Business woman with stack of documents

Mabwysiadau Heb Fod Drwy Asiantaeth / Llysrieni

Cyn dechrau

Yn y DU, mabwysiadu yw'r broses gyfreithiol o dorri cyfrifoldeb rhiant oddi wrth riant/rhieni biolegol plentyn a rhoi cyfrifoldeb rhiant i'r unigolyn/unigolion sy'n dymuno mabwysiadu'r plentyn.

Mae'n broses gyfreithiol, a chynghorir ymgynghori â chyfreithiwr sy'n arbenigo mewn cyfraith plant a theuluoedd.

Yn gyntaf mae mabwysiadu’n ymwneud â’r hyn sydd orau i'r plentyn/plant.

Mae pob achos o fabwysiadu’n cynnwys gwneud cais i'r Llys Teulu perthnasol lle bydd Barnwr yn goruchwylio'r achos ac yn gwneud penderfyniadau.

Wrth wneud cais i'r Llys, rydych yn gofyn i'r Barnwr roi Gorchymyn Mabwysiadu. Mae hwn yn Orchymyn cyfreithiol rwymol sy'n arwain at newidiadau mewn Cyfrifoldeb Rhiant.

Cyn y gall y Llys roi Gorchymyn Mabwysiadu, rhaid iddo fod yn gwbl fodlon nad yw lles y plentyn yn gofyn am ddim llai na mabwysiadu. Ni ellir ei roi os ystyrir bod unrhyw opsiwn arall yn addas.

Ni fydd y Llys yn rhoi Gorchymyn Mabwysiadu yn awtomatig a bydd yn disgwyl i ddewisiadau amgen eraill fod wedi eu harchwilio a'u hystyried ymlaen llaw.

Mae'n bwysig deall nad mabwysiadu fel llys-riant yw'r unig ffordd o gynnig amgylchedd teuluol sefydlog a diogel neu gydnabod hawliau, rolau a chyfrifoldebau llys-rieni.

Felly, dylech ystyried yr holl ddewisiadau amgen cyn gwneud penderfyniad.

Effaith Mabwysiadu fel Llys-riant:

  • Ar y plentyn

    Mae nifer o ganlyniadau i fabwysiadu fel llys-riant.

    Mae’r rhain yn cynnwys: 

    • Bydd y berthynas rhwng y plentyn a'r llys-riant yn cael ei chydnabod yn gyfreithiol.
    • Bydd y llys-riant yn cael cyfrifoldeb rhiant (hawliau cyfreithiol) ar yr un sylfaen â'r rhiant biolegol sy'n gofalu am y plentyn.
    • Gall y plentyn gael cyfenw neu enw teulu newydd.

     

     

    Mae nifer o ganlyniadau ehangach i'w hystyried gan na fyddai gan y plentyn unrhyw gysylltiadau cyfreithiol â'r rhiant biolegol absennol na theulu’r rhiant biolegol absennol mwyach.

    Er y gellir cynnal cysylltiadau da, yn ôl y gyfraith ni fydd gan y plentyn mabwysiedig:

    • Hawl awtomatig i gysylltu â'r rhiant biolegol sy'n colli cyfrifoldeb rhiant na theulu'r rhiant hwnnw (modrybedd, ewythrod, rhieni cu, ac ati).
    • Hawl i dderbyn taliadau cynhaliaeth gan y rhiant biolegol arall, h.y. Asiantaeth Cynnal Plant.
    • Unrhyw hawl i etifeddu gan y rhiant biolegol arall neu deulu'r rhiant hwnnw oni wneir darpariaeth arbennig yn ei ewyllys.

     

  • I’r Llys-riant

    Bydd y llys-riant yn dod yn rhiant cyfreithiol i’r plentyn gyda'r holl hawliau a chyfrifoldebau a fyddai ganddo pe bai'r plentyn wedi’i eni iddo. Mae mabwysiadu’n ymrwymiad gydol oes i fod yn rhiant i'r plentyn hwnnw trwy gydol ei blentyndod a thu hwnt. Mae mabwysiadu yn barhaol ac yn anwrthdroadwy ac eithrio mewn amgylchiadau prin ac eithafol.

