Child reading a book

 

Y Broses Fabwysiadu

Cyn Cam Un

  • Archwilio

    Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mabwysiadu â ni, hoffem glywed gennych chi. I wneud hyn, gwnewch gais am becyn gwybodaeth trwy’r dudalen cysylltu â ni ar y wefan hon. 

  • Noson wybodaeth

    Rydym yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth yn rheolaidd lle cewch gwrdd â ni a dysgu mwy am fabwysiadu. Cysylltwch â ni i gadw lle: 0800 023 4064. Yn ystod yr alwad ffôn, byddwn yn gofyn i chi rannu rhai manylion sylfaenol.

    Digwyddiad anffurfiol yw'r noson wybodaeth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn mabwysiadu gyda ni.  Ar ddiwedd y sesiwn byddwn yn rhoi pecyn i chi sy'n cynnwys mwy o wybodaeth am fabwysiadu gyda ni.  Rydym yn argymell eich bod hefyd yn cymryd peth amser i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i glywed, ei ddarllen a'i ymchwilio i sicrhau bod mabwysiadu yn teimlo fel y llwybr cywir i chi ar hyn o bryd.  

  • Ymweliad Cyntaf

    Os ydych yn penderfynu bod mabwysiadu yn teimlo fel llwybr rydych chi eisiau parhau i'w archwilio gofynnwn i chi gysylltu â ni i drefnu ymweliad cychwynnol. Bydd aelod o'r tîm recriwtio yn trefnu i gwrdd â chi i: ddod i'ch adnabod, cael gwybod mwy am eich amgylchiadau personol, cael sgwrs fanwl am fabwysiadu ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. 

    Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau manwl i chi yn y cam hwn, ynglŷn â'ch cymhellion i fabwysiadu, eich hanes personol, eich iechyd a'ch ffordd o fyw. Os penderfynwch fwrw ymlaen â hyn ac os gallwn eich gwahodd i barhau, byddwn yn gofyn i chi lenwi Ffurflen Cofrestru Diddordeb.

  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  

Cam Un (Dau Fis)

 

  • Gwiriadau a Hyfforddiant 
    Yn ystod Cam Un byddwn yn gofyn i chi wneud cais ffurfiol gyda ni gan ddefnyddio ffurflen Cofrestru Diddordeb. Unwaith y bydd y ffurflen Cofrestru Diddordeb wedi dod i law, byddwn yn: 
    Eich gwahodd i'n hyfforddiant tri diwrnod 'Paratoi at Fabwysiadu'
    Eich cyflwyno i'ch gweithiwr cymdeithasol penodedig 
    Gwneud gwiriadau
    Os bodlonir yr holl ofynion ar y cam hwn, yna byddwn yn eich gwahodd i Gam Dau. 

 

 

Cam Dau (Pedwar Mis)

 

  • Asesiad Cartref
    Yn ystod Cam Dau bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn gwneud asesiad gyda chi. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn cyfarfod â chi yn rheolaidd (bob wythnos neu bob pythefnos yn dibynnu ar y gallu) i gael sgyrsiau mwy manwl â chi a fydd yn ei helpu i asesu eich addasrwydd i fabwysiadu. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn cwblhau Adroddiad Darpar Fabwysiadydd (PAR) sy'n cynnwys yr wybodaeth y mae wedi'i chasglu a bydd yr adroddiad yn cynnwys argymhelliad i'n Panel Mabwysiadu ynghylch eich addasrwydd i fabwysiadu.
  • Panel Mabwysiadu a Chymeradwyaeth
    Mae'r Panel Mabwysiadu yn cynnwys arbenigwyr mabwysiadu annibynnol. Eu gwaith yw ystyried yr holl wybodaeth a gasglodd eich gweithiwr cymdeithasol ac argymell a ydych chi’n addas i fabwysiadu. Cewch eich gwahodd i fynychu rhan o gyfarfod y panel. Yna bydd y panel yn gwneud argymhelliad i'r Asiantaeth, a'n Swyddog Penderfynu yn yr Asiantaeth fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ydych yn addas i fod yn rhiant/rhieni mabwysiadol.
  • Paru
    Ar ôl eich cymeradwyo, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn gweithio gyda chi a'n tîm Dod o Hyd i Deulu i ddod o hyd i blentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd a fyddai'n cydweddu'n dda â chi. Ar ôl i ni nodi pâr, fe rown lawer o wybodaeth i chi am y plentyn a byddwch yn cwrdd â phobl sydd wedi bod yn ymwneud â'r plentyn, fel cynghorydd meddygol. Yna, bydd Panel Mabwysiadu Awdurdod Lleol y plentyn yn cyfarfod ac yn dewis argymell cefnogi’r pariad ai peidio, a Swyddog Penderfynu’r Asiantaeth fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol eto.
  • Cyflwyniadau a Dod Adref
    Bydd cyfnod o gyflwyniadau yn cael ei gynllunio gyda'r nod o'ch galluogi chi a'r plentyn/plant i ddechrau dod yn gyfarwydd â'ch gilydd cyn i'r plentyn/plant symud i'ch cartref. Ar ôl i'ch plentyn symud i fyw atoch bydd eich gweithiwr cymdeithasol chi a gweithiwr cymdeithasol y plentyn yn parhau i ymweld â chi ac yn eich cefnogi hyd nes y byddwch yn dod yn rhiant cyfreithiol y plentyn drwy Orchymyn Mabwysiadu. Y cynharaf y gallwch wneud cais i fabwysiadu'r plentyn/plant yn gyfreithlon yw ar ôl iddo fod yn byw gyda chi am o leiaf 10 wythnos.  
  • Cymorth Mabwysiadu
    Rydym wrth ein boddau'n cadw mewn cysylltiad â'n teuluoedd mabwysiadol ac yn rhoi cymorth lle bo angen. Rydym yn cynnig gwasanaeth cyflawn o gymorth mabwysiadu i’n holl deuluoedd mabwysiadol, sy’n cynnwys: rhoi cyngor, gwneud ‘Asesiad Angen’ ar unrhyw adeg yn ystod y plentyndod a gweithredu unrhyw gymorth mae angen, diwrnodau hwyl i’r teulu, grŵp babanod, hyfforddiant, cyfathrebu rheolaidd, system blwch llythyrau, atgyfeirio a mynediad at gofnodion geni.
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •