Father-with-two-children

Ein Hasiantaeth

Os ydych wedi bod yn edrych ar y posibilrwydd o fabwysiadu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Rydym am i chi deimlo’n hyderus ac yn gyfforddus i ofyn cwestiynau o’r diwrnod cyntaf, yn fawr neu’n fach, oherwydd bod mabwysiadu’n ymrwymiad enfawr sy’n newid bywydau pawb sy’n rhan ohono.

Y Camau Nesaf:

  • Gofynnwch am becyn: contact@adopt4vvc.org - Pan fyddwn yn derbyn eich manylion, byddwn yn anfon ein pecyn gwybodaeth a’n llythyr croeso atoch. Os byddwch yn gadael rhif ffôn byddwn yn eich ffonio hefyd.
  • Siaradwch â ni’n uniongyrchol: 0800 023 4064 - Rydym ar gael o Ddydd Llun – Ddydd Iau: 9am-5pm neu Ddydd Gwener: 9am-4.30pm ar. Byddem wrth ein bodd yn siarad â chi.

 

Ein Cyfrifoldebau

Fel asiantaeth rydym yn darparu’r ddarpariaeth ganlynol i’r rhai sy’n cael eu mabwysiadu, teuluoedd mabwysiadol a theuluoedd biolegol:

Tîm Recriwtio ac Asesu
  • Gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn rhiant mabwysiadol gan gynnwys y cyhoedd, gofalwyr maeth a mabwysiadwyr dilynol
  • Paratoi, hyfforddiant cyn cymeradwyo ac asesiadau prydlon i bob darpar riant 

 

Mabwysiadau Heb Fod Drwy Asiantaeth / Llysrieni

  • Cyngor a chefnogaeth i bawb sy’n cymryd rhan 
  • Cynnal asesiadau o ymgeiswyr 

Family Finding Team

  • Paru teuluoedd gyda phlant sydd angen lleoliadau mabwysiadu yn ein pedair ardal awdurdod lleol (Caerdydd, Merthyr, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg)
  • Cefnogi plant, teuluoedd biolegol, mabwysiadwyr a gofalwyr maeth drwy’r broses leoli
  • Cefnogi teuluoedd mabwysiadol i gael eu Gorchymyn Mabwysiadu

 

Cymorth ar ôl mabwysiadu

  • Cefnogi teuluoedd mabwysiadol; gan gynnwys asesu anghenion, cyswllt parhau a’r teulu biolegol; yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, grwpiau cymorth a diwrnodau hwyl i’r teulu
  • Cymorth i oedolion mabwysiedig; gan gynnwys cael mynediad at ffeiliau a chwilio am y teulu biolegol
  • Cymorth ar gyfer rhieni biolegol a theuluoedd biolegol; gan gynnwys cymorth i rieni biolegol, cyswllt parhaus; yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol a chwilio am blant biolegol

 

Cwestiynau Cyffredin

Yma rydyn ni’n ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir gan bobl sydd am fod yn rhieni mabwysiadol. Fodd bynnag, os nad ydy’r atebion canlynol yn trafod y materion sy’n achosi pryder i chi neu fod angen eglurhad pellach arnoch, cysylltwch.

  • Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Cydweithfa Fabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd ac asiantaethau eraill?

    Mae asiantaethau awdurdodau lleol, fel ninnau, yn gyfrifol am sicrhau teuluoedd ymrwymedig i’r holl blant yn ardaloedd ein hawdurdodau lleol y mae eu cynlluniau gofal yn mynd yn fabwysiadu. 

    Ein gobaith yw y gallwn ddarparu ystod eang o ddarpar fabwysiadwyr ar gyfer ein plant, yn enwedig y rhai sy’n teimlo y gallant ystyried plant hŷn, plant sydd ag anghenion cymhleth a grwpiau o frodyr a chwiorydd.  Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd rydym yn cydnabod bod rhaid i ni o bosibl edrych ymhellach i ffwrdd am rieni a all fodloni anghenion ein plant am wahanol resymau. 

