn LHDT+, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

    Mae’r rhain yn ystadegau cadarnhaol ac rydym yn falch ohonynt; fodd bynnag, y realiti trwy’r DU yw bod diffyg mawr yn nifer y mabwysiadwyr trwy’r DU ar gyfer y plant sy’n aros. Yn 2018, cofnodwyd bod 6,405 plentyn yn derbyn gofal yng Nghymru yn unig. Ymddengys y bydd y nifer yn codi dros y flwyddyn nesaf ac y bydd nifer y mabwysiadwyr yn gostwng.

    Fel asiantaeth fabwysiadu, mae cyfrifoldeb arnom i newid yr ystadegau hyn a sicrhau y caiff y plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ofal er mwyn iddynt dyfu, llwyddo a ffynnu ac felly mae arnom eich angen chi!

    Rydym yn dathlu’r teulu ar bob ffurf, ac mae ein gweithwyr cymdeithasol yn brofiadol wrth asesu pobl sy’n LHDT+. Golyga hyn eu bod yn barod i ateb unrhyw gwestiwn neu bryder penodol sydd gennych a’ch tywys yn rhwydd trwy’r broses.

    Rydym yn gobeithio derbyn ceisiadau gan bobl o bob oedran, rhyw, rhywioldeb statws perthynas, hil neu grefydd. Mae ein teuluoedd yn gymysgedd o wahanol gefndiroedd a hunaniaeth ac mae gan bob un ei rinweddau a deinamig ei hun. Yr un ffactor sy’n gyson ymhlith ein holl deuluoedd yw eu bod yn gynhwysol ac wedi cofleidio mabwysiadu fel llwybr at ffurfio teulu.

    Rydym yn chwilio am bobl a all gynnig teulu cariadus, cynhwysol, cydymdeimladol a sefydlog i’r holl blant y mae arnynt ei angen.

    Fel aelod o New Family Social, caiff ein mabwysiadwyr eu cefnogi gan ein tîm ond cânt hefyd ddefnyddio holl adnoddau ac arbenigedd NFS. Yn adran darllen, gwylio, gwrando ein gwefan, mae gennym restr o adnoddau ar gyfer mabwysiadwyr LHDT. Mae hyn yn cynnwys llyfrau megis ‘and Tango makes three’; llyfr sy’n egluro mabwysiadu un rhyw i blant, Guide for Gay Dads gan Stonewall a chysylltiadau i ddylanwadwyr y cyfryngau cymdeithasol sy’n fabwysiadwyr, megis @Unlikelydad a @StevieBlaine. Mae gwybodaeth ar gael hefyd trwy New Family Social a Stonewall.

    Mae Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT+ 2019 yn gyfle gwych i ni barhau i annog pobl y mae ganddynt ddiddordeb mewn cychwyn neu estyn eu teulu trwy fabwysiadu i gysylltu â ni. Rydym yn cynnal nifer o nosweithiau gwybodaeth ac rydym bob tro’n croesawu ymholiadau dros y ffôn: 0800 023 4064 ac e-bost: contact@adopt4vvc.org. Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi!

  •  Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2018

    Eleni, i nodi Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2018, rydym yn rhyddhau dwy ran gyntaf ein cyfres bedair rhan ‘Dod yn Rhieni’. Mae Dod yn Rhieni yn trafod proses mabwysiadu trwy lygaid rhai o’n mabwysiadwyr. Mae’r gyfres yn cychwyn ag ‘O’r Cychwyn’ pan fo’r mabwysiadwyr yn trafod eu camau cyntaf er mwyn dysgu mwy am fabwysiadu. Gweld ein cyfres ‘Dod yn Rhieni’ yma.

     

    Yn ail ran y gyfres, ‘Asesu Personol’, mae ein mabwysiadwyr yn trafod eu profiadau o’r broses asesu mewn rhagor o fanylder. Fe ryddhawn ‘Paru a Dod i Nabod eich Gilydd’ ddydd Mawrth 23 Hydref 2018 a ‘Dod yn Deulu’ ddydd Mawrth 30 Hydref 2018 felly chwiliwch amdanyn nhw.

    Mae teuluoedd o bob lliw a llun â safbwyntiau, credoau a’u nodweddion unigryw eu hunain.Rydym wrth ein boddau â’r amrywiaeth hon. Mae gan yr holl blant rydym yn ceisio eu paru â rhieni mabwysiadol gymeriadau, cefndiroedd unigryw a’u gofynion eu hunain at y dyfodol.Golyga hyn bod arno angen ystod eang o fabwysiadwyr. Rydym yn derbyn ceisiadau gan bobl sengl, pobl sydd mewn partneriaethau a phobl briod, pobl y mae ganddyn nhw blant a phobl heb blant. O’n safbwynt ni, nid yw ethnigrwydd, rhywioldeb a chefndir ffydd yn berthnasol o gwbl i ba mor addas ydych chi i fabwysiadu. Yr hyn sy’n bwysig i ni yw y gallwch chi roi cartref diogel, sicr, lle ceir anogaeth a chariad i blentyn y mae arno ei angen. 

    Mae Dod yn Rhieni yn amlygu rhai o straeon rhai o’n mabwysiadwyr. Ein gobaith yw y bydd y gyfres yn eich helpu i ddeall taith mabwysiadu’n well ac efallai yn eich ysbrydoli i ddysgu mwy am fabwysiadu â’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd. Cysylltwch â ni trwy gwblhau ein ffurflen gais neu ffoniwch ni ar: 0800 023 4064. I ddysgu mwy am fabwysiadu â’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, ewch i: www.adopt4vvc.org/cy.

    Hoffem ni ddiolch i Philipa, Ross, Michael, Gareth a Claire am gymryd rhan yn y gyfres hon.Diolch i chi am rannu eich straeon, codi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli eraill i ystyried mabwysiadu.

  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •