read, watch, listen - pexels william fortunato

Adnoddau

"Y mwyaf parod oedd y rhieni am y materion y gallent eu hwynebu ar ôl mabwysiadu, y mwyaf abl oeddent i brosesu'r profiad ôl-fabwysiadu." – Foli, K. a Thompson, JR. (2004), The Post Adoption Blues, Rodale, UDA.

Rydym yn eich annog trwy gydol y broses fabwysiadu ac ar ei hôl i archwilio cynifer o adnoddau ag y gallwch am heriau ac effeithiau mabwysiadu. Mae'r adran hon o'n gwefan wedi'i churadu i ddarparu ystod amrywiol o lyfrau, podlediadau, sioeau ac adnoddau a fydd, gobeithio, yn eich ysbrydoli, eich annog a'ch herio. 
Mae’r adnoddau canlynol wedi bod yn ddefnyddiol i lawer o'n rhieni mabwysiadol a'n gweithwyr cymdeithasol ac rydym bob amser yn chwilio am argymhellion newydd. Rydym yn diweddaru'r dudalen hon yn rheolaidd ac os byddwch yn sylwi nad ydym wedi sôn am lyfr gwych rydych wedi'i ddarllen neu bodlediad diddorol rydych wedi gwrando arno am fabwysiadu, rhowch wybod i ni: contact@adopt4vvc.org 

Mae gan CoramBAAF hefyd restr gynhwysfawr o lyfrau ac adnoddau ar gyfer mabwysiadwyr a phlant. Dysgwch fwy drwy fynd i’w gwefan.

Mae Adoption UK yn darparu llyfrgell cyfryngau cymysg sy'n cynnwys mwy na 300 o lyfrau sy'n cynnwys amrywiaeth o faterion mabwysiadu a maethu.  Mae'r holl lyfrau’n cael eu benthyca am ddim (ac eithrio costau postio).  Gall y llyfrgell fenthyca hyd at dri llyfr / eitem ar un adeg. I gael defnyddio’r llyfrgell, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer aelodaeth a thalu'r ffi gysylltiedig.  Ar ôl i chi fewngofnodi i'r wefan byddwch yn gallu pori'r eitemau yn y llyfrgell ac archebu. Bydd botwm oren o'r enw 'benthyg yr eitem hon' yn ymddangos wrth ymyl yr eitem ar ôl i chi glicio arni.  Bydd hyn wedyn yn mynd â chi i'r ffurflen cadw: Llyfrgell Fenthyca Adoption UK

Canllawiau a Llyfrau i Oedolion

  • No Matter What - Sally Donovan
    Mae ‘No Matter What’ yn adrodd hanes y broses fabwysiadu yn y person cyntaf gan fam fabwysiedig. Mae Sally’n adrodd ei hanes hi a’i gŵr Rob a’u taith o ddiagnosis o anffrwythlondeb at eu penderfyniad i fabwysiadu a’u bywyd ar ôl mabwysiadu. Mae hi’n siarad yn onest am yr anawsterau a wynebodd y cwpl wrth fyw ag anffrwythlondeb, penderfynu mabwysiadu a'r broses fabwysiadu. Mae’n llyfr hawr ei ddarllen ond teimladwy, sy’n dangos y broses fabwysiadu a’r materion ffurfio ymlyniad.
  • The Body Keeps the Score – Bessel Van Der Kolk
    Mae Bessel Van Der Kolk yn un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ar straen trawmatig ac mae ei 30 mlynedd o brofiad yn sail i’w lyfr 'The Body Keeps the Score'. Mae'r llyfr yn hygyrch ac yn gipolwg hynod ddiddorol ar sut mae trawma yn llythrennol ail-lunio'r corff a'r ymennydd.
  • Born for Love - Maia Szalavitz a Bruce D. Perry, M.D., PH.D
    Mae’r Seiciatrydd Plant Enwog, Bruce D. Perry, a’r newyddiadurwr gwyddoniaeth arobryn, Maia Szalavitz, yn gweu ymchwil a straeon o ymarfer Perry, astudiaethau gwyddonol arloesol ac enghreifftiau hanesyddol at ei gilydd yn eu llyfr 'Born to Love'. Gydol y llyfr hygyrch hwn, mae Perry a Szalavitz yn esbonio sut mae empathi'n datblygu, pam mae'n hanfodol i'n datblygiad i fod yn  oedolion iach, a sut mae'n aml yn cael ei fygwth yn y byd modern. Amlinella Perry a Szalavitz sut mae tosturi'n sail i'r rhinweddau sy'n gwneud i gymdeithas weithio, sut mae anawsterau gydag empathi’n ffactorau allweddol mewn problemau cymdeithasol a sut y gall diffyg empathi effeithio ar iechyd corfforol.
  • Related by Adoption – Heidi Argent
    Mae Related by Adoption yn llawlyfr ar gyfer aelodau teulu sy’n dod yn berthnasau i blant drwy fabwysiadu e.e. teidiau a neiniau, modrybedd ac ewythrod ac ati. Mae mabwysiadu yn effeithio ar y teulu cyfan, a gall fod gan wahanol aelodau teulu wahanol gwestiynau sy’n benodol i’w rôl ym mywyd y plentyn/plant. Mae’r llawlyfr hwn yn ganllaw da ar gyfer perthnasau a gellir ei ddefnyddio i gyflwyno gwybodaeth ac annog trafodaeth ynglŷn â mabwysiadu y dyddiau hyn yn eich teulu.
  • Flying Solo – Julia Wise
    Mae Flying Solo yn adrodd stori fabwysiadu o safbwynt y fam yn y person cyntaf. Drwy gydol y llyfr mae Julia’n rhannu ei phrofiadau o newid o fod yn fenyw sengl sy’n dilyn ei gyrfa i droi’n rhiant mabwysiadol sengl. Mae hi’n siarad am realiti mabwysiadu gyda’i elfennau cadarnhaol a heriol, ymdrin ag agweddau cymdeithasol tuag at rianta fel person sengl, mabwysiadu ei mab a sut newidiodd y mabwysiadu bob agwedd ar ei bywyd. Mae’r llyfr yn hanes agored, gonest ac yn gwneud i bob person sy’n ystyried mabwysiadu feddwl am hyn.
  • Meant to Be - Lisa Faulkner

    Mae Lisa Faulkner, actores a chyflwynwraig o Loegr ac enillydd Celebrity Masterchef 2010, wedi ysgrifennu llyfr yn dwyn y teitl ‘Maent to be’. Mae stori Lisa yn adrodd stori onest am ei thaith o geisio beichiogi i driniaeth ffrwythlondeb, ystyried trefniant benthyg croth a dechrau a chwblhau’r broses fabwysiadu.

    Drwy’r llyfr cyfan mae Lisa’n siarad yn agored am ei pherthnasau â’i gŵr (ei chyn-ŵr erbyn hyn), ffrindiau a theulu a’i siwrnai bersonol at ystyried mabwysiadu. Mae merch Lisa nawr yn ei harddegau ac mae Lisa yn gallu edrych yn ôl ar ei phrofiadau gan edrych tua’r dyfodol hefyd. Siaradodd Lisa am ei thaith ar This Morning hefyd: Lisa Faulkner This Morning 

  • My Name is Why – Lemn Sissay

    Mae Lemn Sissay MBE, awdur, bardd a darlledwr wedi ysgrifennu cofiant sy'n adlewyrchu ei brofiadau o'r system ofal yn y DU yn y 1960au – 1980au fel plentyn a pherson ifanc a sut mae'r profiadau hyn wedi siapio ei ragolwg a'i fywyd fel oedolyn. Dylid nodi bod diwygiadau sylweddol wedi digwydd ar draws y gwasanaethau cymdeithasol a'r gymdeithas ers profiadau plentyndod Lemn.  Fodd bynnag mae'r llyfr hwn yn rhoi cipolwg o'r system gofal ar y pryd ac angen cynhenid pawb i ddeall eu hunaniaeth, i deimlo'n rhan o deulu a derbyn cariad, gofal a sefydlogrwydd diderfyn.

  • How I Met My Son – Rosalind Powell 
    Mae How I Met My Son yn stori bersonol a gonest, hawdd ei darllen am fabwysiadu a ysgrifennwyd gan y newyddiadurwr, Rosalind Powell. Drwy gydol y llyfr mae Rosalind yn plethu gyda’i gilydd y stori o ran pam a sut y gwnaeth hi a’i phartner, Harry, fabwysiadu eu mab Gabriel a’u siwrnai barhaus. Mae’r stori hefyd yn cynnwys storïau am bobl y mae hi wedi’u cyfweld sydd hefyd wedi mabwysiadu neu sydd wedi’u mabwysiadu eu hunain. 

    Yn y llyfr mae hi’n cyfeirio at eu profiadau o fod yn gwpl sy’n wynebu triniaeth ffrwythlondeb, y broses mabwysiadu, y paru a’r setlo i mewn a’u bywyd teuluol.  Mae Rosalind yn sôn am y canlyniadau cadarnhaol yn ogystal â’r heriau ac yn cwmpasu, yn fanwl gywir eu profiad o gael eu cyflwyno i Gabriel gan gynnwys eu perthynas barhaus gyda’i ofalwyr maeth. Ar ddiwedd y llyfr mae hi hefyd yn cynnwys sylwadau Gabriel ei hun am gael ei fabwysiadu sy’n dwyn y naratif ynghyd mewn ffordd bersonol dros ben.  

  • The A - Z of Therapeutic Parenting - Sarah Naish
    Mae The A-Z of Therapeutic Parenting yn ganllaw hygyrch ac ymarferol ond cynhwysfawr i ymddygiad a hanfodion rhianta therapiwtig. Mae Sarah, ei hun yn rhiant mabwysiadol, yn archwilio dulliau sy'n canolbwyntio ar atebion i amrywiaeth o heriau y gall pobl sy'n gofalu am blant sydd wedi cael profiadau niweidiol eu hwynebu a'r rhesymau pam fod plant yn ymateb iddynt yn y ffordd y maent.  Mae'r canllaw yn berthnasol i ofalwyr maeth, mabwysiadwyr, gofalwyr sy'n berthnasau a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd.
  • What to Expect When You’re Adopting – Dr Ian Palmer
    Canllaw ffeithiol ydy What to expect when you are adopting, sy’n egluro realiti mabwysiadu a’r hyn y  dylech ei ddisgwyl ym mhob cam. Mae’r llyfr hwn yn trafod amrywiaeth o bynciau ac mae’n ddefnyddiol i gyfeirio ato ar wahanol adegau o’r broses fabwysiadu.
  • A Guide for Gay Dads – Stonewall
    Mae A Guide for Gay Dads yn ffynhonnell wych; mae wedi ei ysgrifennu gan Stonewall ar gyfer cyplau gwryw a dynion sengl hoyw sy’n ystyried bod dadau. Mae’r canllaw yn trafod ystod y dewisiadau sydd ar gael, yn cynnwys mabwysiadu. Mae hefyd yn cynnwys straeon gan dadau am amrywiaeth o bynciau ac mae cyngor a chanllawiau ar bryderon a chwestiynau penodol y gallai fod gan ddynion hoyw: A Guide for Gay Dads
  • Raising Turnip - Florence Sheridan

    Yn y cofiant hwn, mae Florence Sheridan, rhiant sengl sy’n mabwysiadu, yn myfyrio ar ei phrofiadau o'i bywyd cyn plant, y broses fabwysiadu a bod yn rhiant i'w mab, Freddie a fabwysiadodd pan oedd yn chwe blwydd oed. Mae Florence yn rhoi cipolwg ar fabwysiadu fel person sengl a mabwysiadu plentyn hŷn, gwrywaidd tra'n myfyrio, gyda hiwmor, ar rai o brofiadau hi a Freddie o fod yn deulu. Mae'r llyfr yn cynnwys: cyfnodau pontio, cyflwyniadau, perthnasoedd â theulu a ffrindiau, dewis ysgol, gwyliau, gweithgareddau, cyswllt, stori bywyd, siarad am bynciau anghyfforddus gyda phlentyn, ymddygiadau, sbardunau, a chymhlethdodau bywyd fel teulu drwy fabwysiadu.

  • The Gentle Parenting Book: How to raise calmer, happier children from birth to seven - Sarah Ockwell-Smith

    Mae'r Gentle Parenting Book yn rhan o gyfres o lyfrau am rianta a grëwyd gan yr athro cynenedigol a’r dwla Sarah Ockwell-Smith. Mae'r llyfr hwn yn ymdrin â rhianta yn y blynyddoedd datblygiadol o enedigaeth i saith mlwydd oed. Efallai fod rhai o'r camau datblygiadol a drafodir yn y llyfr hwn eisoes wedi digwydd ym mywyd plentyn mabwysiedig tra gallai’r camau hyn i eraill fod yn dechrau yn y dyfodol agos, felly mae'n llyfr gwych i unrhyw un sy'n ceisio deall blynyddoedd cynnar eu plentyn.

  • Between: A guide for parents of eight to thirteen-year-olds - Sarah Ockwell-Smith

    Mae Between yn rhan o gyfres o lyfrau am rianta a grëwyd gan yr athro cynenedigol a’r dwla Sarah Ockwell-Smith. Mae'r llyfr hwn yn ymdrin â rhianta yn y blynyddoedd datblygiadol o wyth i dair ar ddeg mlwydd oed. Mae'r llyfr yn cyfuno bioleg, seicoleg a chymdeithaseg i lunio cyngor rhianta ymarferol i gefnogi rhieni sy'n cefnogi eu plentyn drwy'r cyfnod pontio o blentyndod i fod yn oedolyn. Mae'r blynyddoedd rhwng 8 a 13 mlwydd oed yn gyfnod o baratoi, newid a dechrau'r glasoed ac mae'r rhain yn flynyddoedd hynod bwysig yn natblygiad plentyn i fod yn berson ifanc. Drwy gydol y llyfr, mae Sarah yn cymryd ymagwedd ddi-lol at bynciau gan gynnwys datblygu'r ymennydd, cyfeillgarwch, perthnasoedd, hunaniaeth, newidiadau corfforol, newidiadau emosiynol, ymddygiad, delwedd y corff, y glasoed, caniatâd, perthnasoedd rhamantus, rhywioldeb, rhyw, amser sgrin, addysg, cyllid a pharatoi eich plentyn ar gyfer annibyniaeth.

  • The Starting School Book: How to choose, prepare for and settle your child at school - Sarah Ockwell-Smith 

    Mae'r Starting School Book yn rhan o gyfres o lyfrau am rianta a grëwyd gan yr athro cynenedigol a’r dŵla Sarah Ockwell-Smith. Mae'r llyfr hwn yn archwilio pynciau sy'n cynnwys dewis ysgolion neu addysgu yn y cartref, anghenion addysgol arbennig, ac anableddau, paratoi plentyn ar gyfer yr ysgol, ymgartrefu a phontio. Pwnc nad yw’n cael ei drafod yn y llyfr hwn yw bod gan blant sy’n derbyn gofal (gan gynnwys plant sydd wedi'u mabwysiadu) hawl i gael mynediad â blaenoriaeth, cymorth pellach, arferion sy'n seiliedig ar drawma a chyllid gan ysgolion. Mae'n werth darllen am bynciau addysg yn fanwl wrth i blentyn nesáu at y garreg filltir hon ac ystyried cysylltu â'n tîm cymorth mabwysiadu.

  • Foetal Alcohol Spectrum Disorders: Parenting a Child with an Invisible Disability – Julia Brown a Dr Mary Mather
    Mae dod i gysylltiad â sylweddau yn y groth yn agwedd gyffredin ar lawer o straeon bywyd plant a fabwysiadir. Nid amlder y defnydd a lefel yr amlygiad yw'r unig ffactorau sy'n cyfrannu at ganlyniadau. Mae'r llyfr hwn yn ystyried y pynciau hyn ochr yn ochr ag: ymatebion corfforol, emosiynol ac ymddygiadol, datblygiad yr ymennydd, diagnosis, rhianta, prosesu synhwyraidd, bwyta, patrymau cysgu, cymorth, addysg a chefnogi eich plentyn i ddod yn ffrindiau a datblygu perthnasau ag eraill. Yn y llyfr hwn mae Dr Mary Mather yn siarad fel Ymgynghorydd Paediatrig Cymunedol sydd â diddordeb arbennig yn Anhwylderau Sbectrwm Alcohol y Ffetws (ASAFf) ac mae Julia Brown yn siarad fel cyd-sylfaenydd The FASD Trust ac fel mam fabwysiadol i ddau o blant.
  • Me, The Boy and The Monster – Cat McGill
    Yn y llyfr hwn, mae Cat McGill yn plethu ei phrofiad proffesiynol mewn ffisioleg ddatblygiadol gyda phrofiadau ei theulu ei hun o fabwysiadu a rhianta plentyn a oedd yn cael ei gam-drin yn ei flynyddoedd cynnar.  Mae'r llyfr yn cynnwys: mabwysiadu gyda phlentyn biolegol, profiadau bywyd cynnar, cam-drin, trawma, datblygu'r ymennydd, ymlyniad, rhianta, datgeliadau, gweithio gyda gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol gan gynnwys yr heddlu, ysgolion, therapyddion a gweithwyr cymdeithasol a rheoleiddio emosiynol. Mae Cat McGill hefyd yn rhannu ei phrofiadau o rianta gyda ni ar ei gwefan: Cat McGill, Instaram: @folkycat a Twitter: @folkycat
  • All You Can Ever Know - Nicole Chung

    Yn ei chofiant, mae Nicole Chung yn rhannu hanes ei bywyd fel mabwysiadwr trawshiliol Asiaidd Americanaidd.  Mae'r llyfr yn tynnu sylw at bwysigrwydd hunaniaeth ddiwylliannol ac ethnig, hunaniaeth fabwysiadol ac ailgysylltu â'r teulu biolegol. 

    Mae llyfr Nicole yn tynnu sylw at y tensiwn gydol oes y mae pobl yn ei wynebu rhwng bod yn rhan o'u teulu mabwysiadol ochr yn ochr â cholli eu teulu biolegol.  Mae llyfr Nicole yn un sy'n ysgogi'r meddwl ar gyfer rhieni mabwysiadol gan ei fod yn herio dymuniadau a phersbectif rhieni mabwysiadol ac yn tynnu sylw at sut y gallai eu syniadau wrthdaro â safbwynt person mabwysiedig. 

    Mae'r llyfr yn bwysig i bob rhiant mabwysiadol ddeall y cyfrifoldeb sydd ganddynt i annog a chefnogi eu plentyn i ymgysylltu â’i hanes bywyd, annog cyswllt â'r teulu biolegol a chroesawu a hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol plentyn.

    Mae Nicole hefyd yn defnyddio'r llyfr i rannu ei phrofiadau o ddod yn rhiant ei hun a'r cymhlethdodau a brofodd yn hyn o beth fel person mabwysiedig. 

    Dylid nodi bod mabwysiadu modern yn y DU yn wahanol i fabwysiadu modern yn yr Unol Daleithiau, yn enwedig gan fod llawer llai o blant yn cael eu cyflwyno i'w mabwysiadu gan rieni biolegol, bod llai o blant yn cael eu mabwysiadu'n rhyngwladol a bod gan awdurdodau lleol yn y DU gyfrifoldeb i geisio cyfatebiaeth ethnig a diwylliannol i bob plentyn cyn ystyried mabwysiadu rhynghiliol. 

  • Emotional Outbursts: A Guide for Parents

    Yn 2021 creodd yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Birmingham a Cerebra (elusen yn y DU sy'n cefnogi plant â chyflyrau'r ymennydd) ganllaw i rieni am ‘emotional outbursts or meltdowns’:  Emotional Outbursts: A Parents Guide

  • The Wild Track - Margaret Reynolds

    Mae The Wild Track yn hunangofiant craff iawn am ddod yn fam a ysgrifennwyd gan Margaret Reynolds sy’n awdures, yn academydd, yn feirniad, yn athro Saesneg ac yn ddarlledwraig.

    Yn sengl, yng nghanol ei phedwardegau ac ar ôl profi menopos cynnar sydyn penderfynodd Margaret ystyried mabwysiadu plentyn.

    Mae'r llyfr nid yn unig yn dilyn ei thaith fabwysiadu, ond mae Margaret hefyd yn tynnu ar ei gwybodaeth academaidd a'i chariad at lenyddiaeth i archwilio sut beth yw bod yn fam / yn rhiant. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n cyfeirio at lawer o lyfrau a phethau eraill â’i hysbrydolodd a roes ddyfnder i’w phenderfyniad i ddod yn rhiant. 

    Yn y gyfrol mae Margaret yn rhannu'n onest ddatgeliad ynglŷn â'i rhywioldeb a gadwyd yn ôl ganddi yn ystod yr asesiad. Oherwydd y diffyg datgelu hwn, yn y pen draw, penderfynodd ei hasiantaeth gyntaf ddod â'i chais i ben. Yna mae'n rhannu ei brwydr ddilynol i ddod o hyd i asiantaeth newydd. Mae Margaret hefyd yn rhannu ei thaith o ddim ond ystyried mabwysiadu babi yn rhyngwladol ar y dechrau i fabwysiadu plentyn chwech oed drwy fabwysiadu domestig maes o law.

    Ysgrifennwyd y penodau olaf gan ferch Margaret. Ynddynt mae’n rhannu ei hatgofion am ei phlentyndod gan gynnwys y diwrnod yr aeth i fyw gyda Margaret a’r achos llys a ddilynodd hynny.

    Mae'r llyfr yn tynnu sylw at themâu allweddol fel pwysigrwydd; deall cymhellion rhywun i ddod yn rhiant, ennill profiad o wahanol fathau o ofal plant cyn mabwysiadu, cymorth teuluol a chymunedol a'r cynllunio manwl ar gyfer cyflwyniadau a phontio.

  •  The Primal Wound - Nancy Verrier

    Yn ei llyfr, mae Nancy Verrier, seicotherapydd, a mam fabwysiadol, yn egluro ei damcaniaeth o’r clwyf sylfaenol, sef y trawma y mae plentyn yn ei ddioddef wrth gael ei wahanu oddi wrth ei riant/rhieni biolegol. Mae'r holl blant sydd wedi'u lleoli i'w mabwysiadu wedi wynebu colled a gwahanu oddi wrth eu teulu biolegol a bydd hyn yn effeithio ar bob plentyn.

    Yn ei llyfr, mae Verrier yn archwilio'r effeithiau gydol oes y gall gwahanu eu cael ar bobl fabwysiedig. Mae'n archwilio sut mae'r golled hon yn effeithio ar eu datblygiad a'u hunaniaeth, gan ategu hyn gyda gwybodaeth am seicoleg cyn ac ôl-geni, ymlyniad, bondio, ac effeithiau colled.

    Gall y llyfr fod yn brofiad anodd a phoenus i’w ddarllen i bawb sy'n ymwneud â mabwysiadu a gweithwyr proffesiynol oherwydd yr emosiynau y mae'n eu hysgogi. Fodd bynnag, mae'n llyfr craff sy'n cydnabod, yn deall ac yn dilysu'r trawma o wahanu.

    Mae'r llyfr yn cynnig dilysiad i bobl fabwysiedig am eu teimladau, eu dealltwriaeth o deimladau a’r ansicrwydd a achoswyd gan fabwysiadu, esboniadau am eu hymddygiad a'u hemosiynau, a chyd-destun i leoli a gwneud synnwyr o'u profiadau. Mae'r llyfr hefyd yn mynegi profiadau rhieni biolegol sydd wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu plentyn.  Yn y pen draw, mae hyn hefyd yn rhoi dealltwriaeth ac arweiniad amhrisiadwy i rieni sy’n mabwysiadu.

  •  The Post-Adoption Blues - Karen J. Foli a John R. Thompson M.D.

    Yn eu llyfr, mae Karen J. Foli, nyrs gofrestredig, a'i gŵr, John R. Thompson, seiciatrydd, yn archwilio Syndrom Iselder Ôl-fabwysiadu. Trwy gydol y llyfr mae Foli a Thompson yn tynnu ar eu profiad eu hunain fel rhieni mabwysiadol a phrofiadau teuluoedd a gweithwyr proffesiynol mabwysiadol y gwnaethant eu cyfweld.

    Mae llawer o rieni mabwysiadol yn dechrau'r broses gyda chymysgedd o emosiynau ac mae’r rhain yn esblygu'n barhaus wrth iddynt drawsnewid yn rhieni mabwysiadol.

    Yn ymchwil Foli a Thompson, nodwyd y gallai rhieni mabwysiadol yn aml deimlo bod angen iddynt guddio cymhlethdodau eu hemosiynau a'u profiadau o fabwysiadu oddi wrth ffrindiau, teulu a gweithwyr proffesiynol a gall hyn arwain at broblemau gyda'u hiechyd meddwl a'u perthnasoedd.

    Drwy'r llyfr mae Foli a Thompson yn cynnig y dealltwriaeth, y gefnogaeth a'r atebion pendant sydd eu hangen arnynt i oresgyn teimladau o iselder ar ôl mabwysiadu.

  •  We are family – Susan Golombok

    Yn ei llyfr, mae'r Athro Susan Golombok yn taflu goleuni ar ddegawdau o ymchwil i strwythurau a pherthnasoedd teuluol. Mae ymchwil Golombok yn canolbwyntio'n bennaf ar fywydau teuluoedd LHDTCRh+ ers y 1970au hyd heddiw. Trwy gydol y llyfr mae hi'n rhannu tapestri o straeon personol teuluoedd sydd wedi llywio ei hymchwil. Mae'r llyfr yn archwilio cymhlethdodau canfyddiadau cymdeithasau o deulu, ehangu llwybrau i greu teulu gan gynnwys triniaeth ffrwythlondeb, benthyg croth, mabwysiadu a maethu a sut mae teuluoedd yn llywio hanes bywyd. Mae Golombok hefyd yn wynebu naratifau niweidiol sydd wedi treiddio trwy'r gymdeithas yn uniongyrchol gyda realaeth rymus ei hymchwil hi a'i chydweithiwr.

  •  
  •  
  •  
  •  
  •  

Podlediadau i Oedolion

  • Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu - Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, Hydref 2020

    Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu Cyfres hyfryd a grëwyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yw Straeon Mabwysiadu, sy'n dilyn taith deg mabwysiadwr o bob rhan o Gymru. Cyn ymddangos yn y podlediad, doedden nhw erioed wedi cyfarfod o'r blaen, ond mae fel gwrando ar hen ffrindiau’n siarad; maent yn chwerthin gyda'i gilydd, maen nhw'n crio gyda'i gilydd. Drwy gydol y gyfres maent yn rhannu eu profiadau uniongyrchol o fabwysiadu; o'u camau cyntaf, yr holl ffordd i gymorth ôl-fabwysiadu. Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu yw'r podlediad mabwysiadu cyntaf ar gyfer Cymru gyfan gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, ac mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg: Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu

  • Tom Cox on Being a Gay, Adoptive Dad Podlediad Not Another Mummy, Pennod Byw gyda F&F yn Tesco, Cyfres 4, Medi 2019
    Ar y cyd â F&F yn Tecso, mae Alison Perry o bodlediad ‘Not Another Mummy’ yn cyfweld â Tom Cox, tad mabwysiadol Kai ac eiriolwr mabwysiadu sy’n dogfenu bywyd ei deulu ar Instagram. Mae Alison a Tom yn trafod y broses, y broses baru, paneli, cwrdd â’r rhieni biolegol, rôl gofalwyr maeth, cyswllt blwch llythyrau, cyflwyniadau a’r lleoliad a setlo mewn: Tom Cox
  • You, Me and Lots and Lots of Love, gyda Leon Wenham – Podlediad Black Boy Joy, Hydref 2020
    Creodd Black Boy Joy bodlediad gyda Leon Wenham, tad mabwysiadol du, hoyw ac eiriolwr mabwysiadu. Yn ystod y podlediad, mae Leon yn rhannu ei brofiad o fuddugoliaethau a heriau rhianta ac am ysgrifennu ei lyfr plant cyntaf, ‘You, Me and Lots of Love’: Leon Wenham
  • Lisa Faulkner - Podlediad Happy Mum, Happy Baby, Cyfres 8, Medi 2021
    Mae Giovanna Fletcher, cyflwynydd y podlediad 'Happy Mum, Happy Baby' yn cyfweld â Lisa Faulkner sy’n actores, yn gogydd, yn gyflwynydd, yn fam fabwysiadol, ac yn llys-fam. Yn ystod y bennod mae Giovanna a Lisa yn trafod bywyd proffesiynol, bod yn bartner beichiogrwydd, penderfynu ceisio dod yn rhieni, ffrwythlondeb, Clomid, IVF a bod yn fam drwy fabwysiadu a bod yn llys-fam. Mae'r bennod hon hefyd yn cynnwys trafodaeth am gamesgoriad a beichiogrwydd ectopig a allai ysgogi teimladau negyddol: Lisa Faulkner
  • Four Thought: Mum…Again: Angela Frazer-Wicks - BBC Sounds (Yn wreiddiol BBC Radio 4), Medi 2021
    Mae Angela Frazer-Wicks yn rhannu'n onest gyda BBC Radio 4, ei phrofiadau fel rhiant biolegol y cafodd ei phlant eu tynnu oddi arni a'u mabwysiadu mae o law. Yn y sgwrs bwerus hon, mae Angela yn disgrifio torri ei chalon wrth i'w phlant gael eu symud oherwydd trais yn y cartref, sut, am gyfnod, y collodd gysylltiad â'r plant, ei gwaith eiriolaeth dilynol, cael plentyn arall a rhianta gyda phartner newydd ac o'r diwedd ailgysylltu â'i mab hynaf: Four Thought: Mum...Again
  • Awgrymiadau ar gyfer rhieni mabwysiadol a sut i lywio'r daith fel teulu – Gofalu am y Teulu: Podlediad The Dad Cave, Pennod 7, 18 Mehefin 2020 
    Yn y bennod hon, mae tad i ddau, Oli Proctor yn rhannu ei brofiad ef a'i wraig, Chantelle o ffrwythlondeb, mabwysiadu a rhianta: Podlediad The Dad Cave
  • Podlediad Spotlight on FASD

    Yn y podlediad hwn mae Clare Devanney-Glynn a Jessica Rutherford yn trafod pob agwedd ar Anhwylderau'r Sbectrwm Alcohol y Ffetws: Spotlight on FASD

    Mae'r podlediad hefyd ar gael ar ffurf podlediad fideo: Spotlight on FASD

  • Rose and Rosie: Podlediad Cyfarwyddyd Rhieni
    Mae'r ddeuawd gomedi a phâr priod, Rose a Rosie, yn defnyddio eu podlediad i rannu eu profiad o ddechrau teulu. Maen nhw’n gwahodd gwesteion i rannu eu profiad eu hunain fel rhieni, plant i rieni, dylanwadwyr a gweithwyr proffesiynol. 

    Penodau’n ymdrin yn benodol â mabwysiadu: The Adoption Option! Feat. Isma Almas

  • Dawn French – Podlediad Happy Place, Mawrth 2018
    Yn yr episod hon, mae Dawn yn rhannu ei phrofiad o fod eisiau bod yn rhiant, colli plentyn yn gynnar, triniaeth ffrwythlondeb, mabwysiadu ei merch, Billy a bod yn gyd-riant gyda’i chyn-ŵr, Lenny Henry: Dawn French
  • Podlediad Big Fat Negative: TTC, Ffrwythlondeb, Anffrwythlondeb ac IVF
    Yn eu podlediad mae’r newyddiadurwyr a’r cyfeillion, Emma Forsyth Haslett a Gabriella Griffiths yn rhannu eu hanesion o deithio tuag at fod yn fam. Trwy’r tymhorau, maent yn gwahodd gwesteion sydd naill ai’n arbenigwyr mewn ffrwythlondeb  neu bobl sydd wedi llywio trwy amrywiaeth o ffyrdd i fod yn rhieni.

    Episodau penodol am fabwysiadu:



  • Two Good Mums
    Mae Two Good Mums yn gydweithrediad rhwng Laura, sy’n awdur ac yn fam am y tro cyntaf, a man a fabwysiadodd, Peggy. Trwy eu llwyfannau digidol gan gynnwys blog, llwyfannau cymdeithasol, a phodlediadau, maent yn rhannu eu profiadau o gyswllt agored ac am dwf eu cyfeillgarwch ochr yn ochr â’r profiad maent yn ei rannu o fod yn famau i’w plant.

    Mae Laura hefyd wedi rhannu ei phrofiadau personol ei hun fel rhiant cyntaf y mabwysiadwyd ei phlant trwy gyfrwng ei llyfr, Baby of Mine: A Birthmothers Journey Through Forced Adoption

    Mae podlediad Two Good Mums ar gael ar draws y prif lwyfannau podledu: Two Good Mums Podcast

Ffilmiau, Cyfres a Rhaglenni Dogfen i Oedolion

  • Y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd
    Ein sianel Youtube ydy’r lle rydyn ni’n rhannu hanesion ein mabwysiadwyr, ein newyddion ac unrhyw adnoddau gweledol eraill rydyn ni’n eu creu:  Y Fro, y Cymoedd a Chaerdudd Youtube
  • Coram
    Mae CoramBAAF yn elusen sy’n gweithio â rhieni a phlant mabwysiedig yn ogystal â gweithwyr proffesiynol. Mae eu sianel Youtube yn amlygu peth o’r gwaith y maent yn ei wneud, gan gynnwys gweithio gyda  phlant a phobl ifanc wedi eu mabwysiadu a phobl sydd eisiau mabwysiadu: Coram Youtube
  • Adoption UK - Youtube
    Elusen sy’n gweithio gyda rhieni a phlant mabwysiedig ydy Adoption UK. Mae eu sianel Youtube yn cynnwys cyfweliadau difyr o The One Show y BBC: Adoption UK Youtube
  • An Adoption Story - Jillian Lauren, TEDxChapmanU
    Mae Jillian Lauren yn fam fabwysiadol o America sy’n rhannu ei stori fabwysiadu o’i safbwynt fel mam fabwysiadol a rhywun a gafodd ei mabwysiadu. Mae hi’n ystyried teulu, hunaniaeth a chariad yn ystod ei Chyflwyniad TEDxChapmanU: An Adoption Story
  • Two Mums - Lynne Elvins, TEDxBristol
    Lynna a’i phartner Emma oedd y cwpl hoyw cyntaf i gael ei gymeradwyo i  fabwysiadu ym Mryste, y DU yn 2004. Mae Lynne yn rhannu eu stori am fabwysiadu eu mab Steven yn ystod ei Chyflwyniad TEDxBristol: Two Mums
  • Sut mae trawma mewn plentyndod yn effeithio ar iechyd ar draws oes - Nadine Burke Harris
    Mae’r Pediatregydd a Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol The Center for Youth Wellness (Sefydliad yn yr UDA), Nadine Burke Harris yn esbonio, trwy ei Sgwrs TEDMED ‘Sut mae trawma mewn plentyndod yn effeithio ar iechyd ar draws oes’ sut mae bod yn agored dro ar ôl tro i gamdriniaeth, esgeulustod, gofalwyr/ rhieni’n cael trafferth gydag iechyd meddwl a/ neu ofalwyr /rhieni’n cael problemau camddefnyddio sylweddau a’r straen gwenwynig a achosir gan y profiadau niweidiol hyn yn ystod plentyndod yn cael effeithiau diriaethol go iawn ar yr ymennydd ac ar ganlyniadau iechyd i blant ac oedolion: Sut mae trawma mewn plentyndod yn effeithio ar iechyd ar draws oes
  • What adopted children think you should know - After Adoption
    What adopted children think you should know yw animeiddiad a gynhyrchwyd gan blant a phobl ifanc mabwysiedig ac After Adoption (nad yw bellach yn sefydliad gweithredol) sy’n esbonio mabwysiadu o safbwynt pobl sy'n cael eu mabwysiadu: What adopted children think you should know 
  • ReMoved 

    Mae ReMoved yn ffilm fer sy’n dilyn taith emosiynol merch naw oed, Zoe sy’n gorfod gadael ei chartref genedigol ac yn cael ei rhoi yn y system gofal maeth (UDA). Yn yr ail ddarn ‘Remember My Story’, mae Zoe yn mynd drwy system y llysoedd, bywyd mewn cartrefi maeth, ymdrechion ei mam fiolegol i wella ei bywyd, colli ei brawd a’i dyfodol. Er bod maethu a mabwysiadu yn America yn wahanol iawn i system y DU. Mae’r ffilmiau hyn yn pwysleisio rhywfaint o’r trafferthion emosiynol y mae plant yn eu hwynebu wrth fynd i’r system gofal. Mae’r ffilmiau yn edrych ar sut y gall y profiadau hyn effeithio ar ymddygiad y plant a sut y maent yn canfod y byd o’u hamgylch yn ogystal â pham y mae rhianta therapiwtig a chymorth mor bwysig: ReMoved Series

  • Instant Family
    Mae Instant Family yn ffilm gomedi gyda Mark Wahlberg a Rose Byrne sy’n chwarae’r pâr priod Pete ac Ellie Wagner, sy’n maethu ac wedyn yn mabwysiadu tri phlentyn. Mae’r cyfarwyddwr, Sean Anders yn rhiant mabwysiadol ac ysgrifennodd y stori ar sail rhai o brofiadau ei deulu ei hun. Mae’r ffilm yn amlygu’r angen am faethu a rhieni mabwysiadol yn rhyngwladol. Er bod y broses fabwysiadu yn wahanol i’r mabwysiadu yn America, mae’r ffilm yn wych i’r rheiny sy’n ceisio magu eu dealltwriaeth o’r agweddau cadarnhaol ar faethu plant a mabwysiadu ochr yn ochr â’r trafferthion wrth addasu i fywyd teuluol gyda’i gilydd.
  • Lion
    Mae Lion yn ffilm bywgraffiad wedi ei seilio ar y llyfr ffeithiol ‘A Long Way Home’ a ysgrifennwyd gan Saroo Brierley. Mae’r ffilm yn dilyn hanes Saroo, bachgen pump oed sy’n cael ei wahanu o’i frawd ar strydoedd Calcutta. Mae Saroo yn cael ei roi mewn cartref plant cannoedd o filltiroedd i ffwrdd ac yn cael ei fabwysiadu gan gwpl sy’n byw yn Awstralia. Mae’r ffilm yn dilyn taith Saroo i Awstralia, ymgartrefu mewn teulu a diwylliant newydd.  Mae rhieni mabwysiadol Saroo yn mabwysiadu plentyn arall y mae trawma wedi dylanwadu’n sylweddol ar ei ymddygiad ac mae’r ffilm yn edrych ar sut y mae hyn yn effeithio ar ddynameg y teulu bellach. Yn ystod ei ugeiniau mae Saroo yn dechrau ceisio dod o hyd i’w fam fiolegol ac yn y pen draw mae’n dod o hyd i’w dref frodorol. Mae’r ffilm yn arddangos colled, galar, trawma, ymddygiad, teulu, cariad, cymod a’r angen sylfaenol sydd gan berson i ddeall hanes ei fywyd.  
  • Wanted: A family of my Own – Ar gael ar Daily Motion (cynhyrchwyd yn wreiddiol gan ITV)

    Cyfres pedair pennod a grëwyd gan ITV ac a gyflwynwyd gan Nicky Campbell, a gafodd ei fabwysiadu ei hun yn fabi, o’r enw ‘Wanted: A family of my own’ yn rhoi cipolwg ar fabwysiadu yn y DU. Mae’r rhaglen ddogfen hon yn dilyn siwrne nifer o fabwysiadwyr o bob cwr o’r DU sydd wedi mabwysiadu er mwyn dechrau teulu. Mae’r rhaglen hon hefyd yn tynnu sylw at rai o’r plant y mae mabwysiadu yn rhan o’u cynllun gofal: Wanted: A Family of my Own

  • Fi, Fy Mrawd a'n Peli – BBC iPlayer 

    O'n bywyd bob dydd yn gweithio gyda phobl sy'n ceisio cael teulu, gwyddom fod iechyd atgenhedlol gwrywaidd yr un mor bwysig ag un menywod ac mae'n chwarae rhan hanfodol o ran ffrwythlondeb.

    Yn anffodus, yn niwylliant y Deyrnas Gyfunol mae ffrwythlondeb dynion yn dal i gael ei anwybyddu neu ei ystyried yn bwnc tabŵ. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae seren Love Island, Chris Hughes a'i frawd Ben wedi ymuno â'r BBC i greu rhaglen ddogfen sy'n amlygu pwysigrwydd archwilio a deall iechyd a ffrwythlondeb atgenhedlol gwrywaidd.

    Eu gobaith yw y bydd y rhaglen ddogfen yn annog pobl i siarad yn fwy agored am y pynciau hyn gydag eraill, hyrwyddo dysgu am iechyd atgenhedlol gwrywaidd ac annog dynion i geisio cymorth yn gynharach nag y gallent fod wedi'i wneud fel arall: Fi, fy mrawd a'n peli

  • Closure a Rhaglenni Dogfen Byr Eraill – Angela Tucker 

    Nid oedd Angela a'i gŵr, Bryan, erioed yn bwriadu creu rhaglen ddogfen hyd ffilm am chwiliad Angela am ei theulu biolegol, ond o'u profiad personol a'r deunydd fideo oedd ganddynt, roeddent yn teimlo y gallai fod yn ddarn addysgol i'r cyhoedd. Darlledwyd Closure ar y gwasanaethau ffrydio digidol Hulu (2014), Netflix (2015-2017) ac Amazon Prime (2016-2020).

    Mae gan Angela hefyd sianel YouTube y mae'n ei defnyddio i lanlwytho rhaglenni dogfen a phodlediadau byr i eirioli dros ei phrofiadau ei hun a phrofiadau pobl fabwysiedig eraill ac amlygu’r profiadau hyn. 

  • Trying – Apple TV

    Cyfres gomedi wreiddiol gan Apple TV yw Trying, a grëwyd gan Andy Wolton (cyfarwyddwr a pherson a fabwysiadwyd). Mae'r gyfres yn dilyn stori Jason a Nikki, cwpl yng nghanol eu 30au sydd wedi bod yn ceisio beichiogi drwy driniaeth ffrwythlondeb. Mae'r gyfres yn dilyn eu taith o 'geisio beichiogi' i ystyried mabwysiadu.

    Mae rhai elfennau o'r gyfres wedi eu creu er adloniant y gwylwyr felly, mae rhai pethau ynglŷn â'r broses yn anghywir, fodd bynnag, mae'r rhaglen yn cynnig persbectif ar ffrwythlondeb, teulu a mabwysiadu sy'n aml yn ysgafn ond eto, yn emosiynol ymwybodol: Trying 

  • Ian Wright: Home Truths – BBC iPlayer

    Yn y rhaglen ddogfen rymus ac emosiynol hon, mae'r cyn-bêl-droediwr, Ian Wright, yn ymchwilio'r effaith y mae cael eu magu mewn cartref lle mae cam-drin seicolegol a thrais yn ei chael ar blant. 

    Yn y DU, profodd 1.6 miliwn o fenywod gam-drin domestig yn 2021, ac yn 90% o’r achosion o gam-drin domestig mae plentyn yn bresennol. Yn ogystal â dod i delerau â'i brofiad ei hun, mae Ian yn ceisio deall yr effaith y gall cam-drin domestig yn ystod plentyndod ei chael ar blant wrth iddynt dyfu a sut y gall effeithio ar pwy fyddant yn oedolion.

    Profodd Ian drais domestig yn ei blentyndod ei hun. Erbyn hyn mae ganddo blant ei hun. Yn ystod y rhaglen ddogfen mae'n siarad â'i frawd am eu profiadau cyffredin yn eu plentyndod, mae'n ailedrych ar ei gartref plentyndod am y tro cyntaf ers hanner can mlynedd ac yna'n teithio ar draws y DU i gwrdd â phobl eraill a brofodd gam-drin domestig yn eu plentyndod. Mae hefyd yn cyfarfod â gweithwyr proffesiynol i siarad am ei drawma ei hun. Mae Ian yn darganfod sut mae pethau wedi newid ers iddo ei fagwraeth yn y 70au, ac mae'n darganfod sut mae plant yn cael eu cefnogi yn y DU heddiw drwy ymweld â'i hen ysgol gynradd ac arsylwi ar fentrau lleol dan arweiniad elusennau.

    Yn rhan olaf y rhaglen ddogfen mae Ian yn ymweld ag elusen sy'n gweithio gyda phobl sydd sy’n wynebu risg o gam-drin rhywun, neu sydd eisoes wedi gwneud hynny ac mae’n cwrdd â dyn sydd ar gwrs i'w helpu i ddeall a newid ei ymddygiad. Mae Ian yn darganfod sut y gall cam-drin ddod yn gylch peryglus a dywed yn deimladwy ei fod bellach yn gallu dechrau maddau i’w fam a gadael y gorffennol y tu cefn iddo. Ar ôl myfyrio, daw i'r casgliad bod "cam-drin yn creu cylch dieflig - mae ei atal yn gyfrifoldeb arnom ni i gyd".

    Yn anffodus, mae llawer o blant, gan gynnwys plant sydd wedi derbyn gofal, wedi gweld / profi trais domestig, camdriniaeth ac esgeulustod ac mae angen i rieni mabwysiadol fod yn dosturiol ac ymwybodol o'r effaith y gall y profiadau hyn ei chael ar blant a theuluoedd. Gallai’r rhaglen hon fod yn sbardun i bobl sydd wedi gweld / profi trais domestig, camdriniaeth ac esgeulustod yn eu plentyndod eu hunain:

    Un: Ian Wright Home Truths 

    Dau: Ian Wright Home Truths

  • Seminar ar ildio a mabwysiadu: Deall effaith clwyfau seicolegol cynnar - Paul Sunderland, iCAAD: Cynhadledd Ryngwladol ar Anhwylderau sy’n Gysylltiedig â Bod yn Gaeth, Llundain 2019
    Yn y seminar hwn, mae Paul Sunderland, Cyfarwyddwr Clinigol yn dadbacio trawma cudd ac yn canolbwyntio ar drawma mabwysiadu ar gyfer y triawd mabwysiadu (plentyn, teulu biolegol, teulu mabwysiadol) gan ganolbwyntio'n bennaf ar y plentyn: Seminar ar ildio a mabwysiadu: deall effaith clwyfau seicolegol cynnar
  • Why I’m fighting for change in the care system – ar gael ar YouTube (cynhyrchwyd yn wreiddiol gan BBC Three)
    Yn y rhaglen ddogfen fer hon, mae Jamie yn rhannu ei brofiadau o system gofal y Deyrnas Gyfunol: Why I’m fighting for change in the care system
  • How a child can thrive by five - Molly Wright, TED a Sefydliad Minderoo
    "Beth fyddech chi’n ei ddweud pe bawn i'n dweud wrthych y gallai gêm o bi-bo newid y byd?" hola Molly Wright saith oed, un o’r siaradwyr TED ieuengaf erioed. Gan drafod y ffyrdd a gefnogir gan ymchwil y gall rhieni a gofalwyr gefnogi datblygiad ymennydd iach mewn plant, mae Wright yn tynnu sylw at fanteision chwarae ar ddysgu gydol oes, ymddygiad a llesiant, gan rannu strategaethau effeithiol i helpu pob plentyn i ffynnu erbyn cyrraedd y pump oed. Yn gwmni ar y llwyfan gyda hi mae Ari sy’n flwydd oed a’i dad, Amarjot, sy’n helpu i enghreifftio ei syniadau mawr am wyddoniaeth yr ymennydd. (Cynhyrchwyd y TED Talk hwn mewn cydweithrediad â Sefydliad Minderoo fel offeryn addysgol i rieni a gofalwyr ledled y byd ac fe'i cefnogir gan UNICEF): How every child can thrive by five
  • 15,000 kids and counting – ar gael ar YouTube (cynhyrchwyd yn wreiddiol gan Channel 4)

    Mae'r gyfres ddogfen hon a gynhyrchwyd gan Channel 4 yn 2014 yn dilyn gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth, rhieni biolegol a mabwysiadwyr dros ddwy flynedd wrth i benderfyniadau gael eu gwneud a fydd yn effeithio ar ddyfodol y plant dan sylw.

  • In care from the age of six: Finding a family, cyfres 1, pennod 4 ‘Young and Homeless’ gan BBC Three – ar gael ar YouTube (cynhyrchwyd yn wreiddiol gan BBC Three)
     Yn y bennod hon mae Lucy, sy'n 19 oed, yn rhannu ei phrofiadau o ofal ers yn chwech oed a'i chynlluniau i astudio Seicoleg yn y Brifysgol. Cafodd ei maethu i ddechrau a chanfu sefydlogrwydd yn ddiweddarach mewn hostel i ferched yn unig. Mae'r bennod yn tynnu sylw at rai o'r trafferthion a wynebir gan blant sydd angen gofal maeth hirdymor: In care from the age of 6
  • A documentary about adoption - Ar gael ar YouTube (cynhyrchwyd yn wreiddiol gan Georgia Cook)
    Yn y rhaglen ddogfen hon, mae pum oedolyn a fabwysiadwyd yn blant (gan gynnwys y cynhyrchydd, Georgia Cook) yn rhannu eu profiadau o ofal maeth a mabwysiadu. Mabwysiadwyd Beverly ar ei phen ei hun; mabwysiadwyd Harry gyda'i chwaer; mabwysiadwyd Georgia gyda'i brawd ac mae Jennifer a Katie yn chwiorydd mabwysiedig nad ydynt yn perthyn yn fiolegol: A Documentary about Adoption
  • Mabwysiadwyd am Oes: Dod yn Oedolyn

    Mae PAC-UK wedi creu ffilm fer sy'n ysgogi'r meddwl - 'Mabwysiadwyd am oes: dod yn Oedolyn’ lle mae pobl ifanc ac oedolion sy'n cael eu mabwysiadu yn rhannu eu profiadau o drosglwyddo o blentyndod i fod yn oedolyn fel person mabwysiedig: Adopted for Life: Becoming an Adult   

    Mae PAC-UK yn elusen yn y DU.  Maent yn gweithio gyda phobl y mae mabwysiadu, gwarchodaeth arbennig a mathau eraill o ofal parhaol wedi effeithio arnyn nhw: PAC-UK

  • Lleisiau Anghofiedig Teuluoedd Biolegol

    Mae PAC-UK wedi creu ffilm fer sy'n ysgogi'r meddwl o’r enw 'Lleisiau Anghofiedig Teuluoedd Biolegol’ lle mae rhieni biolegol yn rhannu'n onest am eu bywydau a'r amgylchiadau a arweiniodd at eu plentyn yn cael eu symud a'i fabwysiadu wedyn; am alar, a sut mae'r golled hon wedi effeithio ar eu bywydau a’u cysylltiadau: The Forgotten Voices of Birth Families 

    Mae PAC-UK yn elusen yn y DU.  Maent yn gweithio gyda phobl y mae mabwysiadu, gwarchodaeth arbennig a mathau eraill o ofal parhaol wedi effeithio arnyn nhw: PAC-UK

  • Cynhadledd PAC-UK 2021: Lleisiau Rhieni Biolegol: Colled, Gobaith a Newid, Hydref 2021
    Yn 2021, cynhaliodd PAC-UK, elusen yn y DU sy’n gweithio gyda phobl y mae mabwysiadu, gwarcheidwaeth arbennig, a mathau eraill o ofal parhaol wedi effeithio arnynt, gynhadledd, Lleisiau Rhieni Biolegol: Colled, Gobaith a Newid.

    Yr oedd y gynhadledd yn dwyn ynghyd rieni biolegol, teulu biolegol, rhieni a fabwysiadodd, teulu a fabwysiadodd, gweithwyr cefnogi a gweithwyr cymdeithasol i ddysgu mwy am safbwyntiau rhieni biolegol yn y triawd mabwysiadu.

    Angela, mam fiolegol, oedd yn arwain y gynhadledd ac yr oedd yn cynnwys lleisiau a safbwyntiau grŵp o rieni biolegol, gweithwyr cefnogi a gweithwyr cymdeithasol: Cynhadledd PAC-UK 2021: Lleisiau Rhieni Biolegol: Colled, Gobaith a Newid

  • 24 Hours in Police Custody: Cold to the Touch - Channel 4

    Mae'r rhaglen ddogfen ddwy ran hon yn edrych ar achos marwolaeth plentyn un wythnos ar ddeg oed. Mae'r rhaglen yn tynnu sylw at effeithiau trais domestig a bywyd teuluol anhrefnus i blant ac oedolion ac at sut yr ymchwilir i droseddau o'r fath.

    Mae'r rhaglen ddogfen hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithwyr proffesiynol sy'n deall profiadau byw teuluoedd a phwysigrwydd rhoi gwybod am bryderon i wasanaethau cymorth fel yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol: 24 Hours in Police Custody: Cold to the Touch

    Os penderfynwch wylio'r rhaglen ddogfen, byddwch yn wyliadwrus. Credwn ei bod yn bwysig i'r cyhoedd ddeall effeithiau trais domestig, fodd bynnag, rydym hefyd yn ymwybodol o’r ffaith y gallai’r pwnc ofidio rhai gwylwyr neu achosi iddynt deimlo emosiynau annymunol.

    Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn dioddef trais domestig neu os yw trais domestig yn effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod:

  • Love and Drugs on the Street: Girls Sleeping Rough - BBC iPlayer
    Mae'r gyfres ddogfen hon yn dilyn bywydau nifer o fenywod sy'n byw ar y strydoedd yn Brighton a Hove.

    Mae mamau biolegol y mae eu plant wedi mynd i ofal a phobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael eu gorgynrychioli yn y gymuned ddigartref. Dywedodd cyhoeddiad 2012 gan St Mungo’s: "Mae plant dros dri chwarter y mamau sy'n cysgu ar y stryd wedi mynd i ofal".

    Mae'r gyfres yn rhoi cipolwg ar brofiadau bywyd menywod sy'n byw ar y strydoedd gan gynnwys goroesi, ymwneud â gwasanaethau, defnyddio sylweddau a'u perthynas â'u plant.

    Ym mhennod dau cyfres un, mae’r mamau biolegol, Paige, Isla, a Maria yn rhannu manylion eu profiadau gyda'u plant ac ym mhennod un cyfres tri, mae Charlotte yn darganfod ei bod yn feichiog tra'n byw ar y stryd: Love and Drugs on the Street: Girls Sleeping Rough

    Mae'r gyfres yn dangos cyffuriau’n cael eu defnyddio a gaali beri gofid i rai gwylwyr / achosi iddynt deimlo emosiynau annymunol. 

  • Addicted: Last Chance Mums – Ar gael ar YouTube (a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan BBC Panorama)

    Mae'r rhaglen ddogfen hon yn rhoi cipolwg dadlennol, sy'n herio rhagdybiaethau, ar brofiadau mamau biolegol sy'n byw gyda'u babanod mewn lleoliad preswyl i famau sy'n gwella o gaethiwed i sylweddau. Mae lleoliadau preswyl i rieni a babanod yn amgylcheddau cefnogol a ddarperir fel arfer mewn cyfleuster a arweinir gan staff neu leoliad maethu rhiant a baban.

    Yn anffodus, mae llawer o blant yn y DU sydd wedi'u lleoli i'w mabwysiadu wedi bod yn agored i sylweddau yn y groth ac/neu yn eu hamgylchedd cartref ac efallai bod llawer ohonynt wedi byw, am gyfnod, mewn lleoliad fel yr un a ddangosir yn y rhaglen ddogfen hon: Addicted: Last Chance Mums

    Mae'r rhaglen ddogfen yn cynnwys delweddau o ddefnyddio Methadone a chyfeiriad at gam-drin rhywiol y gallai achosi gofid neu sbarduno atgofion ymhlith rhai gwylwyr.

  • Split Up In Care: Life Without Siblings - BBC iPlayer

    Cafodd Ashley John-Baptiste, gohebydd a chyflwynydd y BBC ei fagu mewn gofal maeth.  Credai Ashley ei fod yn unig blentyn tan un diwrnod, ac yntau yn ei 20au canol, cysylltodd dyn gydag e drwy'r cyfryngau cymdeithasol gan rannu mai ef oedd ei frawd.

    Yn y rhaglen ddogfen hon mae Ashley yn rhannu ei stori ei hun ac yn rhoi llwyfan i leisiau plant, pobl ifanc ac oedolion sydd â phrofiad o fod mewn gofal ochr yn ochr â  gweithwyr cymdeithasol a rhieni maeth.

    Mae'r rhaglen ddogfen yn rhannu cipolwg teimladwy ar glymau’r berthynas sydd rhwng brodyr a chwiorydd a sut a pham y dylid meithrin y perthnasoedd hyn: Split up in care: life without siblings

  • Cynhadledd ASAFf Partneriaeth Diogelu Plant Sheffield 2021

    Ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth ASAFf Rhyngwladol 2021 cynhaliodd Partneriaeth Diogelu Plant Sheffield gynhadledd ASAFf.

    Aeth y gynhadledd â’r cyfranogwyr ar daith ASAFf, atal, diagnosis a chymorth i bobl a gafodd ddiagnosis o ASAFf a'u teuluoedd, gydag amrywiaeth o siaradwyr gan gynnwys pobl sydd â diagnosis o ASAFf, rhieni a gofalwyr pobl sydd â diagnosis o ASAFf, pobl o sefydliadau sy'n cefnogi teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan ASAFf, y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar ASAFf, Dr Raja Mukherjee a Dr Cassie Jackson.

     

  • This is Us – Amazon Prime

    Mae This is Us yn dilyn bywydau'r brodyr a chwiorydd Kevin, Kate, a Randal a'u rhieni. Mae eu rhieni Jack a Rebecca yn feichiog gyda thripledi i ddechrau a phan fydd un o'r tripledi'n farw-anedig, maent yn penderfynu mabwysiadu Randle, bachgen bach a ddaeth i'r ysbyty y diwrnod hwnnw fel baban a adawyd.

    Mae'r stori'n dilyn themâu hunaniaeth, mabwysiadu trawshiliol, ailgysylltu teulu biolegol, profiad y triawd mabwysiadu (plentyn, teulu biolegol a theulu mabwysiadol) a bod yn frodyr a chwiorydd drwy fabwysiadu.

    Mae'r gyfres yn cynnwys cyfeiriadau at wahaniaethu ar sail hil, dibyniaeth, colli babanod, colli teulu a salwch y gallai rhai gwylwyr eu cael yn ofidus a / neu'n sbardun: This Is Us

  • Katie Price: What Harvey Did Next - BBC iPlayer

    Mae'r rhaglen ddogfen yn dilyn Harvey Price wrth iddo gychwyn ar daith anodd y mae miloedd o bobl ifanc yn ei wneud bob blwyddyn, wrth fynd i'r coleg. Mae'r rhaglen ddogfen yn tynnu sylw at brofiad Harvey, ei fam, Katie Price a'i deulu estynedig wrth iddo symud dair awr oddi cartref i National Star College, coleg arbenigol ar gyfer pobl sy'n byw gydag anghenion / anableddau ychwanegol: Katie Price: What Harvey Did Next

  • As We See It – Amazon Prime

    Mae'r gyfres lawn hon yn dilyn bywydau tri oedolyn sy'n byw gydag Awtistiaeth wrth iddynt wynebu'r heriau o fyw'n annibynnol ac archwilio a chynnal perthnasoedd. 

    Ychwanegir dyfnder at y stori gan fod y prif rolau i gyd yn cael eu chwarae gan actorion sydd ar y sbectrwm eu hunain ac mae'r gyfres yn herio canfyddiadau, stereoteipiau ac yn rhoi cipolwg ingol ar brofiadau oedolion sy'n byw gydag Awtistiaeth a'r rhai sy'n eu cefnogi: As We See It

  • Joe Swash: Teens in Care – BBC iPlayer

    Yn y rhaglen ddogfen hon, mae’r actor, cyflwynydd, awdur a thad, Joe Swash yn tynnu sylw at brofiadau byw pobl ifanc yn eu harddegau sydd mewn gofal ac oedolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n byw yn Lloegr. Mae gan Joe gysylltiad personol â'r system ofal gan fod ei fam, Kiffy wedi bod yn ofalwr maeth sengl ers pymtheng mlynedd. I ddechrau, maethodd Kiffy ddau o blant; un a gafodd ei fabwysiadu ac un arall, Daniel, sydd wedi byw gyda hi ers ei fod yn saith oed ac sydd newydd ddechrau yn y brifysgol: Joe Swash: Teens in Care

  • Atypical – Netflix

    Mae'r ddrama hon yn dilyn bywyd Sam, merch 18 oed sydd ar y sbectrwm awtistiaeth wrth iddo benderfynu ei bod yn bryd chwilio am fwy o annibyniaeth. Mae'r sioe yn tynnu sylw nid yn unig at daith Sam ond hefyd taith ei deulu wrth iddynt addasu i ddymuniad Sam i ddod yn fwy annibynnol. Er nad yw'r stori'n seiliedig ar fabwysiadu, drwy gydol eu plentyndod, gellir rhoi diagnosis i plant o anghenion ychwanegol gan gynnwys Awtistiaeth. Felly, mae'n bwysig i fabwysiadwyr baratoi eu hunain drwy ddysgu mwy am anghenion ychwanegol.

  • Our Lives: Searching for My Other Mam, Cyfres Chwech – BBC iPlayer

    Er ei fod yn dod o’r Gogledd, mae Gerallt wastad wedi dweud ei fod yn teimlo'n wahanol i'w gyfoedion am ei fod o dras ddeuol, wedi ei eni yn Lloegr a’i  fabwysiadu gan ei fam wen, sy’n Gymraes Gymraeg. Bellach (2022), bron hanner can mlynedd ers ei fabwysiadu, mae Gerallt yn dechrau'r chwilio i ddod o hyd i'w rieni biolegol a'i dreftadaeth ddu nad yw byth wedi ei adnabod, gyda Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Mae'r rhaglen ddogfen hon yn amlygu pwysigrwydd perthyn, dod o hyd i hunaniaeth, a phwysigrwydd treftadaeth ddiwylliannol: Our Lives, Cyfres Chwech, Searching for My Other Mam – BBC iPlayer

    Mae'r rhaglen ddogfen yn cynnwys gwybodaeth am farwolaeth rhiant biolegol allai beri gofid i rai gwylwyr neu fod yn sbardun iddynt.

  • Michael Sheen: Codi'r Llen ar y System Gofal – BBC iPlayer

    Yn y rhaglen ddogfen hon mae Michael Sheen yn tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu Cymry ifanc mewn gofal maeth. Mae gan lawer o blant yn system ofal y DU gynllun gofal o ofal maeth hirdymor yn lle dychwelyd i'w teuluoedd biolegol neu gael eu cyfeirio i'w mabwysiadu. Weithiau mae gan blant mabwysiedig frodyr a chwiorydd y mae eu cynllun gofal yn ofal maeth hirdymor.

    Yn aml, nid yw’r glasoed nac oedolion ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn derbyn yr un sefydlogrwydd na’r gefnogaeth ariannol, addysgol, cymdeithasol, emosiynol ac ati, y mae angen i bob person ei gael i fod yn oedolyn llewyrchus. Mae'n hysbys hefyd bod hyn yn creu cylch rhwng y cenedlaethau lle gallai oedolion sydd â phrofiad o fod mewn gofal weld eu plant biolegol yn cael eu symud am resymau economaidd-gymdeithasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig i rieni mabwysiadol amgyffred gan y gallai eu plentyn fod wedi profi'r cylch hwn sydd yn y pen draw wedi arwain at fabwysiadu. Mae'r rhaglen hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod pob plentyn yn cael sefydlogrwydd waeth beth fo'u math o leoliad a phwysigrwydd cyswllt parhaus gyda brodyr a chwiorydd a theulu biolegol: Michael Sheen: Codi'r Llen ar y System Gofal – BBC iPlayer

  • Sam Thompson: Is this ADHD? – Channel 4

    Mae seren Made in Chelsea a Tik Tok Prydain, Sam Thompson wedi sylwi ei fod yn profi diffyg sylw, anhrefn, a gorfywiogrwydd. Yn y rhaglen ddogfen hon mae Sam yn mynd ar ymchwiliad i ddarganfod a oes ganddo ddiagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG). Mae llawer o blant a phobl ifanc yn y DU yn aros am gyfnodau estynedig o amser i gael diagnosis, ac i lawer o oedolion a anwyd cyn y ddealltwriaeth fanylach o ADCG, efallai eu bod ond yn ddiweddar yn derbyn neu'n archwilio diagnosis ffurfiol.

    Mae'r rhaglen ddogfen hon yn rhoi cipolwg ar brofiadau byw pobl sydd ag ADCG ac yn gweithio i chwalu stigma: Sam Thompson: Is this ADHD?

  • Out of the Shadows: Born from Rape – BBC iPlayer 
    Yn y rhaglen ddogfen hon mae Sammy Woodhouse, un o'r dioddefwyr meithrin perthynas amhriodol Rotherham, yn mynd ar daith i gwrdd â mamau a phlant eraill a anwyd o dreisio. Ar hyd a lled y wlad, mae hi'n darganfod pobl ryfeddol gyda straeon torcalonnus am gariad a phoen sydd wedi aros yn gudd ers degawdau. 

    Yn aml gall pynciau trais rhywiol a llosgach ysgogi ymateb emosiynol cryf neu ddatgysylltiad o fewn y cyhoedd, fodd bynnag, i rieni sydd wedi cael eu treisio a'u plant dyma'u realiti byw, ac oherwydd y tabŵ maent yn byw gyda stigmateiddio, cywilydd, ac ofn siarad.

    Er bod llawer o blant yr effeithir arnynt gan yr amgylchiadau hyn yn parhau i fod yng ngofal eu rhiant geni neu deulu estynedig, i rai gall yr amgylchiadau fod yn ffactor sy'n cyfrannu at ddod yn brofiad gofal: Out of the Shadows: Born from Rape

  • Kids – Channel 4
    Mae'r rhaglen ddogfen hon yn archwilio bywydau pobl ifanc yng ngofal Gwasanaethau Plant Coventry, eu teuluoedd a'r gweithwyr cymdeithasol sy'n rhan o'u bywydau. 

    Fel arfer, mae pobl sydd â phrofiad gofal a'u teuluoedd wedi profi cyfuniad o ffactorau sydd wedi arwain at ymwneud yn y pen draw â'r gwasanaethau cymdeithasol a/neu'r heddlu. Mae'r rhaglen ddogfen hon yn tynnu sylw at gymhlethdodau eu profiadau bywyd, yn meithrin empathi i bawb sy'n gysylltiedig, ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd stori bywyd, hunaniaeth, perthnasoedd diogel a sefydlog, a pherthyn: Kids

  • Ellie Simmonds: Dod o hyd i'm Teulu Cyfrinachol - ITVX

    Rhaglen ddogfen deimladwy a thorcalonnus lle mae cyn Nofiwr Paralympaidd Prydeinig a pherson mabwysiedig, Ellie Simmonds yn archwilio’n onest ei chofnodion geni, ei diagnosis o Achondroplasia a’i mabwysiadu gyda chefnogaeth ei theulu, Penny, Glesni, ac Gwasanaethau Cymdeithasol Essex (AdoptEast).

    Yn ystod y rhaglen ddogfen mae’n ailgysylltu â’i theuluoedd maeth a geni a hefyd yn cyfarfod â theulu sy’n magu plentyn sydd ag anghenion meddygol a Jono Lancaster a gafodd ei roi i’w fabwysiadu ar ôl cael ei adael yn yr ysbyty ar ôl genedigaeth; yn debygol o fod yn gysylltiedig â'i ddiagnosis meddygol. Mae'r rhaglen ddogfen yn siarad yn onest am yr heriau a wynebodd y gwasanaethau mabwysiadu, ac yn parhau i wynebu, i ddod o hyd i rieni i blant sy'n byw ag anableddau a/neu anghenion ychwanegol: Ellie Simmonds: Dod o hyd i'm Teulu Cyfrinachol

    Gall y rhaglen ddogfen hon fod yn sbardun i'r rhai sy'n archwilio eu cofnodion geni a/neu'n byw ag anabledd a/neu anghenion ychwanegol a'u teuluoedd.

  •  The stories we bring with us: Messages for adoptive parents from adopted people – PAC-UK

    Yn y ffilm fer hon, mae pobl fabwysiedig yn rhannu eu meddyliau, eu teimladau a'u profiadau o fod yn berson mabwysiedig. Mae'r ffilm yn werthfawr i rieni fabwysiadol, i bobl sy'n ystyried mabwysiadu, y rhai sydd â chysylltiad â pherson mabwysiedig a gweithwyr proffesiynol.

    Comisiynwyd PAC-UK i greu'r ffilm fer hon gan y Tîm Strategaeth Fabwysiadu Genedlaethol drwy'r Rhaglen Arweinwyr Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol, a ariennir gan Adran Addysg y DU: The stories we bring with us: Messages for adoptive parents from adopted people

  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  

Blogiau a Flogiau i Oedolion

  • The Unlikely Dad - Tom Cox

    Mae Tom yn dad mabwysiedig i Kai. Mae’n cynnwys ffotograffau hyfryd, llawer o sylwadau am fabwysiadu, bywyd dad o ddydd i ddydd yn ogystal â rhai postiadau ar y cyd: The Unlikely Dad. Cafodd hefyd ei gyfweld gan Alison Perry, Podlediad Not Another Mummy, Cyfres 4 ar 10 Medi 2019. Ar gael ar yr app podlediad.

  • Daddy and Dad - Jamie and Tom
    Mae Daddy and Dad yn flog gan Jamie a Tom sy’n dadi a dad i Lyall a Richard. Mae Jamie a Tom wedi blogio drwy eu proses fabwysiadu a nawr maen nhw’n trafod eu bywydau fel tadau bob dydd. Ceir hefyd adran benodol o’r wefan sydd ar gyfer straeon rhieni o’r gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol: Daddy and Dad

  • Aimee Vlogs - Aimee

    Mae Aimee yn fam fabwysiadol sy'n trafod ei phrofiadau maethu a mabwysiadu dau blentyn yn system y DU. Mae hi'n sôn am y broses fabwysiadu, cysylltu â'r rhieni biolegol a'r diwrnod dathlu a bywyd mam yn gyffredinol.

     

  • You, Me and Lots and Lots of Love - Leon Wenham

    Mae Leon Wenham yn dad mabwysiadol du, hoyw ac yn eiriolwr mabwysiadu. Mae wedi sefydlu grŵp ar-lein ar gyfer tadau sengl, du, hoyw ac yn 2020 ysgrifennodd ei lyfr plant cyntaf, ‘Lots and Lots of Love’. Mae hefyd wedi recordio pennod podlediad gyda Black Boy Joy lle mae'n rhannu'n fanylach ei brofiadau o fabwysiadu a bod yn rhiant. 

  • Mumaduke Designs

    Crëwyd Mumaduke Designs gan fam fabwysiadol tua blwyddyn ar ôl iddi fabwysiadu ei mab. Ar y pryd roedd hi'n ceisio dod o hyd i gerdyn addas ar gyfer cyswllt blwch llythyrau ac yn y pen draw penderfynodd fynd adref i wneud ei cherdyn ei hun. Ers hynny mae hi wedi creu siop sy'n arbenigo mewn eitemau sy'n dathlu mabwysiadu ynghyd â blog a phresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol lle mae'n sôn am ei phrofiadau o fod yn rhiant drwy fabwysiadu. 

  • Rosemary Lucas

    Mae Rosemary Lucas, awdur a mam fabwysiadol, yn defnyddio ei blog a'i phresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol i siarad am ei phrofiadau o fod yn rhiant trwy fabwysiadu.

    Mae llyfr cyntaf Rosemary, The Family Fairies, yn llawn rhigymau plant sy’n esbonio’r broses fabwysiadu mewn ffordd ddifyr a hwylus gyda darluniadau lliwgar ac mae’n dod â’r profiad o fabwysiadu yn fyw.  Mae’r llyfr yn seiliedig ar daith fabwysiadu Rosemary ac yn adrodd hanes mam a thad sydd eisiau cael teulu ac sy’n gofyn am help gan ddwy ‘dylwythen deg deuluol‘, sef dau weithiwr cymdeithasol.  Mae Rosemary yn gobeithio y bydd y llyfr hwn yn un o gyfres o lyfrau a fydd yn helpu plant ac oedolion i ddeall mabwysiadu mewn ffordd gliriach ac yn ennyn diddordeb ehangach mewn mabwysiadu fel llwybr i ddechrau neu ehangu teulu.  

  • Jeena Wilder 

    Mae mam Haitiaidd-Americanaidd, Jenna Wilder, yn dogfennu’r profiad mae hi a’i gŵr, Drue, wedi’i gael fel rhieni i blant mabwysiedig a biolegol. Mae hi'n tynnu sylw at brofiadau eu teulu o briodas rynghiliol, mabwysiadu trawshiliol, addysg gartref, rhianta, rôl ei ffydd (Mormoniaeth) yn ei bywyd ac wrth fod yn fam. 

  • The Adopted Life - Angela Tucker

    A hithau’n Americanes Drawshiliol Fabwysiedig, mae Angela Tucker yn siaradwr cyhoeddus, yn addysgwr, yn fentor ac yn ymgynghorydd. Mae'n defnyddio ei llais, ei phresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol, ei sianel YouTube (sy'n cynnwys rhaglenni dogfen byr a phodlediadau) a’i gwefan i eirioli dros ei phrofiadau ei hun a phrofiadau pobl fabwysiedig eraill ac amlygu’r profiadau hyn. 

    Nid oedd Angela a'i gŵr, Bryan, erioed yn bwriadu creu rhaglen ddogfen hyd ffilm am chwiliad Angela am ei theulu biolegol, ond o'u profiad personol a'r deunydd fideo oedd ganddynt, roeddent yn teimlo y gallai fod yn ddarn addysgol i'r cyhoedd. Darlledwyd Closure ar y gwasanaethau ffrydio digidol Hulu (2014), Netflix (2015-2017) ac Amazon Prime (2016-2020).

  • teeniebeanie_club and Sundayy_club - Bee and Leigh
    Mae Bee a Leigh, y teeniebeanie_club a’r sundayy_club yn rhannu eu profiadau o fod yn famau i’w merch, Red trwy Instagram
  • Two Good Mums
     Mae Two Good Mums yn gydweithrediad rhwng Laura, sy’n awdur ac yn fam am y tro cyntaf, a man a fabwysiadodd, Peggy. Trwy eu llwyfannau digidol gan gynnwys blog, llwyfannau cymdeithasol, a phodlediadau, maent yn rhannu eu profiadau o gyswllt agored ac am dwf eu cyfeillgarwch ochr yn ochr â’r profiad maent yn ei rannu o fod yn famau i’w plant.

    Mae Laura hefyd wedi rhannu ei phrofiadau personol ei hun fel rhiant cyntaf y mabwysiadwyd ei phlant trwy gyfrwng ei llyfr, Baby of Mine: A Birthmothers Journey Through Forced Adoption

     

  • BabyCentre.co.uk
  • Addysgu Ella 

    Mae rhiant mabwysiadol, Claire yn defnyddio ei thudalen Instagram i godi ymwybyddiaeth o addysg gartref, Awtistiaeth, ADCG (ADHD), Mabwysiadu a Thrawma. Bellach mae gan Claire a'i gwraig ddau o blant drwy fabwysiadu: @educatingella

  • 2starfishsolo

    Yn rhiant mabwysiadol unigol Gymraeg i ddau, mae Sarah yn defnyddio ei thudalen Instagram i godi ymwybyddiaeth o frodyr a chwiorydd rhianta mabwysiadol unigol: @2starfishsolo

  • Teulu bach ni

    Mae’r rhieni mabwysiadol, Gwawr a Catrin yn defnyddio'u tudalen Instagram i godi ymwybyddiaeth o fabwysiadu efeilliaid fel cwpl benywaidd sy'n siarad Cymraeg. Cymraeg yn gyntaf yw’r cynnwys, yna dwyieithog: @teulu_bach_ni

  • Mam fiolegol ger y môr

    Mae'r fam fiolegol, Nina yn defnyddio ei thudalen Instagram i godi ymwybyddiaeth o'r cymhlethdodau o fod yn rhiant biolegol y tynnwyd ei phlant cyntaf oddi arni a’u gosod i’w mabwysiadu ond y mae ei phlentyn biolegol dilynol wedi parhau i fyw gyda hi. Mae Nina yn siarad yn onest am lywio emosiynau yn ymwneud â'i hamgylchiadau a chyswllt parhaus â'r plant nad ydynt yn byw gyda hi: @birthmumbythesea

  • Sgwrsio am Fabwysiadu

    Tudalen Instagram sy'n cael ei chynnal gan rai a fabwysiadwyd i godi ymwybyddiaeth o’u profiadau o gael eu mabwysiadu: Adoption Chatter

  •  
  •  
  •  
  •  
  •  

 

Gwefannau Defnyddiol i Oedoli

  • Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain
    Sefydliad cenedlaethol yn cynnig gwybodaeth a hyfforddiant: Corambaaf
  • Adoption UK

    Mae Adoption UK yn elusen sy'n darparu cymorth, cymuned ac eiriolaeth i bawb sy'n magu plant neu'n cefnogi plant nad ydynt yn gallu byw gyda'u rhieni biolegol. Mae hefyd yn rhedeg llinell gymorth y gall darpar fabwysiadwyr ei defnyddio o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am-2.30pm, ac mae ganddynt wybodaeth y gallant ei hanfon ar gais drwy e-bost. 

  • Wedi Mabwysiadu

    Cymorth ar gyfer pobl sydd wedi eu mabwysiadu a’u teuluoedd: After Adoption

  • Cymdeithas Teuluoedd Newydd

    New Family Social yw’r unig elusen mabwysiadu a maethu ar gyfer pobl LHDT+ yn y DU. Maent yn cefnogi teuluoedd mabwysiadol a maethu sy’n LHDT+ drwy gynnig adnoddau a chyngor.

    Fel asiantaeth aelod o New Family Social mae ein mabwysiadwyr yn cael eu cefnogi gan ein tîm ond hefyd gallant gael gafael ar adnoddu ac arbenigedd New Family Social.

  • Llywodraeth y Du

    Mae adran bwrpasol ar wefan Llywodraeth y DU sy’n cyfeirio’n arbennig at fabwysiadu. Mae’n ymdrin â themâu megis mabwysiadu domestig a thramor, mabwysiadu gan lys rieni a gwybodaeth am yr elfennau cyfreithiol a’r broses asesu.

  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

    Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD). Mae GGiD yn cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth ddiduedd am ddim i deuluoedd a gofalwyr am wasanaethau lleol ac amrywiaeth o bynciau teuluol.

    Gallant gynnig gwybodaeth a chymorth fel:

    • Gofal plant, gan gynnwys y Cynnig Gofal Plant 30 awr i Gymru
    • Gweithgareddau, gwasanaethau hamdden a grwpiau i blant a phobl ifanc
    • Grwpiau a gwasanaethau i rieni newydd
    • Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
    • Cefnogaeth i blant ag anableddau neu anghenion ychwanegol 
    • Cylchlythyron a bwletinau gwybodaeth rheolaidd
    • Gwybodaeth iechyd a lles

     

    • Atgyfeiriadau at wybodaeth ddefnyddiol a Rhaglenni Llywodraeth Cymru

    Mae GGiD hefyd yn trefnu a rhedeg digwyddiadau a sesiynau am ddim gyda rhieni mewn ysgolion ac yn y gymuned, ac yn cynnig rhaglenni gweithgareddau gwyliau.

    Mae’r manylion cyswllt ar gyfer GGiD eich awdurdod lleol chi ar gael drwy ddewis eich ardal chi o Gymru ar y wefan: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

    Ein Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yw:

     

  • Llywodraeth Cymru

    Mae gan Lywodraeth Cymru adran o'u gwefan sy'n benodol ar gyfer cyngor ar rianta: Rhianta. Rhowch amser iddo. Mae'r safle yn darparu adnoddau, cyfryngau ac astudiaethau achos i gynorthwyo rhieni i 'annog ymddygiad cadarnhaol, magu hyder eich plentyn a chefnogi ei ddatblygiad'. 