    Yng Nghymru mae dwy asiantaeth wirfoddol; Barnardo's a Chymdeithas Plant Dewi Sant.  Mae’r ddwy asiantaeth hyn yn recriwtio nifer fach o bobl y flwyddyn sy’n gallu ystyried yn benodol plant y byddwn o bosibl yn ei chael yn fwy heriol i ddod o hyd i leoliadau ar eu cyfer. Rydym yn gweithio’n agos gyda Dewi Sant trwy eu rhaglen ‘Mabwysiadu gyda’n Gilydd www.adoptionwales.org/?lang=cy 

    Rydym yn gobeithio y byddwch yn dewis mabwysiadu gyda ni ond yn y pen draw, mater i chi yw pa asiantaeth y byddai’n gennych chi fabwysiadu gyda hi - mae’n bwysig eich bod yn archwilio eich holl opsiynau cyn gwneud y penderfyniad hwn sy’n newid bywydau.  

  • A oes terfyn oedran ar gyfer mabwysiadwyr?
    Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 21 oed neu’n hŷn. Does dim terfyn oedran uwch, ond mae angen i chi fod yn ddigon heini ac iach i gefnogi plentyn yn ddiogel tan ei fod yn oedolyn. Y ffactor mwyaf pwysig yw eich bod yn gallu rhoi sefydlogrwydd, diogelwch ac amgylchedd meithringar a diogel i blentyn, a bod gennych ddigon o amser i fodloni anghenion y plentyn.
  • Oes unrhyw gyfyngiadau o ran iechyd ac anabledd?

    Bydd yn ofynnol i bob darpar riant gael asesiad meddygol (yn cwmpasu iechyd corfforol a meddyliol).  Nod y prawf yw rhoi sicrwydd i bawb sydd ynghlwm â’r broses y byddwch yn gallu diwallu anghenion y plentyn wrth iddo dyfu. Os oes unrhyw bryderon gennych, rhowch wybod ni ohonynt yn ystod eich ymholiad cychwynnol a byddwn yn gallu eich cynghori. 

    Rydym yn darparu'r wybodaeth y mae angen i chi fynd â hi at y meddyg teulu er mwyn iddo gynnal yr asesiad meddygol, fel rhan o gam un y broses. Yna cyflwynir y wybodaeth hon i'n hymgynghorydd meddygol ei gwerthuso.  Ar hyn o bryd, nid oes ffi benodol am gynnal asesiad meddygol yng Nghymru, a thelir y gost gan yr ymgeisydd. Mae'r gost yn ôl disgresiwn y practis meddyg teulu ac fe'i telir yn uniongyrchol i’r practis meddyg teulu. 

    Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â chyflyrau ac anableddau ac yn trin pob amgylchiad fesul achos. Os oes gennych anabledd sydd angen addasiadau, byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu hyn drwy gydol yr asesiad a’r tu hwnt. Mae gan ein gweithwyr cymdeithasol gyfoeth o brofiad yn asesu a byddant yn ceisio cyngor ein hymgynghorydd meddygol yn ôl yr angen. 

  • A allaf fabwysiadu os ydw i’n ysmygu sigaréts neu e-sigaréts?

    Ni allwn roi plentyn dan bump oed mewn cartref lle mae rhywun yn ysmygu sigaréts neu e-sigaréts.  Rhaid i bob cartref fod yn ddi-fwg ac yn rhydd o e-sigaréts am ddeuddeg mis cyn y gall y panel gymeradwyo darpar rieni a lleoli plentyn.  Mae'r rheol hon yn berthnasol i bob asiantaeth ledled Cymru. 

    Rydym yn cynghori darpar rieni i wneud penderfyniad ynghylch rhoi'r gorau i ysmygu cyn gwneud unrhyw ymholiadau pellach gyda ni.  Os ydych am roi'r gorau i ysmygu er mwyn bwrw ymlaen â mabwysiadu, fe’ch cynghorwn i wneud apwyntiad gyda'ch meddyg teulu i gofrestru eich bwriad i roi'r gorau iddi a manteisio ar unrhyw wasanaethau cymorth y gallant eu cynnig.  Rydym wedyn yn argymell eich bod yn cysylltu â ni o leiaf chwe mis ar ôl i chi roi'r gorau iddi.

  • Beth os ydw i’n ystyried neu’n derbyn triniaeth ffrwythlondeb/ yn ceisio beichiogi?

    Rydym yn ystyried ein dyletswydd gofal i ddarpar rieni o ddifrif a gofynnwn i chi aros chwe mis ar ôl triniaeth ffrwythlondeb neu golled bersonol cyn dechrau'r broses fabwysiadu. Rydym yn deall bod galar bob unigolyn yn wahanol ac os hoffech siarad am eich amgylchiadau personol, byddem yn eich annog i gysylltu â ni. Fodd bynnag, rydyn ni’n mynnu bod ymgeiswyr aros 6 mis cyn dechrau asesiad.

