Child-having-face-painted

Nosweithiau Gwybodaeth

Rydym yn cynnal nosweithiau gwybodaeth ar-lein drwy gydol y flwyddyn (bob pump-chwech wythnos yn fras). Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i ddigwyddiad o’r fath, llenwch ein ffurflen ymholi neu ffoniwch ni ar 0800 023 4064

Newyddion

  • Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTCRh+ New Family Social 2026

    02/03/2026

    Yr wythnos hon mewn partneriaeth â New Family Social rydym yn tynnu sylw at Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTCRh+ 2026 ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

    Yn 2024-2025 mae 25% o'n haelwydydd cymeradwy yn nodi eu bod yn LHDTCRh+ a byddem wrth ein bodd petaech yn ystyried ymuno â nhw. Os ydych chi'n LHDTCRh+ (sengl neu mewn cwpl) ac mae gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am fod yn rhiant mabwysiadol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

    Rydym yn aelodau aur gyda New Family Social ac mae hyn yn golygu y gall ein darpar rieni, teuluoedd mabwysiadol a staff i gyd gael mynediad at y cymorth a'r adnoddau sydd ar gael gan New Family Social. Os ydych chi yn y broses o fabwysiadu gyda ni neu wedi mabwysiadu gyda ni eisoes, gallwch gofrestru yma: New Family Social

  • Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2025

    20/10/2025

    Yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu hon, mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn galw ar fwy o bobl yng Nghymru i ystyried mabwysiadu wrth feithrin eu teuluoedd a hynny fel rhan o'i ymgyrch 'Mae Nawr yn Amser Da'. Mae'r ymgyrch wedi'i hysbrydoli gan straeon am yr eiliad yna y mae rhieni yn gwneud y penderfyniad fydd yn newid bywydau, sef dechrau'r broses fabwysiadu, a'r argymhellion personol a'u helpodd i gyrraedd y nod.

    Mae pob teulu'n unigryw, ac mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cefnogi mabwysiadwyr o wahanol fathau o deuluoedd trwy'r broses. Ers i'r gwasanaeth gael ei sefydlu dros ddeng mlynedd yn ôl, mae mabwysiadu gan gyplau o'r un rhyw wedi cynyddu i 22% yng Nghymru ac i 10% ymysg pobl sengl, tra bod cyfran y mabwysiadwyr o gefndiroedd BAME neu ethnigrwydd cymysg wedi cynyddu i 17%.

    Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru:

    “Mae Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn gyfle gwych i ddathlu’r llawenydd sy’n cael ei greu o fewn cymaint o deuluoedd Cymreig drwy fabwysiadu, ac i apelio at unrhyw un sy’n ystyried dechrau, neu ehangu eu teulu am ba reswm bynnag, i’w ystyried. Mae mabwysiadu yn rhoi cymaint i rieni ac i blant ac er y gall fod yn heriol ar adegau, mae gwasanaethau ar gael i gefnogi darpar fabwysiadwyr, a’r teuluoedd a grëwyd, bob cam o’r daith hon sy’n newid bywydau. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau ar eich taith fabwysiadu eich hun neu os ydych chi eisiau gwybod mwy am y broses, gallwch gysylltu ag un o’n pum gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol neu’r Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol annibynnol ledled Cymru.”

  • Pen-blwydd Deng Mlynedd y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd

     01/062025

    Nododd 1 Mehefin 2025 ddeng mlynedd ers sefydlu Cydweithfa Fabwysiadu y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (FCCh).

    Mae Cydweithfa Fabwysiadu y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, a gynhelir gan Gyngor Bro Morgannwg, yn un o bum gwasanaeth rhanbarthol yng Nghymru sy'n ffurfio'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC).

    Mae FCCh yn cynnig yr ystod lawn o wasanaethau mabwysiadu ar ran Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a Chyngor Caerdydd. Fe’i cefnogir gan Gydbwyllgor a Bwrdd Rheoli sy'n cynnwys aelodau a swyddogion o'r pedwar awdurdod partner.

    Ers ei sefydlu, mae'r gwasanaeth wedi tyfu a datblygu ac mae'n enghraifft gadarnhaol o ba mor effeithiol y gall gweithio ar y cyd fod, wrth sicrhau bod plant sydd angen cartref mabwysiadol yn gallu cael eu lleoli'n ddiogel ac yn llwyddiannus. Dros y deng mlynedd diwethaf mae FCCh wedi bod yn llwyddiannus wrth leoli dros saith cant o blant ac wedi cymeradwyo ymhell dros bum cant o deuluoedd mabwysiadol.

    Mae diddordeb y cyhoedd mewn mabwysiadu yn amrywio ledled y DU, felly mae gan FCCh ei Swyddog Marchnata a Recriwtio ei hun sy'n gweithio'n agos gyda phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol i hyrwyddo mabwysiadu. Bob blwyddyn mae'r gwasanaeth yn mynychu nifer o ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol i roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaeth. Yn flaenorol, mae hyn wedi cynnwys digwyddiadau Pride, digwyddiadau Cymraeg a digwyddiadau cymunedol lleol.

    Rhan gynyddol o wasanaeth FCCh yw datblygu ystod o wasanaethau cymorth mabwysiadu i ddiwallu anghenion teuluoedd mabwysiadol yn ogystal â chefnogi oedolion mabwysiadol. Mae'r rhan hon o'r gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda'r partneriaid rhanbarthol i ddarparu cymorth therapiwtig lle bo angen. Mae'r tîm Cymorth Mabwysiadu yn hwyluso ystod o weithgareddau unigol a grŵp gan gynnwys dau Ddiwrnod Hwyl i'r Teulu y flwyddyn. Mae'r diwrnodau hwyl i'r teulu bob amser yn cael eu mynychu gan ymhell dros gant o deuluoedd. Bydd FCCh yn nodi ei ben-blwydd gyda theuluoedd mabwysiadol yn ddiweddarach eleni yn ein diwrnod hwyl.

    Dywed Angela Harris, Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol:

    “Mae gan y gwasanaeth lawer i fod yn falch ohono o ran perfformiad a gweithio ar y cyd, ond ni fyddai hyn yn bosibl heb gefnogaeth tîm rheoli a staff ymroddedig.”

  • Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2023

    16/10/2023

    Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (16fed-22ain Hydref), mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) yn parhau ei ymdrechion i annog mwy o bobl i ystyried mabwysiadu. Daw hyn wrth i grwpiau o siblingiaid, plant ag anghenion arbennig, a phlant hŷn yng Nghymru barhau i chwilio am eu ‘cartref am byth’.

    Mae NAS yn datgelu ystod o fideos addysgol i fynd i'r afael â chamsyniadau am fabwysiadu a chynorthwyo'r rhai sy'n teimlo efallai nad ydynt yn gymwys i fabwysiadu.

    Yr wythnos hon, nod NAS yw ail-lunio barn y cyhoedd trwy chwalu hen fythau a chyflwyno profiadau go iawn.

    Mae nifer o fabwysiadwyr o Gymru wedi ymuno â'r fenter hon, gan ymddangos mewn fideos ac ysgrifennu blogiau i ledaenu ymwybyddiaeth.

    Mae Faith, a fabwysiadodd grŵp o siblingiaid gyda Gwasanaeth Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, yn rhannu ei chymhelliant:

    “Roedden ni eisoes wedi ystyried mabwysiadu ond pan wnaethon ni ddarganfod, hyd yn oed pe baen ni wedi cael IVF, na fyddwn i’n gallu cario i’r tymor llawn, fe ddechreuon ni ei ystyried yn fwy difrifol. Pan ddywedodd y gweithiwr cymdeithasol ein bod ni’n addas nid yn unig ar gyfer dau sibling, ond grŵp mwy o faint, fe wnaeth ein syfrdanu ni ond gwnaethom sylweddoli y gallai hyn ddod yn realiti. Cafodd fy mhartner a minnau lawer o drafodaethau, un o’r rhai cyntaf oedd, a yw ein tŷ ni’n ddigon mawr? Pan aethon ni at ein teulu a’n ffrindiau, roedden ni’n meddwl y byddai rhywfaint o wrthwynebiad - roedden ni wedi mynd o fod yn gwpl i fod yn deulu mawr - ond yn lle hynny, fe wnaethon nhw roi cariad a chefnogaeth i ni. Er bod ein teulu ni’n llawer mwy nag y gallen ni erioed fod wedi’i ddychmygu, dyna oedd y peth gorau oherwydd fe wnaethon ni gadw’r siblingiaid hyn gyda’i gilydd.”

    Yn ogystal â rhannu straeon mabwysiadu, mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru wedi bod yn cynyddu gwybodaeth am fabwysiadu gyda chymunedau ledled y DU, trwy eu podlediad gwobrwyog, Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu.

    Canmolwyd y ddwy gyfres o’r podlediad dwyieithog, a oedd yn cynnwys straeon gan saith teulu mabwysiadol ochr yn ochr â phennod arbennig, a gynhyrchwyd ac a gyflwynwyd gan bobl ifanc a fabwysiadwyd, am ei olwg onest ar fabwysiadu.

    Eglurodd Tasha, athrawes a fabwysiadodd ddau sibling ag anghenion dysgu ychwanegol drwy Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ac a gymerodd ran yng nghyfres un o’r podlediad:

    “Pan anfonais fy e-bost o ddiddordeb [i fabwysiadu], roedd fy nheulu’n dweud wrthyf na fyddai ‘nhw’ eisiau fi oherwydd fy mod yn sengl, mae gen i swydd amser llawn, mae gen i gi. Meddyliais ‘Pam na fydden nhw eisiau fi? Fe es i mewn gyda meddwl agored iawn. Yn amlwg roedd yn rhaid i mi ystyried bod fy nheulu yn byw 2 ½ awr i ffwrdd, fodd bynnag, roeddwn yn ymwybodol bod llawer o blant hŷn (oedran ysgol i fyny) yn aml yn aros hiraf. Roedd fy ngweithiwr cymdeithasol yn wych, ac roeddwn i wedi bod mewn cysylltiad â’r teulu maeth. Felly, pan ddes i â nhw adref, wnes i ddim rhoi’r gorau i’r drefn roedden nhw wedi’i hadeiladu yn nhŷ eu gofalwr maeth. Fe wnes i hyd yn oed barhau gyda’r ysgytlaeth siocled cyn mynd i’r gwely gan mai dyna wnaeth eu gofalwyr maeth. Roedd fy merch yn eithaf sensitif i rai pethau, ac fe wnaethon ni weithio arnyn nhw gyda hi dros amser. Roedd sylwi ei bod yn dechrau rhoi’r gorau i’r sbardunau hyn yn arwydd i mi ei bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir.”

    Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru:

    “Rydyn ni’n gobeithio, yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu eleni, y bydd pobl sy’n meddwl am fabwysiadu ledled Cymru yn gweld y wybodaeth sy’n cael ei rhannu yn ddefnyddiol ac yn ysbrydoledig. Ein nod yw ateb llawer o'r cwestiynau a allai fod ganddynt am fabwysiadu grŵp o siblingiaid, plant ag anghenion mwy cymhleth neu blentyn hŷn. Mae ein gwasanaethau bob amser yn hapus i ddarparu mwy o wybodaeth.”

  • Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn lansio canllaw newydd i gefnogi busnesau

    14/08/2023

    Wedi'i lansio'n swyddogol yn Eisteddfod Genedlaethol 2023, mae pecyn cymorth newydd i gyflogwyr, ‘Mabwysiadu yn eich busnes’ y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi cael ei greu i gynnig arweiniad ar y ffordd y gall busnesau addasu eu polisïau AD i deimlo eu bod wedi'u grymuso i drafod a rhannu pwnc mabwysiadu gyda gweithwyr ac i fod yn fwy cefnogol i'r gymuned fabwysiadu.

    Yn 2023, mae Cymru yn gartref i dros 4,400 o fabwysiadwyr ar hyn o bryd - gyda thros 300 yn rhagor hefyd yn mynd drwy'r broses fabwysiadu.

    Mae gan rieni mabwysiadol hawliau statudol i absenoldeb mabwysiadu yn y gweithle; ond nid yw rhai busnesau ar hyn o bryd yn cynnwys yr amser sy'n ofynnol ar gyfer yr hyfforddiant, yr asesiad a'r prosesau eraill y mae'n rhaid i fabwysiadwyr eu cyflawni yn ystod y broses fabwysiadu a thu hwnt.

    Dywed Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru:

    "Er bod mabwysiadwyr yn cael cefnogaeth drwy gydol y broses fabwysiadu, mae angen cefnogaeth ddilynol gan gyflogwyr hefyd i helpu mabwysiadwyr a'r rhai sy'n aros i blentyn ymuno â'u teulu. Mae'n bwysig bod busnesau'n cael eu galluogi gyda mwy o wybodaeth am fabwysiadu, fel y gallant roi'r gefnogaeth gywir i'w gweithwyr. Gall cefnogaeth gael ei adlewyrchu drwy bolisïau AD, o fewn polisïau absenoldeb mabwysiadu i fabwysiadwyr newydd a hefyd o fewn polisïau gweithio hyblyg i bobl sy'n mynd drwy'r broses. Rydym yn falch o fod wedi cynhyrchu'r pecyn cymorth hwn a gobeithiwn y bydd yn cynorthwyo busnesau i gefnogi mabwysiadwyr a’r rheiny sy’n aros i fabwysiadu ac, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, i ddatblygu polisïau sy'n cefnogi amgylchiadau pob rhiant. Yn yr un modd, gall cyflogwyr hefyd gofrestru ar gyfer 'Cynllun Cyflogwr sy’n Hwyluso Maethu y Rhwydwaith Maethu' a byddem yn eu hannog i wneud hynny."

    Lansiwyd y pecyn cymorth i gyflogwr yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan ym mis Awst 2023. Daeth Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru ynghyd a chyflwyno panel gyda busnesau sy’n hwyluso mabwysiadu a maethu. Roedd y panel, a gyflwynwyd gan y Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yn cynnwys mabwysiadwr a gofalwr maeth o Gymru wrth iddynt drafod pwysigrwydd polisïau gweithio hyblyg ac absenoldeb rhiant sy'n adlewyrchu teuluoedd modern yng Nghymru.

  • Cymru ar frig y DU o ran cymorth hanfodol i helpu plant mabwysiedig i ddeall hanesion eu bywydau, yn ôl ymchwil newydd gan Adoption UK

    26/05/2023

    Mae Cymru ar frig gwledydd y DU o ran helpu plant sydd wedi’u mabwysiadu i ddeall rhan gynnar eu bywydau, diolch i flaenoriaeth y llywodraeth o’r gwaith hwn ers 2019. Mewn mannau eraill yn y DU, mae ymdeimlad plant o sicrwydd a hunaniaeth, a’u lles meddwl hwyrach yn eu harddegau ac oedolaeth, yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd methiant cymorth ‘taith bywyd', mae ymchwil newydd gan Adoption UK yn datgelu: Baromedr Adoption UK 2023

    I lawer o bobl sydd wedi’u mabwysiadu, mae gan drawma a brofwyd cyn iddynt gael eu mabwysiadu, ynghyd â cholli hunaniaeth sy’n gysylltiedig â chael eu gwahanu oddi wrth eu teulu biolegol, oblygiadau gydol oes. Mae ‘gwaith taith bywyd’ fel y’i gelwir yn golygu helpu plentyn mabwysiedig i ddeall ei hanes ei hun a’r rhesymau pam y cafodd ei fabwysiadu.

    Mae arbenigwyr mabwysiadu a seicolegwyr yn cydnabod yn eang bwysigrwydd hanfodol deall eich hanes cynnar, fel rhan o lunio ymdeimlad iach o hunaniaeth. Gall dulliau a ddefnyddir mewn gwaith taith bywyd gynnwys gweithgareddau fel chwarae a chwnsela, a defnyddio deunyddiau fel llyfrau taith bywyd, sy’n esbonio stori gynnar plentyn mewn ffordd sy’n briodol i’w hoedran, a ‘llythyrau bywyd diweddarach’ sy’n cael eu hysgrifennu i blant eu darllen pan fyddant yn hŷn.

    Dywedodd 72% o rieni mabwysiadol y DU eu bod yn hapus ag ansawdd y deunyddiau taith bywyd a gawsant, ffigwr sydd prin wedi newid mewn 5 mlynedd. Yng Nghymru, 86% oedd y ffigwr yma - ac mae'n cynrychioli cynnydd o 30% o'i gymharu â 5 mlynedd yn ôl.

    Roedd nifer y teuluoedd a oedd yn derbyn deunyddiau taith bywyd yn fuan ar ôl mabwysiadu hefyd yn uwch yng Nghymru, gan roi’r cychwyn gorau i rieni mabwysiadol yng Nghymru wrth gefnogi eu plant.

    Dywedodd Ann Bell, Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer Adoption UK:

    “Mae deunyddiau taith bywyd yn ffordd hollbwysig o helpu plant mabwysiedig i ddeall eu cefndir a pham y cawsant eu mabwysiadu. Ochr yn ochr â threfniadau i gynnal cysylltiadau teuluol biolegol, lle mae’n ddiogel gwneud hynny, gall y deunyddiau hyn chwarae rhan hanfodol wrth greu ymdeimlad cliriach o hunaniaeth, a sylfeini cryfion ar gyfer blynyddoedd yr arddegau a bywyd diweddarach. Mae gweithredu beiddgar gan lywodraeth Cymru yn dangos bod buddsoddi priodol mewn gwaith taith bywyd yn dwyn ffrwyth. Dylai llywodraethau ledled y DU ddilyn yr un peth yn gyflym.”

    Daw’r ffigurau o bumed adroddiad Mabwysiadu Baromedr Mabwysiadu blynyddol y DU, sef yr arolwg mwyaf cynhwysfawr o fabwysiadu yn y DU. Gwnaeth arolwg o bron i 3,000 o deuluoedd mabwysiadol, darpar fabwysiadwyr a phobl fabwysiedig dros 18 oed, y mae 150 ohonynt yn byw yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cynnig darlun cyfoethog o effaith polisi ac arfer mabwysiadu ar fywydau pobl fabwysiedig a mabwysiadwyr ledled y DU.

    Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC), Suzanne Griffiths:

    “Mae adroddiad Baromedr AUK unwaith eto yn rhoi darlun cadarnhaol o fabwysiadu yng Nghymru yn ogystal â nodi lle mae angen gwelliant pellach. Rydym yn falch o weld Cymru yn arwain y ffordd wrth helpu plant mabwysiedig i ddeall rhan gynnar eu bywydau. Mae gwaith taith bywyd yn cefnogi ein ffocws ar ddeall hunaniaeth fel person mabwysiedig, ac mae wedi’i anelu at bawb sy’n ymwneud â mabwysiadu, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol a theuluoedd. Mae’n galonogol iawn clywed bod y mwyafrif helaeth o rieni mabwysiadol yng Nghymru bellach yn hapus ag ansawdd y deunyddiau stori bywyd a gânt, o gymharu â phum mlynedd yn ôl. Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi cyflwyno’r Ymrwymiad Cymorth Mabwysiadu, y cyntaf o’i fath yn y DU, gan sicrhau bod mabwysiadwyr yng Nghymru yn cael cymorth yn ystod pob cam o’u taith. Bydd NAS yn parhau i weithio gyda rhieni mabwysiadol, plant a phobl ifanc i sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â’r broses fabwysiadu yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.”

    Dywedodd Helen Cruthers, Seicotherapydd yn Hyb Seicoleg a Therapi Adoption UK (PATH), sydd wedi gweithio gyda theuluoedd ers 30 mlynedd ac yn arbenigo yn y maes mabwysiadu a maethu am y 15 diwethaf:

    “Rwy’n gweld â’m llygaid fy hun y gwahaniaeth y mae gwaith stori bywyd yn ei wneud – y daioni sy’n dod o’i wneud yn dda, a’r problemau sy’n deillio o ddiffyg ohono, yn enwedig ym mlynyddoedd yr arddegau ac yn ddiweddarach mewn bywyd. Un o’r pethau tristaf yw pan fydd plant nad oes ganddyn nhw esboniad llawn a chlir o’u bywyd cynnar a’u mabwysiadu yn gwneud yr hyn mae plant bregus yn ei wneud yn aml: yn beio eu hunain, neu’n meddwl bod yn rhaid bod rhywbeth o’i le arnyn nhw. Pan feddyliwch yn y termau hynny, gallwch weld pam ei bod mor bwysig esbonio eu bywyd cynnar iddynt, a pham mae’r buddsoddiad y mae Cymru wedi’i wneud yn y maes hwn mor hynod werthfawr.”

    Dywedodd Sophia*, rhiant mabwysiadol:

    “Mabwysiadodd fy ngŵr a minnau siblingiaid hŷn, chwech a phedair oed ar adeg lleoli sydd, fel pob plentyn â phrofiad o ofal, â thaith bywyd unigryw a chymhleth. Gweithiodd eu gweithiwr cymdeithasol yn rhagweithiol gyda ni i baratoi eu llyfrau taith bywyd, gan gynnwys rhannu drafftiau. Roedd hyn yn bwysig iawn i sicrhau ein bod yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r deunydd gyda'r plant ac adeiladu ar y naratif wrth iddynt dyfu i fyny. Mae’r llyfrau wedi bod o gymorth mawr i ni gael sgyrsiau rheolaidd a gonest fel teulu. Mae'r plant yn dod yn fwy hyderus yn eu hunaniaeth. Yn hollbwysig, rwy’n meddwl bod y deunyddiau, a sut rydym yn eu defnyddio, wedi sefydlu perthnasoedd diogel ac ymddiriedus i siarad yn agored, heb gywilydd.”

    *newidiwyd yr enwau

  • Lansio podlediad cyntaf y DU gan bobl ifanc mabwysiedig

    29/032023

    Am y tro cyntaf ym myd y podlediadau y DU, mae grŵp o bobl ifanc, fabwysiedig wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu a chyflwyno pennod podlediad dwyieithog, gan rannu eu profiadau personol o fabwysiadu a chael eu mabwysiadu.

    Mewn rhifyn arbennig o’r podlediad hynod boblogaidd Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu, a wnaed ar ran Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, mae naw o bobl fabwysiedig, rhwng 13 a 26 oed yn sgwrsio â'i gilydd am fabwysiadu, sut mae wedi llunio elfennau o'u bywydau, a phwysigrwydd rhoi pobl fabwysiedig wrth galon pob gwasanaeth.Mae'r bennod yn archwilio ystod amrywiol o brofiadau ac emosiynau sy'n gysylltiedig â thyfu i fyny fel person mabwysiedig.

    Mae Charlotte, 26, yn ymddangos trwy gydol y bennod:

    "Roeddwn i’n lwcus bod fy rhieni bob amser yn rhoi gwybodaeth oed-briodol i mi, roedden i bob amser yn cael gwybod beth oedd angen i mi ei wybod ar y cam cywir o fy mywyd. Dywedwyd wrthyf bob amser bethau pwysig, hyd yn oed os oedd weithiau'n cymryd ychydig yn hirach i mi ddeall y cyfan. Ond, gyda mabwysiadu, tra bod gennych y teulu newydd hwn, rydych hefyd yn profi colled o rieni biolegol a theulu cwbl wahanol ac felly mae pawb yn prosesu pethau’n wahanol."