  • SNAP Cymru

    Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth, cyngor, hyfforddiant a chymorth i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau neu a allai fod felly: SNAP Cymru

  • National Organisation for FASD

    Mae'r National Organisation for FASD yn rhoi cymorth i bobl yr effeithir arnynt gan Anhwylderau Sbectrwm Alcohol y Ffetws (ASAFf), eu teuluoedd a'u cymunedau; ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd; ac yn hyrwyddo polisïau ac arferion perthnasol:www.nationalfasd.org.uk

  • FASD Awareness

    Mae FASD Awareness yn sefydliad elusennol sydd â gweledigaeth glir: "Lle mae pawb yn ymwybodol o beryglon defnyddio alcohol yn ystod beichiogrwydd a bod mamau'n cael eu cefnogi i gadw'n iach ac yn gryf yn ystod beichiogrwydd, ac mae unigolion sy'n byw gydag Anhwylderau'r Sbectrwm Alcohol yn y Ffetws (ASAFf/FASD) yn cael eu nodi, eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi":  FASD Awareness

  • FASD UK Alliance
    Mae FASD UK Alliance yn gasgliad o grwpiau ac unigolion o bob rhan o'r Deyrnas Gyfunol sy'n unedig gyda'i gilydd i weld newid cymdeithasol cadarnhaol i'r rhai sydd ag Anhwylderau Sbectrwm Alcohol y Ffetws (ASAFf/FASD): FASD UK Alliance
  • Cymdeithas Feddygol Prydain (gan gynnwys gwybodaeth am adroddiad BMA Alcohol a Beichiogrwydd: Atal a Rheoli Anhwylderau Sbectrwm Alcohol yn y Ffetws)
    Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn cefnogi, yn lobïo ac yn ymgyrchu ar y materion sy'n effeithio ar y proffesiwn meddygol: www.bma.org.uk

    Ym mis Chwefror 2016 cyhoeddodd y British Medical adroddiad wedi'i ddiweddaru ar Alcohol a Beichiogrwydd:  Atal a Rheoli Anhwylderau'r Sbectrwm Alcohol yn y Ffetws Mehefin 2007 (Diweddarwyd 2016): BMA Adroddiad

  • Care for the Family 

    Mae Care for the Family yn elusen sy'n seiliedig ar y ffydd Gristnogol ledled y DU sy'n rhoi cyngor a chymorth teuluol a rhianta i deuluoedd o bob ffydd neu ddim: Care for the Family

  • Maethu Cymru

    Maethu Cymru yw ymbarél Llywodraeth Cymru ar gyfer holl wasanaethau maethu awdurdodau lleol ledled Cymru:  Maethu Cymru

  • Best Beginnings:

    Mae Best Beginnings yn elusen yn y DU sy'n gweithio i gefnogi pob rhiant a rhoddwr gofal trwy gydol beichiogrwydd a hyd at ben-blwydd cyntaf y plentyn. Mae'r elusen yn defnyddio dulliau cyd-greu, tystiolaeth, digidol a ffilm i hysbysu a grymuso rhieni a gofalwyr o bob cefndir i ofalu am eu hiechyd meddwl a chorfforol ac i wneud y gorau o ddatblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol hirdymor eu plant.

    Mae Best Beginnings yn fwyaf adnabyddus am ei Ap Baby Buddy arobryn ac sy'n cael ei gymeradwyo gan y GIG a llawer o Golegau Brenhinol. Mae Baby Buddy yn darparu cynnwys ysgrifenedig a ffilm sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac offer hunan-ofal i helpu rhieni i feithrin eu gwybodaeth a'u hyder. Mae Baby Buddy yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac yn Ap di-hysbyseb. Cyflwynir gwybodaeth fel diweddariadau dyddiol bach hygyrch a phersonol: Baby Buddy

  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     

 

Gwybodaeth i oedolion sy'n ddall neu'n rhannol ddall

  • Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd

    Mae gennym brofiad o asesu cyplau sy'n ddall ac yn rhannol ddall ac yn gallu cynnig cyngor a chymorth ar y ffôn neu drwy e-bost. Mae rhai o'n mabwysiadwyr a'n darpar fabwysiadwyr wedi argymell y wybodaeth a chysylltiadau a ganlyn i bobl sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am rianta fel rhywun sy'n ddall neu'n rhannol ddall neu sy'n gofalu am blentyn dall neu rannol ddall.

    Os dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y pwnc hwn a allai fod yn ddefnyddiol i'n rhieni, anfonwch hi atom os gwelwch yn dda. Rydym bob amser yn ceisio ehangu ein hadnoddau ac wrth ein boddau’n cael argymhelliad da: contact@adopt4vvc.org

  • RNIB Cymru

    RNIB Cymru (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, Cymru) yw sefydliad colli golwg mwyaf Cymru. Mae’r RNIB yn darparu ystod eang o wasanaethau a chymorth i bobl ddall a rhannol ddall yn ogystal ag ymgyrchu dros welliannau i wasanaethau ac atal colledion golwg y gellir eu hosgoi. Gall RNIB Cymru roi cyngor a chymorth ar ofalu am blentyn fel rhiant sydd wedi colli eich golwg, yn ogystal â'ch cysylltu â grwpiau cymorth a digwyddiadau lleol i deuluoedd yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. 
    Dyma fanylion cyswllt yr RNIB: 

     

    Mae gan yr RNIB grŵp aelodau o'r enw RNIB Connect y gallwch ymuno am ddim: RNIB Connect.

    Ar gyfer gwasanaethau lleol gallwch ddefnyddio Cyfeiriadur Sightline RNIB sy'n gyfeiriadur o sefydliadau i bobl sydd wedi colli eu golwg: RNIB Sightline Directory.

    Yn ôl ein mabwysiadwyr, os cysylltwch yn uniongyrchol â'r RNIB, cewch gymorth a chyngor penodol ar eich cyfer chi a gallant anfon copïau gwybodaeth ar ffurf sain pan fo angen. 

  • Blind Parents UK

    Mae Blind Parents UK yn grŵp sydd wedi'i sefydlu gan famau a thadau sydd â nam ar eu golwg, o bob cwr o'r DU. 

    Mae Blind Parents UK wedi cydweithio â’r RNIB i greu fideo o'r enw: What is being a blind mum really like?

  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  

 

Gwybodaeth i oedolion â ffydd / crefydd / treftadaeth / arferion diwylliannol

  • Ffydd, Treftadaeth ac Arferion Diwylliannol

    Mae ffydd, arferion diwylliannol, crefydd, treftadaeth, hunaniaeth, hil a diwylliant yn gydrannau bywyd a hunaniaeth person ac rydym yn annog pobl i rannu’r rhain gyda ni wrth iddynt gymryd rhan yn y broses fabwysiadu. 

    Rydym yn gynhwysol ac nid ydym yn gwahaniaethu yn seiliedig ar ethnigrwydd, oedran, anabledd, ffydd, rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd neu statws perthynas. Mae ein tîm yn cymryd cyfrifoldeb i ymgysylltu'n barhaus â hiliaeth, gwahaniaethu (o unrhyw fath), arferion diwylliannol, traddodiadau a ffydd a'n herio ein hunain yn barhaus i ddysgu rhagor amdanynt. 

    Rydym yn addo parhau i amlygu a dathlu pob math o deuluoedd a pharhau i fynd ati i ddysgu rhagor am ddiwylliannau a hunaniaethau ac i herio ein hunain i sicrhau ein bod yn wrth-hiliol ac yn anwahaniaethol ym mhopeth a wnawn. Rydym wedi addo gyda Dim Hiliaeth Cymru i gefnogi ymagwedd dim goddefgarwch at hiliaeth yng Nghymru.  

    Rydym bob amser yn ceisio ehangu ein hadnoddau felly, os ydych yn gwybod am unrhyw adnoddau defnyddiol y gellid eu cynnwys yn yr adran hon, cysylltwch â ni.

 

Cristnogaeth

  • Home For Good 
    Elusen sy’n sensitif i ffydd yn y DU yw Home for Good ac mae’n ymgyrchu dros gynyddu ymwybyddiaeth o fabwysiadu a maethu o fewn y gymuned Gristnogol. Mae Home for Good yn gweithio o fewn cwmpas eang mabwysiadu a maethu ac o fewn y gymuned Gristnogol i amlygu maethu a mabwysiadu yn y DU o safbwynt Cristnogol. Maent hefyd yn cymryd rhan yn y Grŵp Llywio Mabwysiadu Cenedlaethol (Lloegr).

    Mae Home for Good yn cydlynu rhwydwaith o weithwyr ardal, mabwysiadwyr, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol er mwyn darparu rhwydwaith i gefnogi rhieni, teuluoedd, gofalwyr maeth, gweithwyr proffesiynol a’r rhai sy’n edrych ar fabwysiadu a maethu.

    Maent yn gweithio gydag eglwysi a sefydliadau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o fabwysiadu a maethu o fewn y gymuned Gristnogol ehangach. Mae Home for Good yn annog eglwysi a sefydliadau i gynnal ‘Sul Mabwysiadu’ er mwyn codi ymwybyddiaeth ac maent hefyd yn cynnal cynhadledd a leolir yn ganolog unwaith y flwyddyn i fabwysiadwyr a gofalwyr maeth.

    Mae Krish Kandiah, Cadeirydd y Bwrdd Arwain ar Fabwysiadu a Gwarchodaeth Arbennig (Lloegr) a sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol blaenorol Home for Good hefyd yn awdur ‘Home for Good’, sef llyfr sy’n siarad am fabwysiadu o’i brofiad personol ei hun.

 

Islam

  • Fy Nheulu Mabwysiadu / Fy Nheulu Maeth 

    Mae Fy Nheulu Mabwysiadu / Fy Nheulu Maeth yn sefydliad annibynnol sy’n sensitif i ffydd, sy’n gweithio o fewn cwmpas eang mabwysiadu a maethu ac o fewn y gymuned Fwslimaidd i amlygu maethu a mabwysiadu yn y DU o safbwynt Islamaidd.  

    Arweiniodd Shadim Hussain y Prosiect Maethu Mwslimaidd ar ran Mercy Mission yn 2017. Arweiniodd llwyddiant y prosiect hwn Shadim i ddod yn Brif Swyddog Gweithredol Fy Nheulu Mabwysiadu/ Fy Nheulu Maeth. Mae Shadim hefyd yn rhan o’r Grŵp Llywio Mabwysiadu Cenedlaethol (Lloegr) ac yn gynghorydd Ymddiriedolaeth Sefydledig Bradford.

    Mae’r sefydliad yn darparu cymorth a chymhwysedd diwylliannol i bob mabwysiadwr, gofalwr maeth a gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud a gofalu am blant Mwslimaidd a phlant o dreftadaeth Fwslimaidd yn y DU.  Maent yn darparu hyfforddiant, adnoddau, gweithdai, gweminarau a recriwtio yn y ddau sector ac maent wedi datblygu grŵp cynghori o Shaikh, gweithwyr proffesiynol, gofalwyr maeth a mabwysiadwyr  sy’n ffurfio rhwydwaith i ddarparu cymorth a chyngor wedi’u teilwra.

    Maent hefyd yn ymestyn cyfleoedd i’r gymuned Fwslimaidd ehangach ymgysylltu â maethu a mabwysiadu gan gynnwys mentrau fel: ‘Dydd Gwener Maethu’ (mewn partneriaeth â thua dau gant o Fosgiau) a ‘Blychau Ramadan’ a ddarperir i blant Mwslimaidd a threftadaeth Fwslimaidd sy’n byw mewn gofal ledled y DU. 

    Cymerodd Shadim Hussain ran mewn darllediad gyda Sheikh Dr Sajid Umar a mabwysiadwr, Sagheer i drafod maethu a mabwysiadu yn y DU a safbwynt Islamaidd: Fostering - A Forgotten Sunnah

     

 

Appiau i Oedolion

  • App Cymorth Cyntaf Babanod a Phlant y Groes Goch Brydeinig

    Mae'r Groes Goch Brydeinig wedi creu app cymorth cyntaf am ddim i fabanod a phlant i gefnogi pobl i gadw eu plant bach yn ddiogel. Mae'r app wedi'i gynllunio i gefnogi rhieni, neidiau a theidiau a rhoddwyr gofal i ddysgu sgiliau cymorth cyntaf i baratoi ar gyfer argyfwng cymorth cyntaf a'i helpu. Mae'r app yn cynnwys awgrymiadau ar sut i baratoi ar gyfer argyfyngau gartref neu wrth fynd allan a defnyddio: canllawiau sgiliau cam wrth gam syml, fideos, animeiddiadau, cwisiau rhyngweithiol, nodwedd pecyn cymorth i gofnodi anghenion meddygol plant a chyfeirio at wybodaeth bellach. Gellir lawrlwytho'r app ar Android ac IOS o amrywiaeth o siopau appiau: App Cymorth Cyntaf Babanod a Phlant y Groes Goch Brydeinig

  • App Cymorth Profedigaeth Sands

    Efallai bod pobl sy'n ystyried mabwysiadu wedi profi camesgoriad, marw-enedigaeth, neu golli babi / plentyn. Os mai dyma brofiad mabwysiadwr/mabwysiadwyr, byddwn yn trafod hyn yn sensitif yn ystod y broses fabwysiadu ac rydym yn eich annog i gael gafael ar gymorth gan wasanaethau arbenigol cyn a phryd y bydd eu hangen arnoch. Mae Sands, prif elusen marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol y DU wedi creu app cymorth profedigaeth am ddim sy'n ceisio cefnogi rhieni a theuluoedd mewn profedigaeth a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda rhieni a theuluoedd i gael gwybodaeth gywir ac addysgiadol pan fydd ei hangen arnynt. Mae'r app yn cynnwys cymorth ynghylch: gwneud penderfyniadau anodd, rhoi genedigaeth, ffarwelio, a chofio eich babi, post-mortemau, perthnasoedd rhywiol ar ôl colled, beichiogrwydd yn y dyfodol, dychwelyd i'r gwaith a sut i gefnogi plant.

    Gellir lawrlwytho'r app ar Android ac IOS o amrywiaeth o siopau appiau: Sands Bereavement Support App

  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     

 

Llyfrau i Blant a Phobl Ifanc

Byddem yn annog oedolion i ddarllen y straeon hyn cyn eu rhannu â'u plant oherwydd natur sensitif y pynciau a drafodwyd. Efallai na fydd y cynnwys yn addas ar gyfer pob plentyn ac felly dylid ystyried pob llyfr yn seiliedig ar allu emosiynol, profiadau bywyd a dealltwriaeth/gallu'r plentyn unigol i ymdopi â'r pynciau sensitif a drafodir. Yn aml, mae angen cynllunio gofalus ar gyfer plant mabwysiadol. 

  • The Story of Tracy Breaker (a’r gyfres ddilynol) - Jacqueline Wilson

    Mae’r gyfres The Story of Tracey Beaker gan yr awdur llyfrau plant Jacqueline Wilson yn archwilio bywyd Tracy a grŵp o blant sy'n aros am deuluoedd parhaol a theuluoedd maeth. Mae'r rhan fwyaf o blant bellach yn mynd i ofal maeth yn lle cartrefi preswyl; fodd bynnag, mae'r rhaglen yn archwilio realiti profiadau plant wrth ddod i ddeall eu profiadau bywyd cynnar ac ymdopi â bywyd mewn gofal. Yn aml mae’r gyfres yn egluro emosiynau cymhleth plant mewn gofal, yr ymddygiad sy’n deillio o hynny a’r ysfa am berthyn a theulu.

    Mae The Story of Tracy Beaker yn rhan o gyfres pum llyfr:

    • The Story of Tracy Beaker (1991)
    • The Dare Game (2000)
    • Starring Tracy Beaker (2006)
    • My Mum Tracy Beaker (2018)
    • We are the Beaker Girls (2019)

     

    Byddem yn annog oedolion i ddarllen/wylio’r straeon hyn cyn eu rhannu â'u plant oherwydd natur sensitif y pynciau a drafodir. Efallai na fydd y cynnwys yn addas ar gyfer pob plentyn ac efallai y bydd angen cynllunio gofalus. Mae'r llyfr ar gyfer darllenwyr 10+ oed ond, fel llawer o lyfrau eraill gan Jacqueline Wilson, dylai'r oedran fod yn ddibynnol bob amser ar allu emosiynol plentyn a’i ddealltwriaeth o'r pynciau sensitif dan sylw.