  • I’r rhieni biolegol

    Bydd Gorchymyn Mabwysiadu yn tynnu cyfrifoldeb rhiant oddi wrth y rhiant biolegol absennol (os oes ganddo’r cyfrifoldeb hwnnw) ond mae'r rhiant, sef partner y llys-riant, yn cadw cyfrifoldeb rhiant.

    Os bydd y llys-riant sy’n mabwysiadu a'r rhiant biolegol yn gwahanu neu'n ysgaru ar ôl i Orchymyn Mabwysiadu gael ei roi, bydd y ddau yn cadw hawliau a chyfrifoldebau rhiant cyfartal i'r plentyn. Mae hyn yn golygu y bydd gan y llys-riant sydd wedi mabwysiadu'r plentyn hawl gyfreithiol i gysylltu â'r plentyn a byddai'n ofynnol iddo, fel rhiant cyfreithiol, dalu cynhaliaeth i'r plentyn.

    Un cwestiwn cyffredin a ofynnir yw “a oes angen i riant biolegol absennol y plentyn gael ei hysbysu neu fod rhan o’r broses fabwysiadu o hyd os nad oes ganddo gyfrifoldeb rhiant neu os nad yw erioed wedi bod â rôl ym mywyd y plentyn neu os na fu’n rhan o fywyd y plentyn ers sawl blwyddyn?

    Yr ateb syml i hynny ydy, oes.

    Bydd y Llys yn disgwyl i bob ymdrech resymol gael ei gwneud i hysbysu’r rhiant biolegol absennol o'r bwriad i fabwysiadu yn gyntaf ac wedyn i gael gwybod am farn ac amgylchiadau’r rhiant hwnnw er mwyn iddynt fod ar gael i'r Llys.

    Beth os nad oes gennyf fanylion cyswllt ar gyfer y rhiant biolegol absennol?

    Bydd y Llys yn disgwyl i'r ymgeisydd (llys-riant) a'r asiantaeth fabwysiadu wneud pob ymdrech i gysylltu â'r rhiant biolegol absennol a chyflwyno cronoleg fanwl o'r ymdrechion a wnaed i’w hysbysu ac i gael ei farn.

    Mae'r rhain fel arfer yn cynnwys:

      • Cysylltu â'r unigolyn yn ei gyfeiriadau diwethaf.
      • Cysylltu â’r unigolyn drwy negeseuon preifat ar y cyfryngau cymdeithasol.
      • Cysylltu ag aelodau ehangach teulu'r rhiant biolegol absennol pan fo cysylltiad wedi'i gynnal neu pan fo’u manylion cyswllt yn hysbys.
      • Defnyddio meddalwedd olrhain yr asiantaeth fabwysiadu.

    Os yw'r llwybrau hyn wedi'u dilyn ac wedi methu, gall y Llys orchymyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau ddatgelu unrhyw fanylion cyswllt hysbys ar gyfer y rhiant biolegol absennol. Mae hyn yn aml yn llwyddiannus os yw'r rhiant biolegol yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth neu'n talu cyfraniadau yswiriant gwladol a/neu dreth incwm.

  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  

Ar gofnod

  • Bydd y ffaith bod Gorchymyn Mabwysiadu wedi’i wneud yn cael ei chofnodi yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig (ni all y cyhoedd weld na chwilio’r Gofrestr Plant Mabwysiedig). Caiff copi o'r Gorchymyn Mabwysiadu ei roi ar adeg y mabwysiadu.
  • Mae modd prynu tystysgrif mabwysiadu o Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol. Mae hyn yn disodli tystysgrif geni wreiddiol y plentyn.
  • Caiff ei nodi yng nghofnod y plentyn yn y gofrestr genedigaethau byw hefyd ei fod wedi’i mabwysiadu. 
  • Yn 18 oed, gall unigolyn mabwysiedig wneud cais i gael copi o'i dystysgrif geni wreiddiol.