    Drwy gydol y bennod, mae’r cyfranwyr yn trafod camsyniadau a rhagfarnau cyffredin y maent wedi dod ar eu traws, ac yn amlygu’r angen i barhau i herio canfyddiadau hen ffasiwn ynghylch mabwysiadu.

    Mae Sarah yn 13, ac yn byw yng Ngogledd Cymru:

    "Dyw plant bach ddim yn deall pethau cystal â hynny, felly roedden nhw’n arfer dweud ‘o fe gafodd dy fam a’th dad wared ohonot ti, dydyn nhw ddim yn dy garu di’. Y dyddiau hyn, mae pobl yn dechrau deall mwy am fabwysiadu."

    Mae’r bobl ifanc yn y bennod yn aelodau o’r grŵp Connected a Chyngor Ieuenctid Connect, sy’n cael ei redeg gan yr elusen Adoption UK ar ran Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru.

    Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac mae’n darparu man diogel i’r bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau, cysylltu â phobl ifanc eraill sydd wedi’u mabwysiadu, a hwyluso cydweithio â llunwyr polisi ar draws Cymru a’r DU, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, cynghori ar brosesau mabwysiadu a chymorth.

    Mae Charlotte, yn cyffwrdd â’r gefnogaeth y mae’n ei derbyn gan y grwpiau Connected:

    "Mae’r grwpiau’n rhoi lle diogel iawn i mi archwilio fy nheimladau a gofyn cwestiynau fel ‘a yw hyn yn normal? Pam ydw i’n teimlo fel hyn?’ gyda gweithwyr ieuenctid hyfforddedig ac mae hynny’n help aruthrol, rwy’n gallu gwneud ffrindiau a magu hyder. Rhai o’r pethau fyddwn i byth wedi eu gwneud oni bai am y grŵp, yn enwedig cael cyfleoedd lluosog i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl fabwysiedig yn cael eu clywed mewn cyfarfodydd pwysig iawn."

    Cynhyrchwyd y bennod gan y bobl ifanc dros gyfnod o flwyddyn, gyda chefnogaeth staff o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, gweithwyr ieuenctid ymroddedig, arbenigwyr cynhyrchu podlediadau: Bengo Media, ac ymgynghorwyr cyfathrebu strategol: Cowshed Communication.

    Roedd datblygiad y bennod yn cynnwys gweminarau, nosweithiau hyfforddi a sesiynau cydweithredol i’r cyfranwyr, archwilio’r diwydiant podledu, sgiliau cynhyrchu ymarferol, ystyriaethau golygyddol, adrodd straeon pwerus a magu hyder. Y gobaith yw y bydd y sgiliau a enillwyd trwy'r broses yn galluogi'r rhai sy'n gysylltiedig i ddilyn cyfleoedd pellach yn y maes hwn.

    Meddai Charlotte, am ei phrofiad o gynhyrchu’r podlediad:

    "Mae wir angen tîm i wneud podlediad ac roedd pawb yn Bengo Media, Cowshed a Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn allweddol i ni drwy gydol camau cynllunio, cynhyrchu a recordio’r podlediad. Roedd pawb a gymerodd ran yn feddylgar, yn garedig ac wedi rhoi lle diogel i ni siarad am ein profiadau o fabwysiadu ac ni allaf ddiolch digon iddynt. Fy hoff ran oedd cyfarfod â phawb o Bengo Media a Cowshed yn bersonol ar y diwrnod recordio oherwydd bod yr holl gynllunio wedi'i wneud trwy Zoom, felly roedd gweld pawb gyda'i gilydd yn teimlo bod y pos yn gyflawn. Roedd hi hefyd mor hyfryd cael y cyfle i siarad am y gwahanol sefyllfaoedd mae pobl fabwysiedig yn eu hwynebu ac roedd recordio podlediad gyda ffrindiau yn hynod o cŵl hefyd! Gobeithio bod unrhyw un sy’n gwrando ar y podlediad yn gwneud hynny gyda meddwl a chalon agored. Rwy’n gwybod pa mor anodd y gall fod i gydymdeimlo â sefyllfa nad ydych wedi bod drwyddi neu nad ydych yn gwybod llawer amdani, ond bydd bod â meddwl agored a bod yn barod i wrando yn helpu person mabwysiedig yn aruthrol. Rydyn ni eisiau cael ein clywed a theimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi mewn cymdeithas."

    Meddai Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru:

    “Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn falch o’r ffaith bod llawer o’r newidiadau mewn mabwysiadu sydd wedi digwydd yng Nghymru wedi digwydd o ganlyniad i wrando ar ein defnyddwyr gwasanaeth ac ymateb i’r hyn y maent yn ei ddweud wrthym. Rydym felly wrth ein bodd bod y bobl ifanc wedi cael y cyfle i fod yn rhan o’r podlediad hwn ac wedi teimlo y gallant rannu eu meddyliau a’u teimladau gyda ni mewn ffordd mor agored a gonest. Mae eu straeon mor bwysig nid yn unig i’n helpu ni i ddeall, ond hefyd i unrhyw un sy’n meddwl am fabwysiadu ddysgu sut deimlad yw hi i’r plant a’r bobl ifanc.”

    Meddai Ann Bell, Cyfarwyddwr Adoption UK Cymru:

    “Rydym wedi ein syfrdanu gan y bobl ifanc hyfryd o bob rhan o Gymru sydd wedi cymryd rhan yn y podlediad. Nid yw byth yn hawdd iddynt rannu eu straeon, gall fod yn drawmatig ac yn gynhyrfus. Mae un o'r bobl ifanc, Keira May, yn edrych ymlaen at rannu'r podlediad yn ei gwasanaeth ysgol. Mae'n gobeithio y bydd yn helpu eraill i ddysgu am fabwysiadu a sut brofiad yw cael eich mabwysiadu. Rydym yn hynod falch o wasanaeth CONNECT a’r ffordd y maent wedi cefnogi’r bobl ifanc i gymryd rhan ar bob cam.”