    Mae’r gyfres The Story of Tracy Beaker ar gael ar ffurf llyfrau. Mae'r BBC hefyd wedi addasu 'The Story of Tracy Beaker' yn gyfres deledu sydd ar gael i'w ffrydio ar BBC iPlayer. Creodd y BBC gyfres ddeilliedig hefyd, 'Tracy Beaker Returns' lle'r oedd Tracy yn dod yn weithiwr gofal cynorthwyol yn y cartref y cafodd ei magu ynddo. Mae hon hefyd ar gael i'w ffrydio ar BBC iPlayer.

  • Gus Becomes a Big Brother – Heather S. Lonczak, PhD

    Mae'r stori hon yn dilyn stori Gus am ddod yn frawd trwy fabwysiadu. Mae'r stori'n dechrau gyda Gus yn dechrau deall sut beth fydd bod yn frawd. Mae gan Gus lawer o deimladau a chwestiynau am ddod yn frawd ac mae ei rieni a’r gweithiwr cymdeithasol yn ei gefnogi drwy gydol y llyfr i ddysgu a thyfu. Tua diwedd y llyfr mae brawd newydd Gus, Pacco, yn dod i fyw gyda nhw ac mae gan Gus lawer o deimladau a chwestiynau newydd y mae'r teulu'n mynd ati i’w hateb wrth i'r teulu ddechrau dod yn glos.

  • Collecting the Diamonds - Sian Booth a Siobian Rhodes

    Mae Collecting the Diamonds yn llyfr hyfryd, a grëwyd gan ddwy chwaer a fabwysiadwyd, Sian a Siobian. Mae'r stori'n dilyn Nua a'i rhieni mabwysiadol, Toni a Jordan wrth iddynt ddod ar draws rhai o'r heriau nodweddiadol sy'n gysylltiedig â phlant sydd wedi profi trawma.

    Mae'r llyfr yn annog plant a'u gofalwyr i groesawu'r cysyniad o gofio adegau arbennig.  Mae'r 'diemwntau' hyn yn adegau arbennig y maent wedi'u rhannu gyda'i gilydd fel teulu, y gallant gofio amdanynt i annog eu hunain drwy unrhyw heriau newydd y gallant eu hwynebu. 

    Mae fersiwn wedi'i hanimeiddio o'r llyfr ar gael ar YouTube: Collecting the Diamonds

  • Meesha Makes Friend - Tom Percival 
    Mae Meesha Makes Friends yn llyfr hyfryd, annwyl a llawn darluniau sy'n dilyn stori Meesha, plentyn creadigol sy'n ei chael hi'n anodd gwneud ffrindiau. Mae'r llyfr yn berffaith ar gyfer helpu plant gyda sefyllfaoedd cymdeithasol a datblygu perthnasau cadarnhaol ag eraill. 
  • Daddy, Papa and Me / Mommy, Mama and Me - Lesléa Newman
    Mae'r ddau lyfr byrddau odli hyn â darluniau hyfryd yn dilyn plentyn bach wrth dreulio'r diwrnod gyda'i rieni. Mae'r llyfrau hyn yn amlygu normalrwydd bywyd teuluol mewn ffordd hwyliog a diddorol i blant ifanc. 
  • Two Dads / Two Mums – Carolyn Roberson
    Mae'r ddau lyfr hyn yn dilyn meddyliau personol plentyn gyda rhieni LHDT+. Mae'r llyfrau'n archwilio bywyd pob dydd i blentyn ac yn amlygu normalrwydd bywyd teuluol mewn ffordd hwyliog a diddorol i blant. 
  • Two Mums and a Menagerie – Carolyn Robertson
    Mae'r stori odli hon yn dilyn bywydau teulu wrth iddynt barhau i dyfu ar ôl mabwysiadu am y tro cyntaf. Mae'r stori'n ymdrin â chael eich mabwysiadu, ennill brawd neu chwaer drwy fabwysiadu, mabwysiadu anifeiliaid anwes a symud i dŷ newydd.
  • The Teazlers’ Baby Bunny – Susan Bagnall
    Mae ‘Teazlers’ Baby Bunny’ yn adrodd hanes y paratoi a’r cyfnod sy’n arwain at 'Baby Bunny’ yn cyrraedd teulu Teazler. Nod y llyfr yw cyfarwyddo plant â syniad mabwysiadu. Daw’r llyfr â chanllaw defnyddiol i rieni, sy’n egluro sut mae defnyddio’r llyfr i agor sgwrs am fabwysiadu. Mae’r llyfr ar gyfer plant dwy oed a hŷn.
  • The Most Precious Present in the World - Becky Edwards
    Yn ‘The Most Precious Present in the World’, mae Mia, merch wedi ei mabwysiadu, ar goll ac yn drist oherwydd nad ydy hi'n edrych fel ei mam na'i thad. Gydol y llyfr, mae mam Mia'n egluro wrthi fod ei mam a’i thad biolegol wedi rhoi rhoddion iddi sy'n gwneud iddi edrych fel nhw, a’u bod wedi rhoi anrheg orau'r byd i'r rhieni mabwysiedig, sef hi. Mae’r llyfr hwn yn wych i’w ddarllen gyda phlant a chychwyn trafodaethau ynghylch hunaniaeth. Gall hefyd helpu plant i deimlo sicrwydd y cânt siarad am stori eu bywyd, bod cariad atynt a diogelwch iddynt yn eu teulu newydd.  
  • A Safe Place for Rufus - Jill Seeney
     Mae Rufus y gath yn symud at deulu newydd ac mae’n dysgu sut mae goresgyn ei ofnau a dysgu bod ei gartref newydd yn ddiogel a pharhaol a bod ei deulu newydd yn ei garu. Mae’r llyfr hwn yn helpu i sicrhau plant ei bod yn iawn iddynt gael newid yn anodd ac mae’n eu helpu i ddarganfod y gallan nhw, fel Rufus, ganfod ffyrdd o gael gwared ar eu hofnau a theimlo’n ddiogel. Daw’r llyfr â chanllaw defnyddiol i rieni, sy’n egluro sut mae defnyddio’r llyfr i agor sgwrs am fabwysiadu a theimlo’n ddiogel. Mae’r llyfr ar gyfer plant tair oed a hŷn.
  • Nutmeg Gets Adopted – Judith Foxon
    Hanes Nutmeg, gwiwer fechan a’i theulu, ydy Nutmeg Gets Adopted. Dydy teulu geni Nutmeg ddim yn gallu gofalu amdano fe a’i frodyr a chwiorydd, felly mae’n rhaid i Beth y mochyn daear ddod o hyd i deulu newydd iddyn nhw; yn gyntaf, teulu maeth ac wedyn teulu am byth. Mae’r llyfr yn adnodd gwych i gychwyn siarad â phlant am eu stori bywyd. Rhydd y llyfr hwn gyfle i’r plentyn holi pam y bu rhaid iddo adael ei gartref a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddo ynghylch pam y digwyddodd hyn a helpu iddo drafod ei deimladau am ei fabwysiadu. Daw’r llyfr gyda chanllaw, sy’n egluro sut mae defnyddio’r llyfr i agor sgwrs am fabwysiadu. Mae’r llyfr yn ddelfrydol ar gyfer plant sy’n aros am deulu mabwysiedig, neu sydd newydd gael eu lleoli. Mae’r llyfr yn rhan o gyfres o lyfrau sydd wedi helpu plant wedi eu mabwysiadu i ddeall gwahanol destunau a allai effeithio arnynt.
  • Chester and Daisy Move On - Angela Lidster
    Mae Chester a Daisy yn byw gyda’u teulu o eirth geni, ond pan fo pethau’n dechrau mynd o chwith, mae’n rhaid iddynt symud i fyw gyda theulu newydd. Mae’r stori’n egluro i blant na all rhieni geni edrych ar ôl eu heirth bach weithiau a dyna pam y cânt eu rhoi gyda theulu newydd. Mae’r llyfr yn ddefnyddiol i helpu i egluro wrth blant eu taith tua byw gyda’u teulu newydd. Mae’r llyfr yn trafod meddyliau a theimladau ac yn edrych ar gysylltiad blwch llythyrau.
  • And Tango Makes Three – Justin Richardson a Peter Parnell
    Mae ‘And Tango Makes Three’ yn trafod rhieni un rhyw a mabwysiadu. Mae Roy a Silo, dau bengwin gwryw, yn gweld yr holl bengwiniaid heterorywiol yn cael babis ac maen nhw hefyd eisiau cychwyn eu teulu eu hunain. Daw’r ceidwad ag wy iddyn nhw, iddynt gael eu babi eu hunain.
  • The Family Faries - Rosemary Lucas
    Mae’r Family Fairies yn llyfr odlau i blant a ysgrifennwyd gan un o’n mabwysiadwyr, Rosemary Lucas.

    Mae’r llyfr yn seiliedig ar siwrne mabwysiadu Rosemary ac yn adrodd hanes mam a dad sydd eisiau cael teulu ac sy’n gofyn am help dau ‘dylwyth teg teuluoedd’ sef dau weithiwr cymdeithasol.  

    Mae llyfr cyntaf Rosemary yn un o’r straeon y mae hi wedi ei chreu ar gyfer ei phlant mabwysiadol ei hun i esbonio sut cafodd eu teulu ei ffurfio.  Mae’r llyfr yn esbonio’r broses fabwysiadu mewn ffordd hwyliog a hygyrch gyda darluniadau lliwgar.

    Mae Rosemary yn gobeithio y bydd y llyfr hwn yn un o gyfres o lyfrau a fydd yn helpu plant ac oedolion i ddeall mabwysiadu mewn ffordd gliriach ac yn ennyn diddordeb ehangach mewn mabwysiadu fel llwybr i ddechrau neu ymestyn teulu.  

    Mae The Family Fairies wedi’i gyhoeddi gan yr awdur ac mae ar gael ar-lein.

  • Y Boced Wag - Eurgain Haf
    Y Boced Wag gan Eurgain Haf yw’r llyfr gwreiddiol Cymraeg cyntaf i blant am fabwysiadu.

    Ysbrydolwyd Eurgain, sy’n fam sydd wedi mabwysiadu ei hun, i greu’r stori ar ôl i’w mab ddod adref o’r ysgol feithrin gyda llun o gangarŵ oedd yn edrych yn drist.  Gofynnodd iddo pam ei fod e’n credu bod y cangarŵ yn drist.  Atebodd, “oherwydd bod ei god e’n wag.”  Dywedodd Eurgain wrtho y bydden nhw’n dod o hyd i ffordd o roi gwên ar ei wyneb, a gyda’i gilydd fe lunion nhw’r stori.

    Mae Y Boced Wag (The Empty Pouch) yn dilyn stori Cadi’r Cangarŵ wrth iddi fynd i chwilio am hapusrwydd, a llenwi ei chod neu boced.   Mae Cadi’n mynd ar antur fawr ac yn cyfarfod â llawer o anifeiliaid eraill ar hyd y ffordd sydd am ei helpu.  Mae’n syrthio i gysgu o dan goeden, dim ond i ddeffro y bore wedyn i ddarganfod bod cangarŵ o fabi wedi dringo i mewn i’w phoced am gysgod a chynhesrwydd, ac mae ei dymuniad wedi’i wireddu. 

    Mae Eurgain yn defnyddio’r stori i esbonio i’w mab beth yw ystyr mabwysiadu, ac i egluro’r bwlch y mae e wedi’i lenwi yn eu teulu, a’r hapusrwydd y mae e wedi ei greu ynddyn nhw.   Mae’n gobeithio y bydd cyhoeddi’r stori yn fodd o esbonio hunaniaeth fabwysiadol mewn ffordd syml i blant.  

    Cyhoeddir Y Boced Wag gan Y Lolfa ac mae ar gael mewn siopau llyfrau Cymraeg ac ar-lein. 

  • The Blanket Bears – Samuel Langley-Swain
    Mae The Blanket Bears yn dilyn hanes dwy arth fach y mae arnyn nhw angen teulu am byth. Mae’r stori yn dilyn eu taith o adael eu cartref gwreiddiol gyda’r gweithiwr cymdeithasol i fyw mewn gofal maeth ac, yn y diwedd, gwrdd â’u teulu am byth a symud i fyw gyda nhw. Mae’r stori yn archwilio’r perthnasoedd sydd rhwng yr eirth a’r holl bobl hyn ynghyd ag archwilio emosiynau tuag at newid. Mae hwn yn llyfr hyfryd, a ddefnyddir yn aml i baratoi plant cyn iddyn nhw cwrdd â’u teulu mabwysiadol. Mae hefyd yn ffordd wych o siarad am stori bywyd â phlant a’u galluogi i ofyn cwestiynau am eu stori bywyd gan gynnwys cyfnod gyda rhieni maeth. 
  • The Day of Your Arrival – Dolores Brown a Reza Dalvand 
    Mae The Day of Your Arrival yn llyfr gyda darluniau hyfryd sy'n esbonio wrth blant am y broses yr aeth eu rhieni mabwysiadol drwyddi a’r gwaith paratoi a wnaed ganddynt cyn cwrdd â nhw. Mae'n atgoffa teuluoedd eu bod wedi cael profiadau bywyd gwahanol cyn dod yn deuluoedd am byth ac mae’n rhoi sicrwydd i’r plentyn ei fod yn ddiogel ac yn cael ei garu.
  • The Kites Tale – Molly Ashton
    Yn ei llyfr plant newydd, The Kites Tale, mae’r awdur Molly Ashton yn archwilio mabwysiadu o safbwynt plentyn biolegol. Mae'r stori'n dilyn stori dau blentyn, Archie sy'n hiraethu am gael chwaer, a Posy sydd angen cartref am byth. Mae'r stori'n egluro i blant rolau gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth a phaneli mabwysiadu a rhai o'r materion anoddach sydd ynghlwm â mabwysiadu megis ymddygiad heriol a chyswllt â'r teulu biolegol. Mae'r stori'n dangos realiti gonest mabwysiadu yn ei holl gymhlethdodau, yn enwedig i blant sydd eisoes yn byw yng nghartref y teulu.  
  • Am I supposed to feel this way? A seven-year-old birth child’s experience of adoption – Elizabeth Archer
     Mae'r llyfr hwn yn tywys plant drwy'r broses o fabwysiadu, creu bondiau a dod yn deulu. Adroddir y stori o safbwynt Oliver, sy’n saith oed ac yn cael brawd drwy fabwysiadu. Mae'r stori'n ymdrin â'r cyfnod rhwng pan fo Oliver eisiau brawd neu chwaer a chlywed bod ei rieni'n ystyried mabwysiadu a phan fo’i frawd yn ymgartrefu ac agweddau cadarnhaol a heriol ar fywyd fel teulu newydd o bedwar.

    Mae'r llyfr yn gofyn cwestiynau ar ôl pob pennod fel y gall plant adfyfyrio ac ystyried eu barn, eu teimladau a'u hemosiynau'n fanylach, gyda rhiant neu heb riant. Mae adran arall ar ddiwedd y llyfr lle gall y plentyn ysgrifennu am ei stori ei hun ac archwilio rhai o'r pethau cadarnhaol y gallant eu hwynebu wrth ddod yn frawd neu chwaer hŷn drwy fabwysiadu.

  • Dustbin Baby - Jacqueline Wilson
    Mae Dustbin Baby a ysgrifennwyd gan yr awdur plant Jacqueline Wilson yn dilyn stori April, merch 14 oed, a adawyd gan ei mam adeg ei geni. Mae'r stori'n canolbwyntio ar ben-blwydd April yn bedair ar ddeg oed. Ar ôl ffrae gyda'i mam faeth, Marion, mae April yn penderfynu ar fyrfyfyr i ymchwilio i hanes ei bywyd trwy ymweld eto â’r lleoedd a'r bobl sydd wedi bod yn arwyddocaol yn ei bywyd. Mae'n dechrau trwy ymweld â'i gofalwr maeth, sy'n ei harwain at gofio ei lleoliad mabwysiadol (a ddaeth i ddiweddglo trasig) a'i blynyddoedd dilynol yn byw mewn gofal, gan gynnwys byw gyda sawl gofalwr maeth ac mewn cartrefi/ysgolion preswyl. Y lle olaf y mae April yn archwilio yw man ei geni, rhyw lôn gefn y tu ôl i pizzeria, ac mae hyn yn ei harwain i gwrdd â'r dyn a ddaeth ar ei thraws yn y Bin Sbwriel bedair blynedd ar ddeg ynghynt. Mae naratif deuol yn datblygu trwy gydol y stori wrth i Marion hefyd archwilio ei phrofiadau a'i theimladau ei hun fel rhiant maeth trwy gydol y dydd wrth iddi geisio dod o hyd i April.