    Os ydych yn ystyried mabwysiadu ar y cyd ag opsiynau ffrwythlondeb, rydym yn hapus i chi ofyn cwestiynau a dod draw i’n noson wybodaeth i gael dealltwriaeth lawn o'ch opsiynau.  Fodd bynnag, er mwyn dechrau Cam Un y broses bydd angen i chi ymrwymo i ddilyn un llwybr. Y rheswm am hyn yw bod mabwysiadu a thriniaeth ffrwythlondeb yn brosesau hynod emosiynol a gall triniaeth ffrwythlondeb fod gorfforol heriol hefyd.  Ni allwn leoli plentyn/plant mewn cartref lle mae darpar riant yn cael triniaeth ffrwythlondeb neu sy'n feichiog, gan fod angen i'n plant gael sylw llawn y rhiant/rhieni yn ystod eu lleoliad a thu hwnt.

  • Beth os bydd gennyf euogfarn droseddol?

    Wrth wneud cais am fabwysiadu, mae’n bwysig eich bod yn agored ac yn onest gyda ni bob adeg. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn cysylltiad â throseddau. Rhaid trafod unrhyw gollfarnau personol yn fanwl ac ar gam cynnar iawn yn y broses.

    Ni ystyrir bod unrhyw drosedd wedi’i disbyddu a bydd pob ymgeisydd yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, yn ogystal â gwiriadau eraill.  

    Yn unol â’r gyfraith, bydd rhai troseddau yn ein gwahardd rhag derbyn cais, er enghraifft euogfarnau am droseddau treisgar neu droseddau yn erbyn plant. Ni fydd digwyddiadau llai difrifol, ynysig o reidrwydd yn atal ystyried eich cais ond mae angen i chi fod yn agored am y rhain o'r dechrau.  Os yw hyn yn berthnasol i chi, gofynnwn i chi rannu hyn gyda ni, a gallwn drafod sut rydym yn mynd ati i reoli materion o'r fath.  

    Rydym hefyd yn ystyried unrhyw gysylltiadau eraill gyda’r gwasanaethau cymdeithasol neu'r heddlu ac mae hyn yn berthnasol i aelodau o'ch teulu estynedig a'ch ffrindiau. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau ynghylch hyn, nodwch hynny pan fyddwch yn cysylltu â ni fel y gallwn roi’r cyngor priodol i chi.

  • Beth os oes gennyf blant eisoes?

    Os oes gennych blant yn byw gyda chi'n barod, mae'n bwysig ystyried yr effaith y gallai mabwysiadu ei chael arnynt.  Rydym yn eich annog i sgwrsio’n agored a gonest gyda'ch plant cyn, yn ystod ac ar ôl y broses fabwysiadu.

    Ar y cychwyn mae’n bosib y byddan nhw’n  teimlo'n gyffrous am y posibilrwydd o gael brawd neu chwaer, ond mae'n bwysig eu bod bob amser yn cael cyfle ac anogaeth i ofyn cwestiynau am sut y gallai mabwysiadu effeithio arnynt hwy a'ch teulu.

    Yn ystod asesiad, rydym yn cynnwys eich plentyn/plant presennol gymaint â phosibl er mwyn helpu i'w paratoi ar gyfer bywyd gyda'u brawd/chwaer newydd. 

    Mae gennym gymuned o fabwysiadwyr sydd wedi mabwysiadu’n llwyddiannus er bod ganddynt blant eisoes a gallwn drefnu i chi siarad â hwy am eu profiadau yn ystod y broses. Rydym hefyd yn tynnu sylw at rai o'u straeon yn yr adran 'Straeon Mabwysiadwyr' ar ein gwefan. 

  • Mae gan fy nheulu a’m ffrindiau gwestiynau am fabwysiadu, beth allaf ei rannu gyda nhw/ pa gymorth rydych yn ei ddarparu?

    Os byddwch yn mabwysiadu bydd yn newid bywyd eich ffrindiau a'ch teulu. Rydym yn argymell (pan fo’n briodol) eich bod yn rhannu eich cynlluniau i fabwysiadu gyda'ch ffrindiau a'ch teulu. Efallai y byddan nhw’n ymateb gan ddefnyddio ystod o emosiynau o gyffro i nerfusrwydd.

