Child-Mother-with-bowl1140x760 (1)

Teuluoedd Mabwysiadol

Gall mabwysiadu fod yn ymrwymiad gydol oes boddhaus a gwerth chweil, ond hefyd ar adegau’n heriol. 

Rydym yn deall y gallai teuluoedd fod angen cefnogaeth o bryd i'w gilydd a / neu gallant gael budd o gymorth a chyngor ar wahanol gyfnodau. Gall fod gan deuluoedd anghenion cymorth ychwanegol a allai fod angen cymorth mwy arbenigol, ond nid oes angen i deuluoedd fod mewn argyfwng i gael cymorth.  

Mae gan bob teulu mabwysiadol hawl i ofyn am asesiad o anghenion cymorth mabwysiadu ac i'r cynllun cymorth mabwysiadu gael ei adolygu.

Ein hymrwymiad i deuluoedd mabwysiadol:

  • Cyngor a gwybodaeth a roddir dros y ffôn gan ein tîm dyletswydd: 0800 023 4064 (Dydd Llun - dydd Gwener, 10am-4pm)
  • Cyfeirio at wefan, taflenni, gwasanaethau perthnasol ac adnoddau
  • Cyngor a chymorth yn ymwneud â blwch llythyrau, cyswllt uniongyrchol a risgiau’r cyfryngau cymdeithasol
  • Grwpiau plant bach misol ar gyfer teuluoedd â phlant cyn oed ysgol
  • Cyfleodd i gysylltu â mabwysiadwyr eraill trwy ddigwyddiadau fel nosweithiau cwis, cyfarfodydd lleol, grwpiau cyswllt WhatsApp ac ati.
  • System bostio ar gyfer teuluoedd mabwysiadol. Rydym yn defnyddio hyn i rannu diweddariadau rheolaidd am gymorth mabwysiadu, gweithgareddau, digwyddiadau a newyddion gennym ni a'n partneriaid a chyfleoedd i gymryd rhan yn y gymuned fabwysiadu yn lleol ac yn genedlaethol. Os ydych wedi mabwysiadu gyda ni ond nad ydych yn derbyn yr e-byst hyn ar hyn o bryd cysylltwch â ni: contact@adopt4vvc.org gan nodi eich enw llawn (ac enw eich partner os yw’n berthnasol), eich e-bost/e-byst, rhif(au) ffôn ac ardal awdurdod lleol. Os ydych chi bellach yn cyd-rianta plentyn (y gwnaethoch ei fabwysiadu'n wreiddiol fel cwpl) a dim ond un partner sy'n derbyn gwybodaeth e-bost ar hyn o bryd, rhowch wybod i ni a byddwn yn cofrestru'r rhiant arall
  • Diwrnodau hwyl i'r teulu bob dwy flynedd sy'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a chyfle i gwrdd â theuluoedd mabwysiadol a gweithwyr proffesiynol eraill
  • Blwyddyn o aelodaeth am ddim gydag Adoption UK 
  • Hyfforddiant mewnol a ddarperir gan ein Tîm Cymorth Mabwysiadu
  • 'System cyfeillio' lle gallwn eich paru gyda theuluoedd mabwysiadol eraill a allai fod wedi cael yr un profiadau neu sydd ar gam gwahanol o'r daith fabwysiadu
  • Mynediad at ein Cydlynydd Llwybr PATH a all roi cyngor a chymorth trwy raglen Llwybr PATH (sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth ag Adoption UK)
  • Diweddariadau rheolaidd am gyfleoedd i gymryd rhan a rhannu eich profiadau o fabwysiadu yn lleol ac yn genedlaethol 
  • Y gallu i gysylltu â’n Cydlynydd Plant a Phobl Ifanc a all gysylltu eich plentyn â phlant a gwasanaethau mabwysiedig eraill fel grwpiau Connected Adoption UK
  • Cymorth drwy Prosiect First 1000 Days Adoption UK
  • Diweddariadau rheolaidd trwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol: Facebook ac Instagram

 

Person Mabwysiedig

Os ydych yn berson mabwysiedig, efallai yr hoffech gael gwybodaeth am eich mabwysiadu a’ch teulu biolegol