 

Pethau pwysig eraill i'w hystyried:

Bydd y Llys bob amser yn ystyried mabwysiadu o safbwynt y plentyn, yn hytrach na safbwynt yr oedolion.

Caiff barn y rhieni biolegol a’r llys-riant eu hystyried ond caiff Gorchymyn Mabwysiadu ei roi dim ond os yw lles y plentyn yn gofyn am hynny. Wrth reswm mae hwn yn drothwy uchel i'w fodloni.

Mae rhai ymgeiswyr yn dymuno mabwysiadu eu llysblant er mwyn gwneud i'r teulu deimlo'n gyflawn. Nid yw hyn, ynddo'i hun, yn rheswm digonol i Lys roi Gorchymyn Mabwysiadu.

Y Meini Prawf ar gyfer Mabwysiadu fel Llys-Riant:

Caiff partner priod neu ddibriod (gwahanol ryw neu’r un rhyw) rhiant y mae’n byw gydag ef mewn perthynas deuluol barhaus (fel arfer yn para 3 neu fwy o flynyddoedd, ond o leiaf dwy flynedd) wneud cais.

Rhaid i'r ymgeisydd fod yn byw yn y DU a rhaid iddo fod wedi byw yn y DU ers blwyddyn cyn gwneud y cais.

Rhaid i'r llys-riant fod wedi byw gyda'r plentyn am o leiaf 6 mis cyn y cais.

Rhaid i'r ymgeisydd fod dros 21 oed, a rhaid i'r plentyn fod o dan 18 oed.

Dan gyfraith y DU, ar ôl i berson gael ei ben-blwydd yn 18 oed, nid oes modd ei fabwysiadu mewn unrhyw ffordd.

Rhaid i'r llys-riant wneud cais i'r Llys am Orchymyn Mabwysiadu. Pan roddir caniatâd, daw’r llys-riant yn dod yn rhiant mabwysiadol.

I grynhoi, mae Gorchymyn Mabwysiadu yn bosibl dim ond os yw’r canlynol yn wir:  

  • Mae'r Llys yn penderfynu ei fod er lles gorau’r plentyn.
  • Mae unrhyw riant arall sy'n chwarae rhan ym mywyd y plentyn ac sydd â chyfrifoldeb rhiant yn cytuno (oni bai bod y Llys yn penderfynu bod sail i hepgor ei gytundeb). 
  • Mae'r pâr wedi gofalu am y plentyn am fwy na 6 mis di-dor cyn y cais.
  • Rhaid i'r ymgeisydd fod dros 21 oed a'r rhiant biolegol yn 18 oed neu hŷn.
  • Rhaid i'r ymgeisydd fod yn byw yn y DU ers blwyddyn neu fwy.
  • Rhaid i’r ymgeisydd beidio â bod yn berthynas i’r plentyn.
  • Er mwyn dangos sefydlogrwydd, rhaid i'r Llys fod yn fodlon bod yr ymgeisydd a rhiant biolegol y plentyn mewn "perthynas deuluol barhaus".

 

Dewisiadau amgen i Fabwysiadu fel Llys-riant:

Wrth reswm, mae ar y llys-riant eisiau i'r plentyn fod yn rhan o uned deuluol ffurfiol. Fodd bynnag, efallai nad mabwysiadu yw'r ffordd orau o gynnig sefydlogrwydd a strwythur i blentyn bob amser.

Mae'r Llysoedd yn aml yn cydnabod nifer o ddewisiadau amgen sy'n cynnwys:

  • Cytundeb Cyfrifoldeb Rhiant

    Cytundeb ffurfiol yw hwn a lunnir fel arfer gan gyfreithiwr sy'n egluro hawliau, rolau a chyfrifoldebau pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant.

    Mae'r partïon sydd â Chyfrifoldeb Rhiant yn ymrwymo i gytundeb gyda'r llys-riant sy'n cydsynio iddo fod â Chyfrifoldeb Rhiant.