    Cofiwch fod hon yn wybodaeth newydd iddyn nhw ac mae’n bosib y bydd angen amser arnyn nhw i’w phrosesu a gofyn cwestiynau. Mae’n bwysig eu bod nhw hefyd yn magu dealltwriaeth dda o fabwysiadu gan y byddant yn rhywun pwysig ym mywyd unrhyw blentyn mabwysiadol. Felly, rydym yn cynnig ‘Hyfforddiant i Deulu a Ffrindiau’ ar gyfer ymgeiswyr sydd ar Gam Dau y broses (caiff nifer yr aelodau o’r teulu / ffrindiau eu cyfyngu fesul cais i sicrhau y gallwn gynnig yr un hyfforddiant i deuluoedd yr holl ymgeiswyr).

  • A oes unrhyw gostau i’r broses fabwysiadu?

    Mae ein gwasanaeth mabwysiadu domestig yn rhad ac am ddim; nid oes unrhyw gost i’r ymgeisydd oddi wrthym.

    Fodd bynnag, mae ychydig o gostau'n gysylltiedig â gwasanaethau allanol:

    Yn ystod Cam Un, mae'n ofynnol i bob ymgeisydd gael archwiliad meddygol gan eu meddyg teulu. Mae'r archwiliad meddygol yn drefniant preifat rhyngoch chi a'ch meddyg teulu a thelir y gost yn uniongyrchol i'r practis. Yng Nghymru, nid oes cost 'safonol' ar gyfer hyn ar hyn o bryd (er bod meddygon teulu'n cael canllawiau bob blwyddyn) ac felly mae'r gost yn amrywio yn dibynnu ar feddygfa. 

    Os ydych wedi byw dramor am fwy na chwe mis, mae'n ofynnol i chi gael gwiriadau tramor ar gyfer pob gwlad rydych wedi byw ynddi.  Mae rhai gwledydd yn codi ffi am hyn, chi fydd yn talu’r ffi honno  ac mae’n amrywio yn dibynnu ar y wlad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth y DU: Gwiriadau Tramor

    Bydd y ymgeisydd/ymgeiswyr yn talu ffi yn uniongyrchol i'r llysoedd wrth gyflwyno cais am Orchymyn Mabwysiadu. Ar hyn o bryd £183 yw’r gost: Gwneud cais am Orchymyn Llys Mabwysiadu

    Os yw'r ymgeisydd/ymgeiswyr yn dymuno cael copi 'llawn' o'r Dystysgrif Fabwysiadu, yna mae cost am hyn sy'n cael ei thalu'n uniongyrchol i'r llysoedd. Ar hyn o bryd £11 yw’r gost: Tystysgrif Mabwysiadu

    Yn amlwg, bydd hefyd y gost barhaus o ofalu am blentyn (fel y byddai pe bai plentyn yn cael ei eni i chi). Dyna pam y gofynnwn i chi ystyried eich sefyllfa ariannol cyn gwneud cais

    Os ydych yn ystyried Mabwysiadu Rhyngwladol mae amrywiaeth o gostau'n gysylltiedig â hyn. 

  • Preswyliaeth a Dinasyddiaeth

    Yn ôl y gyfraith mae’n rhaid bod ymgeiswyr yn byw yn y DU ac yn disgwyl aros yn y DU hyd y gellir rhagweld. Disgwylir y dylai o leiaf un o’r darpar fabwysiadwyr fod yn byw yn Ynysoedd Prydain neu wedi bod yn preswylio’n arferol mewn rhan o Ynysoedd Prydain am gyfnod heb fod yn llai na blwyddyn cyn eu bod yn gwneud cais i’r llys am Orchymyn Mabwysiadu. 

    Os nad yw ymgeisydd yn Ddinesydd Prydain neu’n Ddinesydd Deuol, mae’n rhaid ei fod wedi cael ac yn gallu darparu dogfennaeth i gadarnhau bod ganddo neu y bydd ganddo hawl yn fuan i ‘Caniatad Amhenodol i Aros (ILR)’ yn y DU. Mae gofyn i ddinaswyddion heb ddinasyddiaeth ddeuol fod â Statws Preswylydd Sefydlog.  Pan na fydd ymgeiswyr yn bodloni’r gofynion hyn, mae’n bosibl y cânt eu cynghori i geisio cyngr cyfreithiol a rhannu hyn gyda ni.

  •