Teuluoedd Biolegol

Efallai y bydd perthnasau biolegol person mabwysiedig yn dymuno derbyn cymorth a / neu gael mynediad i’n gwasanaeth cyfryngol

 

Cyswllt

Gall pobl fabwysiedig, teuluoedd biolegol a theuluoedd mabwysiadol gael cyngor a chefnogaeth o ran cyswllt parhaus

Cyswllt

 

Asesu a chymorth parhaus

Yn dibynnu ar anghenion eich teulu, efallai y byddwch hefyd yn elwa o asesiad o anghenion cymorth mabwysiadu eich teulu i nodi gwasanaethau addas eraill, gan gynnwys cymorth therapiwtig arbenigol.  

Gall yr asesiad ystyried yr angen am:

  • Cwnsela, gwybodaeth a chyngor 
  • Hyfforddiant i helpu gyda dealltwriaeth bellach o anghenion eich plentyn
  • Grwpiau cymorth, cyfarfodydd, a digwyddiadau gyda rhieni mabwysiadol eraill a / neu bersonau mabwysiedig 
  • Cefnogaeth gydag ymddygiad, ymlyniad a materion eraill y gallai'ch plentyn fod yn eu profi  
  • Cefnogaeth gyfryngol gyda’r cyswllt uniongyrchol a / neu anuniongyrchol rhwng y plentyn a’i deulu biolegol 
  • Cymorth ariannol
  • Gwyliau byr (gofal seibiant) i berson  mabwysiedig gyda gofalwr arall 
  • Help pan fo mabwysiadu’n methu neu mewn perygl o fethu

Yn y gwasanaeth cymorth mabwysiadu rydym yn gweithio'n holistig ac yn ystyried anghenion y teulu cyfan.

Byddai asesiad yn cynnwys gweithiwr cymdeithasol yn cyfarfod â chi a'ch plentyn(plant) i drafod barn y teulu ar anghenion lles a chymorth y teulu. Efallai y bydd hefyd angen i’r gweithiwr cymdeithasol gysylltu â’r gwasanaethau Addysg ac Iechyd i gael rhagor o wybodaeth

Yn dilyn yr asesiad, bydd y gweithiwr cymdeithasol mabwysiadu’n trafod ei argymhellion gyda chi ac yn cytuno ar y camau nesaf.

Efallai na fydd cymorth mabwysiadu bob amser yn ymwneud â gwasanaethau gan y tîm mabwysiadu eu hunain ond yn hytrach gallant ymwneud ag anghenion iechyd neu addysg.   Efallai hefyd y bydd cymorth yn cael ei ddarparu orau gan wasanaethau ataliol neu ofal a chymorth yr awdurdod lleol.  Os felly, bydd y tîm cymorth mabwysiadu yn cynnig cyngor a chymorth i gael gafael ar y gwasanaeth cymorth perthnasol ar gyfer eich plentyn. 

Mae ein hymarfer cymorth mabwysiadu yn dilyn egwyddorion rhianta sy'n canolbwyntio ar ymlyniad. Mae hyn yn cynnwys cysyniadau megis rhianta gan ddefnyddio ‘PACE’.

Ein nod yw:

  • Cefnogi teuluoedd i ddeall a rheoli ymddygiad a allai fod yn gysylltiedig â thrawma cynnar 
  • Mynd i'r afael ag anawsterau'n ymwneud â galar a cholled drwy fabwysiadu ac adeiladu perthnasau teuluol cadarnhaol 
  • Cefnogi teuluoedd i siarad â'u plentyn am fabwysiadu; gan ei helpu i ddeall ei stori a chynorthwyo gyda materion hunaniaeth

 

Mae gwasanaethau a ddarperir gan y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd yn uniongyrchol yn cynnwys:

  • Cyngor ac arweiniad i rieni ar faterion mabwysiadu gan gynnwys cymorth yn ymwneud â rhianta phlant mabwysiedig y gellir eu rhoi 1:1 neu drwy grwpiau a hyfforddiant 
  • Cymorth gyda rheoli trefniadau cyswllt gyda pherthnasau biolegol  
  • Cyngor a chymorth yn ymwneud â cheisiadau am gymorth ariannol (h.y. lwfansau mabwysiadu)  
  • Cyngor a chymorth yn ymwneud â rhannu gwybodaeth am daith bywyd a helpu plentyn i wneud synnwyr o'i orffennol 
  • Gwaith uniongyrchol (nad yw'n therapiwtig) gyda phlant lle bo hynny'n briodol  
  • Cysylltu ac ymgynghori â gweithwyr proffesiynol eraill e.e. iechyd ac addysg i gyfeirio rhieni at wasanaethau cymorth perthnasol eraill  
  • Cyfeirio ac atgyfeirio priodol at yr awdurdod lleol i gael mynediad at wasanaethau ataliol a gwasanaethau cymorth eraill neu i fynd i'r afael â sefyllfaoedd risg uchel 
  • Rhoi cyngor a gwybodaeth i wasanaethau ac asiantaethau eraill i'w galluogi i ddod yn 'ymwybodol o fabwysiadu' 
  • Cyfeirio a chefnogaeth PATHways gan ein Cydlynydd TESSA
  • Cydlynydd Plant a Phobl Ifanc mewnol ar gyfer gwaith uniongyrchol ac ymgysylltu â phobl ifanc a chyfeirio at wasanaeth ‘Cysylltiedig’ Adoption UK Cymru lle bo’n briodol 
  • Ymgynghorydd Teuluoedd Biolegol sy’n rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad i berthnasau biolegol

Ar adegau, gellir nodi mai gwasanaeth arall yw'r gwasanaeth arweiniol mwyaf priodol i ddarparu cymorth, gan gynnwys timau Gwasanaethau Plant yr awdurdod lleol.  Mae hyn fel arfer mewn achosion gyda ffactorau cymhleth a deinameg y mae mabwysiadu yn rhan ohonynt.  Yn yr achosion hyn, efallai y byddwn yn parhau i fod yn rhan o ddarparu cymorth sy'n benodol i fabwysiadu ond efallai nad ni yw'r asiantaeth arweiniol.

Sut y trefnir cymorth arbenigol

Mae’r Cymoedd, y Fro a Chaerdydd yn gydweithfa fabwysiadu sy'n gwasanaethu pedair ardal awdurdod lleol: Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.  

Yn aml, byddwn yn gallu cefnogi anghenion eich teulu drwy ein Tîm Cymorth Mabwysiadu mewnol ond os bydd angen gwasanaeth arall ar yr anghenion cymorth a nodwyd, byddwn yn gweithio gydag ardal eich awdurdod lleol i ganfod y gwasanaeth cywir i ddiwallu anghenion eich teulu ac i chwilio am gyllid ar gyfer hyn. Eich awdurdod lleol sy’n gwneud y penderfyniad yn gysylltiedig â’r cyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn yn hytrach na’r gydweithfa fabwysiadu.  Hefyd, cyn nodi argymhelliad therapiwtig penodol, efallai y byddwn yn ceisio ymgynghori â gwasanaeth seicoleg neu banel therapiwtig i sicrhau bod y gwasanaeth cywir yn cael ei geisio. 

Byddwn yn ceisio'ch hysbysu am y broses gwneud penderfyniadau.  Yn aml, gallai'r gwaith ddechrau gyda rhieni cyn y gall unrhyw waith uniongyrchol gyda phlentyn ddechrau. Ein nod yw sicrhau bod rhieni'n gallu darparu lle diogel i'r plentyn sy'n cymryd rhan mewn gwaith therapiwtig. Mae'r gwaith paratoi a pharhaus hwn gyda rhieni wedi'i gynllunio i ‘uwchsgilio’ rhieni i barhau â'r dull rhwng sesiynau ac i gefnogi'r teulu i reoli'r adweithiau posibl y gallai plentyn eu cael i'r gwaith hwn.

Lle bo angen gallwn barhau i roi cyngor, cymorth a chefnogaeth tra bod eich teulu'n gweithio gyda darparwr arbenigol neu therapiwtig a gallwn fod yn rhan o adolygiadau o'r gefnogaeth hon.

Cymorth a chyngor arall:

 

Cysylltu â ni

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth a chyngor neu i ofyn am asesiad, mae croeso i chi gysylltu â ni:

  • 0800 023 4064