    Form C(PRA2): Ask the court to witness your step-parent parental responsibility agreement - GOV.UK (www.gov.uk)

  • Gorchymyn Cyfrifoldeb Rhiant

    Mae Gorchymyn, os caiff ei roi gan y Llys, yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i'r llys-riant.

    Fodd bynnag, ni fydd y Gorchymyn hwn yn torri'r cysylltiadau ffurfiol â theulu biolegol estynedig y plentyn yn yr un modd â Gorchymyn Mabwysiadu.

    Apply for certain orders under the Children Act 1989: Form C1 - GOV.UK (www.gov.uk)

  • Gorchymyn Trefniadau Plentyn

    Cyflwynwyd Gorchmynion Trefniadau Plentyn i ddeddfwriaeth y DU i ddisodli a chwmpasu Gorchmynion eraill, fel Gorchmynion Preswylio a Gorchmynion Cyswllt.

    Mae Gorchymyn Trefniadau Plentyn yn rheoleiddio trefniadau sy'n ymwneud â ble mae plentyn i fyw a gyda phwy y caiff fod mewn cysylltiad.

    Mae unrhyw Gyfrifoldeb Rhiant sy'n cael ei gyfleu wrth wneud Gorchymyn Trefniadau Plentyn yn cael ei golli pan fydd y plentyn yn peidio â byw gyda'r llys-riant.

  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  

Cyngor Cyfreithiol:

Efallai yr hoffech gyngor gan Gyfreithiwr Plant a Theuluoedd cyn symud ymlaen â chais. Nid yw'n orfodol cael cynrychiolaeth gyfreithiol i wneud cais mabwysiadu, ond mewn achosion cymhleth neu achosion lle mae anghydfod, mae’n syniad da gwneud hynny.

Sut ydw i'n dechrau'r broses o wneud cais:

I ddechrau'r broses, yn gyntaf rhaid i chi hysbysu’r Tîm Mabwysiadu ar gyfer eich ardal yn ffurfiol ac yn ysgrifenedig eich bod yn bwriadu gwneud cais i fabwysiadu. Rhaid i hyn gael ei dderbyn o leiaf tri mis cyn cyflwyno unrhyw gais i’r Llys.

Os ydych yn byw yn ardal CBS Merthyr Tudful, CBS Rhondda Cynon Taf, Cyngor Caerdydd neu CBS Bro Morgannwg, eich Tîm Mabwysiadu perthnasol yw Cydweithfa Fabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd.

Rhaid i chi ysgrifennu 'llythyr o fwriad’ i ni, sy'n cynnwys y manylion canlynol:

  • Enw(au) cyfreithiol llawn, cyfeiriad a dyddiad(au) geni’r plentyn/plant.
  • Enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni’r ymgeisydd (llys-riant).
  • Enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni partner yr ymgeisydd (rhiant biolegol y plentyn/plant).
  • Enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni yr ail riant biolegol.
  • Hyd eich perthynas â rhiant biolegol y plentyn/plant a pha mor hir rydych wedi bod yn byw yn yr un cartref yn llawn amser. Dylech fod wedi bod mewn perthynas ers 2 flynedd neu fwy ac wedi bod yn rhan o’r teulu ers mwy na 6 mis.
  • Cadarnhad bod y plentyn/plant yn llwyr ymwybodol o’r cais ac yn gwybod pwy yw’r rhieni biolegol. Er bod lefel y ddealltwriaeth yn dibynnu ar oedran y plentyn/plant, os oes rhywfaint o ddealltwriaeth, disgwylir bod hyn wedi'i thrafod yn llawn cyn i'r Gweithiwr Cymdeithasol gynnal ei ymweliad cyntaf.
  • Lefel y cyswllt rhwng y plentyn a’i riant biolegol absennol.
    • Cadarnhad bod rhiant biolegol absennol y plentyn yn ymwybodol o'r cais a chadarnhad o’i farn.
    • Mae angen i’r ymgeisydd a'i bartner (rhiant biolegol y plentyn) lofnodi’r llythyr. Rhaid i'r llofnodion fod wedi eu dyddio hefyd.

