Os cawsoch eich mabwysiadu cyn y dyddiad hwn, yn ôl y gyfraith mae dyletswydd arnom i roi mynediad i chi at gwnsela cyn i ni allu rhannu gwybodaeth â chi am eich mabwysiadu â’ch perthnasau biolegol. Gall y gair cwnsela fod yn gamarweiniol, ond yn ei hanfod mae'n ymgynghoriad lle caiff gwybodaeth, cyngor, cymorth ac arweiniad eu cynnig. Mae hyn oherwydd, cyn y dyddiad hwn, dywedwyd wrth deuluoedd biolegol a theuluoedd mabwysiadol na ellid rhannu unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i’w hadnabod. Newidiodd y gyfraith ym 1975 i alluogi oedolion mabwysiedig i wneud cais am wybodaeth o ran eu tystysgrif geni wreiddiol.
Os ydych eisoes yn ymwybodol o’ch enw geni, gallwch wneud cais drwy Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol, a byddant yn anfon y wybodaeth atoch. Yna, gallwn gwrdd â chi a'ch helpu i gael mynediad at eich cofnodion mabwysiadu. Y cam cyntaf fydd cysylltu â Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol a llenwi cais ar gyfer y gwasanaeth gwybodaeth am dystysgrif geni cyn mabwysiadu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.gov.uk/adoption-records. Ar ôl i chi wneud hyn, bydd Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol yn anfon eich manylion cyn mabwysiadu atom er mwyn i chi allu cael mynediad at eich tystysgrif geni. Bydd Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol yn rhoi gwybod i chi pan fydd hyn wedi digwydd.
Sylwer: Bydd Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol yn awgrymu y dylech aros pum diwrnod cyn cysylltu â ni. Fodd bynnag, ni allwn sicrhau y gallwn ymateb i'ch cais yn syth ar ôl hyn. Rydym yn cael llawer o geisiadau, ac yn anffodus mae yna restr aros am y gwasanaeth hwn yn aml. Fodd bynnag, rydym yn blaenoriaethu’r mabwysiadu hynny a ddigwyddodd hiraf yn ôl neu lle ceir amgylchiadau arbennig.
Pan fydd gweithiwr cymdeithasol mabwysiadu ar gael, bydd yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfod mynediad at gofnodion genedigaeth. Bydd y cyfarfod â gweithiwr cymdeithasol mabwysiadu'n rhoi’r cyfle i chi feddwl am y goblygiadau a’r effaith o gael gwybodaeth am eich tystysgrif geni wreiddiol a chofnodion mabwysiadu.
Ar ôl hyn, gallwch wneud cais am gopi o’ch tystysgrif geni, a gallech fod am i’ch gweithiwr cymdeithasol wneud cais am fynediad at unrhyw gofnodion sy’n cael eu cadw gan yr awdurdod lleol, asiantaeth neu lys a oedd yn rhan o'ch mabwysiadu. Mae cofnodion yn amrywio’n sylweddol o ran maint, ansawdd a’r wybodaeth sy’n cael ei chofnodi, yn arbennig os digwyddodd y mabwysiadu gryn amser yn ôl. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn paratoi crynodeb o'r wybodaeth ac yn cynnwys unrhyw gopïau o ddogfennau perthnasol y gall eu rhannu â chi.