    I wrando ar y podlediad, neu i gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu yng Nghymru ewch i wefan NAS

  • Sgwrs Mabwysiadu Fawr 2023

    31/01/2023

    Yn ystod y Sgwrs Mabwysiadu Fawr eleni, a ddaeth â’r gymuned fabwysiadu ynghyd i drafod y blaenoriaethau ar gyfer mabwysiadu yng Nghymru, ymddiheurodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, yn bersonol i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan arferion mabwysiadu hanesyddol.

    Dywedodd Mrs Morgan:

    “Er bod arferion mabwysiadu gorfodol yn bodoli ers cyn datganoli yng Nghymru, maen nhw wedi cael effaith barhaol ar bawb a’u profodd – ar y rhieni a’r plant. Hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf â phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan fabwysiadu gorfodol hanesyddol. I’r holl ddioddefwyr, hoffwn fynegi fy edifeirwch a fy nghydymdeimlad dwysaf - eich bod wedi gorfod dioddef arferion hanesyddol mor ofnadwy - a hynny oherwydd methiannau cymdeithas. Am hyn, mae’n wirioneddol ddrwg gen i."

    Gellir darllen ei datganiad llawn yma.

    Daw’r ymddiheuriad personol ar ôl i’r Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol gyhoeddi ei argymhellion, yn dilyn ymchwiliad i ddeall profiadau menywod di-briod y mabwysiadwyd eu plant rhwng 1949 a 1976 yng Nghymru a Lloegr.

    Croesawodd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru argymhellion yr ymchwiliad pan gawsant eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022, ac er bod deddfwriaeth ac arferion mabwysiadu wedi’u cryfhau’n sylweddol ers hynny, rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau yng Nghymru ymhellach.

    Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn cydymdeimlo’n ddwys â phawb yr effeithir arnynt. Dylid parhau i gydnabod anghyfiawnder yr arferion hanesyddol hyn.

    Mae mabwysiadu wedi newid yn sylweddol ers hynny a bellach yn cael ei ystyried ar gyfer plant dim ond pan fydd opsiynau eraill wedi'u harchwilio'n llawn.

    Nod gwasanaethau yw helpu teuluoedd biolegol i aros gyda'i gilydd lle bynnag y bo hynny'n bosibl, a lle nad yw hynny'n bosibl, mae mabwysiadu'n rhoi diogelwch a chyfle i blant ffynnu.

    Os ydych chi’n oedolyn mabwysiedig, yn rhiant biolegol neu’n berthynas biolegol arall yr effeithiwyd arno gan fabwysiadau hanesyddol yn y 1950au, 1960au a dechrau’r 1970au, mae amrywiaeth o wasanaethau presennol a all eich cefnogi.

    Gallwch ofyn am gyngor a chymorth gan eich asiantaeth fabwysiadu leol, i’ch helpu i archwilio pa gymorth a allai fod ar gael i chi’n lleol i ddelio ag effaith mabwysiadu hanesyddol eich plentyn.

    Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yr holl asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru ar Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol gwefan. 

    Yn ogystal â'r asiantaethau mabwysiadu statudol, mae sefydliadau eraill a all helpu'r rhai y mae mabwysiadu'n effeithio arnynt. Mae rhai o'r gwasanaethau hyn ar gael am ychydig neu ddim cost o gwbl, tra bod eraill yn costio mwy.

    Mae Adoption UK a’i gangen Gymreig, Adoption UK Cymru, yn sefydliad elusennol, sy’n gweithredu llinell gymorth am ddim i bobl sydd wedi’u mabwysiadu a rhieni sy’n mabwysiadu ac sydd hefyd yn cynnig gwasanaeth cymorth i oedolion mabwysiedig sy’n tanysgrifio i’r gwasanaeth hwn: Adoption UK 

    Bwriedir i’r wefan Chwilio ac Aduniad Mabwysiadu fod yn fan galw cyntaf i unrhyw un sy’n ystyried dod o hyd i berthnasau biolegol a mabwysiedig neu gysylltu â pherthnasau biolegol a mabwysiedig neu olrhain mabwysiadu a ddigwyddodd yn y DU. 

    Ffynhonnell arall o wybodaeth a chyngor i oedolion mabwysiedig unrhyw le yn y DU yw Family Connect.

    I gael manylion am wasanaethau eraill, gan gynnwys y rhai sy'n cynnig gwasanaeth sy'n seiliedig ar ffi, cysylltwch â'ch asiantaeth fabwysiadu leol, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi am yr ystod o wasanaethau sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol. Gall rhai o'r gwasanaethau sy'n gweithredu ar draws y DU helpu gyda mynediad at gofnodion ac efallai y bydd eraill hefyd yn gallu cynorthwyo lle mae'r ddau barti eisiau ailgysylltu trwy gynnig yr hyn a elwir yn wasanaeth cyfryngol. Mae rhai o'r sefydliadau yn elusennau ac eraill yn fusnesau preifat ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yng nghostau eu gwasanaethau.

    Mae’n rhaid i bob sefydliad sy’n darparu’r gwasanaethau hyn fod wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) neu Ofsted yn Lloegr.

    Mynediad at gofnodion a gwasanaethau cyfryngol

    Gall pob un o’r pump Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol yng Nghymru, sydd wedi’u lleoli mewn awdurdodau lleol, helpu gyda mynediad at gofnodion. Mae hon yn ddyletswydd statudol. Efallai y byddant hefyd yn gallu cynnig gwasanaeth cyfryngol. Yn wahanol i fynediad at gofnodion geni ar gyfer pobl a fabwysiadwyd, mae hwn yn wasanaeth dewisol. Ni chodir tâl am y naill na’r llall o’r gwasanaethau hyn, ond mae capasiti’n gyfyngedig, ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros am ychydig cyn y gallwch weld rhywun.