Dylech anfon eich llythyr i:

Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, Llawr Cyntaf, Swyddfa’r Dociau, Heol yr Isffordd, Y Barri, Bro Morgannwg, CF63 4RT

Dylech gyfeirio’r llythyr at y Rheolwr Recriwtio ac Asesu.

Ar ôl i ni dderbyn eich llythyr o fwriad, byddwn yn cydnabod ei fod wedi dod i law, yn ychwanegu eich cais at ein rhestr aros ac yn rhoi gwybod i chi am y camau nesaf.

Cwestiynau Cyffredin:

  • Cost?
    Mae ein gwasanaethau am ddim. Mae cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i wneud y gwaith hwn. Mae ffi i wneud cais i’r llys. Ar hyn o bryd, y ffi yw £183. Dim ond un ffi sy'n cael ei thalu ni waeth faint o blant y mae eich cais yn ymwneud â nhw cyhyd â bod y ceisiadau'n cael eu cyflwyno ar yr un pryd.
  • Beth os nad yw rhiant absennol y plentyn/plant yn cytuno?
    Mae rhieni biolegol yn cael gwneud tri pheth 1. Cydsynio, 2. aros yn niwtral neu 3. wrthwynebu'r mabwysiad. Os ydynt yn cefnogi'r mabwysiadu ac yn cydsynio iddo, caiff aelod o'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) ei benodi i gyfarfod â nhw er mwyn cael cydsyniad ysgrifenedig. Os yw’r rhiant absennol yn penderfynu aros yn niwtral, bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad a gynhyrchir gan y Gweithiwr Cymdeithasol. Os yw rhiant biolegol yn gwrthwynebu, mae hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad a chaiff ei annog naill ai i gael ei gyngor cyfreithiol ei hun neu gymryd rhan yn yr achos llys a chyflwyno ei sylwadau ei hun i'r Barnwr. Nid yw rhiant biolegol sy’n gwrthwynebu'r mabwysiad yn atal hyn rhag symud ymlaen, cyn belled â bod y llys o'r farn bod lles y plentyn yn gofyn am wneud Gorchymyn Mabwysiadu.
  • A oes angen i fy mhlentyn wybod am y mabwysiadu?
    Oes. Fel rhan o'r broses, caiff Gweithiwr Cymdeithasol ei benodi i dreulio amser gyda'ch plentyn er mwyn cael gwybod ei ddymuniadau a'i deimladau. Bydd hefyd yn ei helpu i ddeall beth yw mabwysiadu a’r hyn sy’n gysylltiedig mewn ffordd sy'n briodol i'w oedran.
  • Faint o ran mae angen i fy mhlentyn ei chwarae yn y broses?
    1. Mae hyn yn dibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth. Yn gyffredinol, bydd plentyn oedran ysgol yn cael rhywfaint o gyswllt â Gweithiwr Cymdeithasol mabwysiadu fel y gellir cael gwybod ei farn a'i ddymuniadau. Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn gwneud ei waith mewn modd sensitif sy'n canolbwyntio ar y plentyn.
  • Rydym wedi cael plant eraill, faint mae angen i'r brodyr/chwiorydd fod yn rhan o’r broses asesu?
    Holir barn aelodau o'r teulu fel rhan o'r adroddiad a gynhyrchir ar gyfer y llys. Mae rhan plant eraill y cartref yn y broses yn dibynnu ar eu hoedran a lefel eu datblygiad. Yn gyffredinol, ymgynghorir â phlant oedran ysgol mewn ffordd sy'n briodol i'w hoedran.
  • A fydd y rhiant biolegol absennol yn cael gwybod ein manylion cyswllt?
    Na fydd. Ni fydd unrhyw fanylion cyswllt ar gyfer eich teulu yn cael eu rhannu.
