Preifatrwydd a Cwcis
Pan fo rhywun yn ymweld â'r wefan www.adopt4vvc.org, rydyn ni'n casglu gwybodaeth mewngofnodi safonol gwefannau a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn canfod pethau fel nifer yr ymwelwyr ar wahanol adrannau'r wefan. Rydyn ni'n casglu'r wybodaeth mewn ffordd nad sy'n adnabod neb. Nid ydyn ni'n gwneud unrhyw ymgais i ddod o hyd i nodweddion adnabod ymwelwyr â'n gwefan. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata sy'n cael ei gasglu o'r wefan hon â gwybodaeth sy'n adnabod unigolion o unrhyw ffynhonell. Os ydyn ni'n dymuno casglu gwybodaeth sy'n adnabod unigolion trwy'n gwefan, byddwn ni'n hollol dryloyw am hyn. Byddwn ni'n nodi'n eglur pryd y byddwn ni'n casglu gwybodaeth bersonol ac yn esbonio'r hyn rydyn ni am ei wneud â hi.
Defnydd cwcis gan Mabwysiadu'r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd
Ffeiliau testun bychain ydy cwcis sy'n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych chi'n ymweld â nhw. Defnyddir nhw'n gyffredin i wneud i wefannau weithio, neu weithio'n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y wefan. Mae'r tabl isod yn egluro pa gwcis rydyn ni'n eu defnyddio a pham.
Cwci | Enw | Pwrpas | Gwybodaeth bellach |
Google Analytics |
_utma
_utmb
_utmc
_utmz
|
Casglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio'n gwefan. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth i goladu adroddiadau ac i'n helpu ni i wella'r wefan. Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddi-enw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â'r wefan, o ble y daeth yr ymwelwyr a'r tudalennau y gwnaethon nhw ymweld â nhw.
|
Google Privacy |
Derbyn cwcis ar wefan Mabwysiadu'r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd |
VOGCookiesAccepted |
Cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn defnydd cwcis ar wefan Mabwysiadu'r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd
|
|
Dewis iaith ar wefan Mabwysiadu'r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd
|
lang |
Storio eich dewis iaith ar gyfer pori'n gwefan.
|
|
Gweinyddwyr gwefan Mabwysiadu'r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd
|
BIGipServerwww_http_pool
|
|
|
Mae mwyafrif porwyr y we'n caniatáu rhywfaint o reolaeth dros gwcis trwy fframwaith y porwr. I ganfod mwy am gwcis, gan gynnwys pa rai sydd wedi eu gosod a sut i'w rheoli a'u dileu nhw, ewch i: www.allaboutcookies.org/.
I ddewis peidio á chael eich tracio gan Google Analytics ar unrhyw wefan, ewch i: tools.google.com/dlpage/gaoptout.
Cwcis YouTube
Rydyn ni'n mewnosod fideos o'n sianel fideo YouTube swyddogol gan ddefnyddio uwch-osodiad preifatrwydd YouTube. Gall y gosodiad hwn roi cwcis ar eich cyfrifiadur unwaith y byddwch chi wedi clicio ar chwaraeydd fideo YouTube, ond ni fydd YouTube yn storio cwcis adnabod unigolion ar gyfer chwarae fideos wedi eu mewnosod gan ddefnyddio'r uwch-osodiad preifatrwydd. I ganfod mwy, ewch i dudalen gwybodaeth mewnosod fideos YouTube.
Wrth i'r Cyngor greu gwasanaethau newydd, mae'n bosibl y bydd angen i ni addasu'r datganiad hwn. Os bydd ein polisi preifatrwydd yn newid ar unrhyw adeg yn y dyfodol, caiff ei gofnodi ar y dudalen hon.