    Mae sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau gan gynnwys mynediad at gofnodion geni a/neu wasanaethau cyfryngol heblaw’r gwasanaethau mabwysiadu rhanbarthol yng Nghymru wedi’u rhestru isod. Bydd yr holl sefydliadau hyn hefyd yn darparu rhywfaint o gymorth emosiynol. Mewn rhai achosion bydd hyn yn cael ei ddarparu gan weithiwr cymdeithasol mabwysiadu mewn achosion eraill gan gwnselydd neu therapydd hyfforddedig.

    Gwasanaeth Cyfryngol Canfod Mabwysiadu: Dyma'r unig asiantaeth o'i math sydd wedi'i lleoli yng Nghymru ac sy'n gallu cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n cynnig mynediad at gofnodion geni, olrhain a gwasanaethau cyfryngol. 

    CMB Counselling: Mae’r sefydliad hwn yn cynnig gwasanaethau cymorth mabwysiadu i bobl sydd wedi’u mabwysiadu, perthnasau biolegol pobl a fabwysiadwyd a disgynyddion y rhai a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005. 

    Father Hudson’s Care: Mae'r asiantaeth elusennol hon yn cynnig cymorth i bawb y mae mabwysiadu'n effeithio arnynt, gan gynnwys gwasanaethau olrhain a chyfryngol. 

    Joanna North Associates Ltd: Mae hwn yn gwmni sy'n cynnig ystod o wasanaethau i oedolion mabwysiedig a pherthnasau biolegol, gan gynnwys mynediad at gofnodion geni, cwnsela, olrhain a gwasanaethau cyfryngol. 

    PAC-UK: Mae hwn yn sefydliad sy'n gweithredu ar draws y DU. Mae ganddi wasanaeth arbenigol sy'n darparu cymorth i oedolion sydd wedi'u mabwysiadu'n blant, ac oedolion sydd fel arall wedi'u lleoli'n barhaol fel plant. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gofnodion mabwysiadu, olrhain, gwasanaethau cyfryngol a chwnsela.

    Mae yna nifer o sefydliadau eraill sy'n cynnig cymorth emosiynol neu seicolegol i'r rhai y mae mabwysiadu'n effeithio arnynt, ond nad ydynt mewn sefyllfa i gynorthwyo gyda mynediad at gofnodion geni, olrhain na darparu gwasanaethau cyfryngol. Ceir manylion am y rhain ar wefan y Consortiwm o Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (CASA).

    Y gofrestr cyswllt mabwysiadu

    Cedwir manylion pob mabwysiad yng Nghymru a Lloegr gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO). Mae’r GRO yn gweithredu’r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu genedlaethol, sy’n caniatáu i bobl fabwysiedig a rhieni biolegol pobl fabwysiedig gofrestru eu manylion a nodi a ydynt yn dymuno i eraill gysylltu â nhw ai peidio. Mae cost i'w hychwanegu at y gofrestr. Mae hyn yn £15 ar gyfer oedolion mabwysiedig neu £30 ar gyfer aelodau o'r teulu biolegol. Sylwer mai dim ond rhwng y bobl hynny sydd wedi dewis rhoi eu manylion ar y gofrestr honno ac sydd wedi cofrestru eu parodrwydd i gael cyswllt y gall y gofrestr gyswllt wneud cysylltiadau. Nid oes gwasanaeth olrhain na chyfryngol yn gysylltiedig ag ef. 

    Y fframwaith cyfreithiol a'r broses ar gyfer mynediad at gofnodion geni

    Oedolion mabwysiedig – o dan gyfraith y DU, mae gan bob oedolyn mabwysiedig hawl gyfreithiol i gael mynediad at wybodaeth o’u cofnodion geni, er mwyn cael copi o’u tystysgrif geni wreiddiol unrhyw bryd ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Mae'r gyfraith yn mynnu bod y cofnodion hyn yn cael eu storio'n ddiogel am o leiaf 100 mlynedd. Mae'r fframwaith cyfreithiol ychydig yn wahanol, yn dibynnu a gawsoch eich mabwysiadu cyn 12 Tachwedd 1975 neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Os ydych eisoes yn gwybod eich manylion geni sylfaenol, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO) i gael copi o'ch tystysgrif geni wreiddiol. Os nad ydych chi'n gwybod y manylion sylfaenol hynny, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais i'w cael. Mae manylion ar wefan GRO. Fel arall, gallwch anfon e-bost: adoptions@gro.gov.uk neu ffonio: 0300 123 1837.

    Bydd y rhan fwyaf o'r wybodaeth fanwl am amgylchiadau mabwysiadu wedi'i chofnodi yn ffeiliau achos yr asiantaeth a leolir plentyn gyda'i rieni mabwysiadol. Mae'r cofnodion hyn yn cael eu cadw gan asiantaeth fabwysiadu sy'n bodoli eisoes neu mae modd cael gafael arnynt. Bydd y GRO yn gofyn i'r oedolyn mabwysiedig enwebu asiantaeth fabwysiadu i'w helpu i gael mynediad at ei gofnodion. Yr asiantaeth fabwysiadu yn eu hardal fydd hon fel arfer, hyd yn oed os cedwir eich cofnodion yn rhywle arall. Os gwnaed y gorchymyn mabwysiadu cyn 12 Tachwedd 1975, mae gofyniad cyfreithiol i weithiwr cymdeithasol mabwysiadu gwrdd â'r sawl sy'n cael ei fabwysiadu cyn y gall weld ei gofnodion. Os cawsant eu mabwysiadu ar ôl y dyddiad hwnnw, nid oes rhaid iddynt siarad â gweithiwr cymdeithasol mabwysiadu, ond mae’n debygol o fod yn ddefnyddiol iawn gwneud hynny. Gall y gweithiwr cymdeithasol mabwysiadu eu cynghori a’u cefnogi i ddeall y wybodaeth a’i rhoi yn ei chyd-destun hanesyddol. Gallant hefyd drafod pa opsiynau sydd ar gael os yw'r sawl sy'n cael ei fabwysiadu yn dymuno ymholi ymhellach neu geisio aduniad ac felly angen olrhain a gwasanaeth cyfryngol.

  • Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu: Dymor Dau Dweud y Gwir: Straeon Mabwysiadu

    17/10/2022

    Un o’r ffyrdd gorau o ysbrydoli a thawelu meddwl pobl i fabwysiadu yw trwy rannu straeon bywyd go iawn y rhai sydd wedi bod yno ac wedi gwneud hynny. 

    Mae Dweud y Gwir: Straeon Mabwysiadu, podlediad  wrth y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, yn anelu at fod yn adnodd addysgiadol sy’n cynnwys grŵp amrywiol o fabwysiadwyr yn trafod eu profiadau cyffredin gyda’i gilydd.

    Profodd tymor un o’r podlediad  yn hynod boblogaidd gyda mabwysiadwyr a darpar fabwysiadwyr a rhai a fabwysiadwyd, yn cyflawni dros 17,000 o lawrlwythiadau ar draws y DU a thu hwnt. 

    Ar gyfer tymor dau, rydym wedi cynyddu’r cynhyrchiad. Bydd pob pennod yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gael i’w gwrando ar Spotify, Apple Music a llwyfannau ffrydio eraill, a’u gwylio ar YouTube.

    Mae tymor dau yn cynnwys chwe phennod sy’n treiddio’n ddwfn i realiti mabwysiadu yn 2022. Mae ein teuluoedd yn cyffwrdd â rhai o heriau presennol gofal, gan gynnwys trawma cynnar, ac yn rhannu enghreifftiau o ble maen nhw wedi cyrchu cymorth ac arweiniad. 

    Clywn hefyd ein mabwysiadwyr yn siarad am y perthnasoedd y maent wedi’u meithrin â’u teuluoedd maeth a’u brodyr a’u chwiorydd biolegol a’r manteision y maent wedi’u rhoi i’r teulu cyfan ac i ddatblygiad y plant.

    Hefyd, mae cyngor uniongyrchol ar y ffordd orau i lywio’r system addysg i sicrhau bod eich plentyn yn cael y cymorth sydd ei angen arno.

    Gall y plant sy’n aros hiraf i gael eu mabwysiadu ar hyn o bryd fod ychydig yn hŷn, yn rhan o grŵp o frodyr a chwiorydd neu o ethnigrwydd BAME. Mae ein teuluoedd yn mynd i’r afael â rhai o’r stigmas sy’n gysylltiedig â mabwysiadu ac yn ailddatgan bod mabwysiadu i bawb. 

    Mae’r plant sy’n aros wrth galon y tymor hwn, ac felly i gloi’r gyfres, roeddem wrth ein bodd yn cydweithio â’r Cyngor Ieuenctid ar gyfer ein pennod feddiannu arbennig. Clywn gan fabwysiadwyr ledled Cymru a fydd yn trafod eu taith hyd yn hyn ac yn rhannu gwirioneddau mabwysiadu yn 2022.

    Mae pob un o’n teuluoedd yn wahanol. Mae’r straeon yn amrywio o’r un rhyw, mabwysiadwyr unigol a mabwysiadwyr sengl i fabwysiadwyr hŷn a mabwysiadwyr brodyr a chwiorydd. Doedd neb yn adnabod ei gilydd cyn gwirfoddoli i gymryd rhan, ond o fewn eiliadau mae fel gwrando ar hen ffrindiau yn siarad wrth iddyn nhw fondio dros eu hangerdd dros fabwysiadu.

    Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau tymor dau. Os byddwch yn ei gael yn fewnweledol , rhannwch gyda’ch ffrindiau a’ch teulu i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i ddechrau teulu yn 2022. 

    Gallwch wrando neu wylio yma: Podlediad / Fideo

  • Podlediad Dweud y Gwir yn Blaen yn Cipio’r Aur 

    04/10/2021

    Enillodd ein podlediad, Dweud y Gwir yn Blaen wobr Aur am y Defnydd Gorau o Gynnwys yng ngwobrau CIPR PRide Cymru eleni gwobr sy'n dathlu ac yn cydnabod cyfathrebiadau gwych. 

    Dyma beth oedd gan y beirniaid i'w ddweud: 

    “Daeth yr ymgyrch hon ag agwedd ffres iawn at fater cymhleth a sensitif, gyda ffocws ar adrodd straeon a phrofiadau bywyd go iawn. Fe wnaeth dull manwl o ymchwilio ac ymglymiad grwpiau teulu amrywiol o’r cychwyn greu podlediad cymhellol ac arloesol a ysbrydolodd ymgysylltiad newydd a ffrwythlon i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.” 

    Dywedodd y cyflwynydd podlediad a Swyddog Polisi ac Ymarfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Corienne Strange:

    “Fel llawer o sefydliadau nid oedd gennym unrhyw syniad beth fyddai’r pandemig yn ei olygu i’n gwasanaeth. Roedd y podlediad yn hollbwysig wrth ein helpu i rannu ein neges ond daeth â phobl ynghyd ar adeg pan oedd cysylltiad mor anhygoel o bwysig. Yr hyn y gwnaethon ni ddod i ben ag ef oedd cynnyrch proffesiynol a chyfredol sydd nid yn unig yn wrandawiad pleserus, ond does dim amheuaeth y bydd yn sefyll prawf amser i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wrth i ni barhau â’n cenhadaeth i annog mwy o bobl i fabwysiadu. Ni allem fod yn hapusach gyda’r gydnabyddiaeth aur i bawb dan sylw.” 

    Diolch enfawr i'n mabwysiadwyr, ein tîm cyfathrebu yn Cowshed a'r cynhyrchwyr podlediad yn Bengo Media am eu holl amser, didwylledd a’u gwaith caled.