  •  Mae'r heddlu a/neu gyfyngiadau ar waith sy’n atal y rhiant biolegol absennol rhag cysylltu â fy nheulu - a yw hyn yn gwneud gwahaniaeth?
    Mae amgylchiadau unigol eich teulu yn cael eu hystyried. Fodd bynnag, ni waeth a yw'r rhiant biolegol absennol wedi cael rhybudd neu euogfarn o unrhyw drosedd flaenorol yn eich erbyn chi neu'r plentyn, bydd y llys yn dal i fynnu bod pob ymdrech resymol yn cael ei gwneud i’w hysbysu ac i gael ei farn ar y mater. Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn arwain y trafodaethau hyn.
  • Nid yw’r rhiant biolegol absennol wedi’i enwi ar dystysgrif geni'r plentyn a/neu nid oes ganddo gyfrifoldeb rhiant - a yw hyn yn gwneud gwahaniaeth?
    1. Os yw'r rhiant biolegol absennol yn hysbys, ni waeth a oes ganddo gyfrifoldeb rhiant, bydd y llys yn dal i ddisgwyl i'r asiantaeth fabwysiadu wneud pob ymdrech resymol i'w hysbysu o'r cais mabwysiadu ac i gael ei farn ar y mater.
  • Nid ydym yn gwybod pwy yw’r rhiant biolegol absennol - sut yr ymdrinnir â hyn?
    1. Bydd angen cymaint o wybodaeth gefndirol â phosibl ar y llys am darddiad y plentyn. Bydd disgwyl i'r Gweithiwr Cymdeithasol gynnal gwiriadau a chyfweld â theulu a/neu ffrindiau er mwyn cadarnhau'r wybodaeth a roddwyd. Os nad yw tad biolegol y plentyn yn hysbys, efallai y bydd y llys yn ei gwneud yn ofynnol i fam y plentyn dyngu, ar lw, bod yr wybodaeth y mae wedi'i rhoi yn gywir. Wedyn, bydd y cais fel arfer yn symud ymlaen yn y modd arferol.
  • Beth os yw’r rhiant biolegol absennol yn gofyn am gysylltiad â'r plentyn ar ôl i ni gysylltu?
    1. Caiff Gweithwyr Cymdeithasol a gyflogir gan y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) eu penodi yn y math hwn o achosion. Ynghyd â'r Gweithiwr Cymdeithasol mabwysiadu, byddan nhw hefyd yn siarad â'r plant ac yn cael gwybod eu barn ar gyswllt. Os yw'r plentyn yn rhy ifanc wedyn bydd swyddog CAFCASS a'r llys yn ystyried a yw cyswllt er ei les gorau. Nid yw gorchymyn cyswllt yn dueddol o gael ei roi i rieni nad ydynt erioed wedi cael cysylltiad â phlentyn. Efallai y bydd trefniadau cyswllt yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y rhai sydd â pherthynas a chysylltiad hirsefydlog â’r plentyn. Mae'n dibynnu’n fawr ar amgylchiadau pob achos unigol ac efallai yr hoffech ystyried cael cyngor cyfreithiol annibynnol.
  • Faint o amser bydd yn ei gymryd i gwblhau hyn i gyd?
    1. Mae’r amserlenni'n amrywio fesul achos ac yn dibynnu ar sawl ffactor. Er enghraifft, a yw'r rhieni biolegol yn cydsynio? Pa mor hawdd y gellir dod o hyd i riant biolegol absennol ac ati? Yn gyffredinol, mae ein hasiantaeth fel arfer yn gweithredu rhestr aros o 6 mis o dderbyn eich llythyr o fwriad i benodi Gweithiwr Cymdeithasol mabwysiadu. Ar ôl ei benodi, bydd y Gweithiwr Cymdeithasol mabwysiadu yn ymgyfarwyddo â'ch amgylchiadau ac yn gallu’ch cynghori ar y gwaith y mae angen ei gwblhau. Pan fo’r mater gerbron y llys, bydd yr achos fel arfer yn cymryd ychydig fisoedd i'w gwblhau.