    Mae'r stori'n deimladwy iawn i blant ac oedolion fel ei gilydd gan ei bod yn dadbacio profiadau o ofal, gan archwilio hanes bywyd a heriau a llawenydd perthnasoedd ar hyd y ffordd.  

    Byddem yn annog oedolion i ddarllen/gwylio’r straeon hyn cyn eu rhannu â'u plant oherwydd natur sensitif y pynciau a drafodir. Efallai na fydd y cynnwys yn addas ar gyfer pob plentyn ac efallai y bydd angen cynllunio gofalus. Mae'r llyfr ar gyfer darllenwyr 10+ oed ond, fel llawer o lyfrau eraill gan Jacqueline Wilson, dylai'r oedran fod yn ddibynnol bob amser ar allu emosiynol plentyn a’i ddealltwriaeth o'r pynciau sensitif dan sylw. 

    Mae Dustbin Baby ar gael fel llyfr a gwnaeth y BBC addasiad ffilm o'r llyfr yn 2008 sydd i'w weld ar BBC iPlayer. 

  • The NEW Small Person – Lauren Child
     Mae The NEW Small Person yn stori ysgafn a doniol am Elmore Green sydd ddim yn falch pan ddaw person bach newydd, Albert, i fyw yng nghartref y teulu. Mae Elmore wedi arfer bod yn unig blentyn, ac y mae bywyd fel brawd mawr yn gryn her iddo. Mae hon yn stori wych i unrhyw un sy’n ystyried mabwysiadu ac sydd eisoes â phlentyn yn byw gyda hwy i’w helpu i baratoi’r plentyn neu i unrhyw un sy’n ceisio ymdopi â chystadlu rhwng brodyr a chwiorydd.
  • Bravely Being Me – Adoption UK
    Mae'r casgliad hwn o fywgraffiadau ysbrydoledig yn tynnu sylw at fywydau pobl sydd wedi'u mabwysiadu; mae'n cynnwys cymysgedd o oedolion hysbys a phobl ifanc o bob rhan o'r DU. Mae'r llyfr yn adnodd gwych i roi gwybod i blant y gallant ffynnu a chyflawni ac nad ydynt ar eu pen eu hunain yn eu profiad o fod yn berson mabwysiedig.

    Os ydych yn aelod o Adoption UK, gallwch ddefnyddio'r cod a roddwyd i chi wrth gofrestru i dderbyn gostyngiad aelod. 

  • The Last Firefox – Lee Newbery
    Yn ei nofel ffuglen gyntaf i blant, The Last Firefox, mae Lee, sy’n dad mabwysiadol o Gymru, yn adrodd hanes Charlie, bachgen ifanc sy'n cael ei hun ar antur annisgwyl lle mae'n dod o hyd i’w ddewrder i achub y Cadno Tân olaf.

    Mae Lee yn gwau hiwmor ac emosiwn teimladwy ynghyd i greu stori hudolus lle mae'r prif gymeriad yn digwydd bod yn berson mabwysiedig sy'n byw gyda'i ddau dad. Mae'r llyfr yn cynnwys themâu teyrngarwch, cariad, hunanhyder a dod o hyd i'ch dewrder mewnol.

    Oedan darllen cymeradwy: 8+. Byddwch yn ymwybodol bod Charlie a'i ffrindiau yn y stori yn cymryd risg a allai fygwth bywyd ar reilffordd - efallai y bydd rhieni/athrawon am drafod hyn â darllenwyr.

  • The Family Puzzle – Rosemary Lucas

    Yn y stori odli hon, mae Ben a Belle yn archwilio sut mae rhai teuluoedd yn dod ynghyd â chymorth y tylwyth teg teuluol (gweithwyr cymdeithasol); cymeriadau a geir yn llyfr cyntaf Rosemary, The Family Fairies. Mae'r llyfr yn cynnwys darluniau cynhwysol o fywyd teuluol a'r asesiad, cefnogaeth mabwysiadu a phroses gyfreithiol o fabwysiadu.

    Mae The Family Puzzle wedi’i gyhoeddi gan yr awdur ei hun ac mae ar gael ar-lein.

    Mae gan Rosemary bresenoldeb digidol ar Facebook, Instagram a'i gwefan: Rosemary Lucas

  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  

Appiau i Blant a Phobl Ifanc 

  • App Sesame Street Breathe

    Mae'r app hwn yn annog plant i archwilio gwahanol sgemas, tasgau a sefyllfaoedd (rhoi esgidiau ymlaen, mynd i'r ysgol ac ati), enwi a nodi emosiynau llethol sy'n gysylltiedig â'r sefyllfaoedd hyn, cymryd rheolaeth gyda thechnegau anadlu i adfer tawelwch, a gwneud cynlluniau i leihau a datrys pryder yn y dyfodol.

    Ym mhob stori, dangosir animeiddiad ysgafn o anghenfil (cyfeillgar) sy'n profi sefyllfa ac yn teimlo'n drech ganddi. Yna anogir y plentyn i dapio bol y bwystfil i'w helpu i’w ymdawelu gan ddefnyddio techneg anadlu araf. Unwaith y bydd yr anghenfil yn dawel, anogir y plentyn wedyn i 'bopio swigod' sy'n rhoi tri syniad i'r anghenfil ar gyfer cynlluniau y gall eu defnyddio i leihau a datrys pryder sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd ymhellach. Yna anogir y plentyn i ddewis un o'r cynlluniau hyn a gwylio'r animeiddiad o sut mae'r cynllun yn helpu i ddod o hyd i benderfyniad.

    Gellir lawrlwytho'r app ar Android ac IOS o amrywiaeth o siopau appiau: Breathe 

  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     
  •  
     

 

Ffilmiau a Chyfresi ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

Byddem yn annog oedolion i ddarllen y straeon hyn cyn eu rhannu â'u plant oherwydd natur sensitif y pynciau a drafodir. Efallai na fydd y cynnwys yn addas ar gyfer pob plentyn ac felly dylid ystyried pob llyfr yn seiliedig ar allu emosiynol, profiadau bywyd a dealltwriaeth/gallu'r plentyn unigol i ymdopi â'r pynciau sensitif a drafodir. Yn aml, mae angen cynllunio gofalus ar gyfer plant mabwysiadol. 

  • Goodnight Mr Tom - Carlton Television
    Ar sail y llyfr arobryn o 1981 gan Michelle Magorian, wedi ei osod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, hanes Willie Beech a Tom Oakley yn dod i arfer gyda byw ynghyd ydy ‘Goodnight Mr Tom’. Caiff Willie ei anfon o Lundain yn ystod y Blitz. Mae’r stori’n amlygu’r addasiadau sy’n rhaid i oedolion a phlant eu gwneud wrth fyw ynghyd, a’r cysylltiadau a all ffurfio. Yn ystod y ffilm, cofia Willie ei amser gyda’i fam ac mae’r ffilm yn trafod ei brofiadau plentyndod, yn cynnwys gwahanu ac esgeulustod, yn ogystal â phrofiad Tom o gael plentyn newydd yn ei fywyd.
    Gellir defnyddio’r ffilm i gychwyn sgwrs am fabwysiadu, teuluoedd biolegol, trawma, esgeulustod, gwahanu, hunaniaeth, profiadau bywyd cynnar a sgwrs am fywyd teulu gyda’i gilydd.  
  • Inside Out - Pixar
    Pan gafodd Riley ei symud oddi ar ei bywyd yn y Gorllewin canol ac i San Francisco oherwydd swydd newydd ei thad, mae teimladau Riley: Hwyl, Ofn, Dicter, Diflastod a Thristwch, yn cael eu drysu. Mae teimladau Riley yn byw yn ‘Y Pencadlys’ (ym meddwl Riley). Er bod Hwyl, prif deimlad Riley yn ceisio cadw pethau’n gadarnhaol, mae’r teimladau eraill yn dadlau sut i lywio orau yn ei hamgylchedd newydd. Mae’r ffilm hefyd yn edrych ar yr oedolion o’i chwmpas a sut y mae eu teimladau yn arwain eu hymddygiad a’i gweithrediadau. Dyma ffilm wych i annog trafodaeth o amgylch teimladau a newid.

  • Matilda - TriStar Pictures / Jersey Films

    Mathilda yw stori merch sy’n dioddef esgeulustod emosiynol a chorfforol ynghyd â cham-drin geiriol gan ei theulu biolegol. Mae Mathilda yn cwrdd â chymeriadau drwy gydol y stori sy’n ei helpu i ddeall y byd o’i chwmpas. Mae’r stori hefyd yn trafod Miss Honey, athrawes Mathilda a’i pherthynas â’i modryb ar ôl iddi golli ei thad. Gall y ffilm hon annog trafodaethau am rhai o’r rhesymau pam y mae plant yn cael eu rhoi i’w mabwysiadu, eu profiadau negyddol yn gynnar yn eu bywyd a sut y mae’n bosibl i dy orffennol beidio ag effeithio ar dy ddyfodol.

  • The Story of Tracy Beaker – BBC iPlayer 

    Mae cyfres lawn 'The Story of Tracy Beaker' nawr ar gael i'w ffrydio ar BBC iPlayer. Mae'r gyfres yn archwilio bywyd grŵp o blant sy'n aros am deuluoedd am byth a theuluoedd maeth. Mae'r gyfres ddilynol, 'Tracy Beaker Returns', hefyd ar gael. Yn y gyfres hon, daeth Tracy yn weithiwr gofal cynorthwyol yn y cartref lle magwyd hi. 

    Mae'r rhan fwyaf o blant bellach yn mynd i ofal maeth yn lle cartrefi preswyl; fodd bynnag, mae'r rhaglen yn archwilio realiti profiadau plant wrth ddod i ddeall eu profiadau bywyd cynnar ac ymdopi â bywyd mewn gofal. Yn aml mae’r gyfres yn egluro emosiynau cymhleth plant mewn gofal a’r ymddygiad sy’n deillio o hynny a’r ysfa am berthyn a theulu. 

  • Dustbin Baby – BBC iPlayer
    Mae Dustbin Baby a ysgrifennwyd gan yr awdur plant Jacqueline Wilson yn dilyn stori April, merch 14 oed, a adawyd gan ei mam adeg ei geni. Mae'r stori'n canolbwyntio ar ben-blwydd April yn bedair ar ddeg oed. Ar ôl ffrae gyda'i mam faeth, Marion, mae April yn penderfynu ar fyrfyfyr i ymchwilio i hanes ei bywyd trwy ymweld eto â’r lleoedd a'r bobl sydd wedi bod yn arwyddocaol yn ei bywyd. Mae'n dechrau trwy ymweld â'i gofalwr maeth, sy'n ei harwain at gofio ei lleoliad mabwysiadol (a ddaeth i ddiweddglo trasig) a'i blynyddoedd dilynol yn byw mewn gofal, gan gynnwys byw gyda sawl gofalwr maeth ac mewn cartrefi/ysgolion preswyl. Y lle olaf y mae April yn archwilio yw man ei geni, rhyw lôn gefn y tu ôl i pizzeria, ac mae hyn yn ei harwain i gwrdd â'r dyn a ddaeth ar ei thraws yn y Bin Sbwriel bedair blynedd ar ddeg ynghynt. Mae naratif deuol yn datblygu trwy gydol y stori wrth i Marion hefyd archwilio ei phrofiadau a'i theimladau ei hun fel rhiant maeth trwy gydol y dydd wrth iddi geisio dod o hyd i April. 
    Mae'r stori'n deimladwy iawn i blant ac oedolion fel ei gilydd gan ei bod yn dadbacio profiadau o ofal, gan archwilio hanes bywyd a heriau a llawenydd perthnasoedd ar hyd y ffordd.  
    Byddem yn annog oedolion i ddarllen/gwylio’r straeon hyn cyn eu rhannu â'u plant oherwydd natur sensitif y pynciau a drafodir. Efallai na fydd y cynnwys yn addas ar gyfer pob plentyn ac efallai y bydd angen cynllunio gofalus. Mae'r llyfr ar gyfer darllenwyr 10+ oed ond, fel llawer o lyfrau eraill gan Jacqueline Wilson, dylai'r oedran fod yn ddibynnol bob amser ar allu emosiynol plentyn a’i ddealltwriaeth o'r pynciau sensitif dan sylw. 
    Mae Dustbin Baby ar gael fel llyfr a gwnaeth y BBC addasiad ffilm o'r llyfr yn 2008 sydd i'w weld ar BBC iPlayer. 
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  

 

Llyfrau i Blant a Phobl Ifanc: Tyfu i Fyny

Mae’n bwysig i blant fod yn ymwybodol o’u cyrff, annibyniaeth ac uniondeb wrth iddynt brifio a datblygu oherwydd bod hyn yn rhan sylweddol o’u hunaniaeth ac yn helpu i’w cadw’n ddiogel.

Yr ydym yn sylweddoli y bydd gan rieni lefelau gwahanol o wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad personol o’r pynciau hyn, a dyna pam yr ydym wedi ychwanegu’r adran hon er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn teimlo’n barod  ar gyfer trafod pynciau na ddylai fod yn gudd.

Mae’n bwysig i chi ymchwilio i’r pynciau hyn cyn ac yn ystod proses eu datblygiad.

Buasem yn annog oedolion i ymchwilio i gynnwys yr adnoddau a awgrymir cyn eu rhannu gyda’u plant oherwydd natur sensitif y pynciau sy’n cael eu trafod. Efallai na fydd y  cynnwys yn addas i bob plentyn ac felly dylid ystyried pob llyfr yn ôl gallu emosiynol y plentyn unigol, profiadau ei fywyd, a’i ddealltwriaeth / gallu i ymdopi â’r pynciau sensitif wrth fynd ymlaen. Yn aml, mae angen cynllunio’n ofalus gyda phlant a fabwysiadwyd.

  • The Autism Friendly Guide to Periods – Robyn Steward

    Mae’r mislif yn foment sy’n diffinio bywyd menyw.

    Mae’r mislif yn nodi’r trosi o blentyndod / blynyddoedd yr arddegau i lencyndod, ac y mae’n bwysig fod plant yn ymwybodol o’r newidiadau hyn a sut i lywio drwyddynt. Gall y mislif gychwyn o unrhyw oedran, ond fel arfer mae’n digwydd rhwng 8-16 oed.

    Bydd deall y mislif a bod yn ymwybodol o’r corff, bod yn annibynnol ac union o blentyndod ymlaen yn paratoi plentyn am yr amser pan fydd yn profi’r datblygiad hwn neu ddeall profiad rhywun arall.

    Mae’r llyfr yn ganllaw clir, manwl a gweledol i anatomeg, datblygiad y corff, a’r mislif. Ysgrifennir y llyfr yn bennaf fel fersiwn hawdd i’w ddarllen / storïau cymdeithasol i gefnogi dealltwriaeth rhywun o beth yw’r mislif a sut mae’n teimlo, beth fydd yn digwydd, gan gynnwys sut i ddefnyddio amrywiaeth o gynhyrchion hylendid.

    Mae’r awdur, Robyn Steward ei hun yn berson awtistig ac yn Gymrawd Cysylltiol er Anrhydedd yn UCL. Fe’i hysbrydolwyd i ysgrifennu’r llyfr er mwyn gwneud i ffwrdd â stigma, a thabŵ, a gwneud trafodaethau am y mislif yn rhan o ‘brifio’. Adolygwyd y llyfr gan gymheiriaid o weithwyr meddygol proffesiynol cyn ei gyhoeddi, ac fe’i canmolwyd gan y gymuned feddygol.

    Mwy o wybodaeth:

    Gwefan: Autism Friendly Periods

    Facebook: @autismfriendlyguidetoperiods

    Twitter: @robyn_steward

  • Amazing You: Getting smart about your private parts – Dr. Gail Saltz

    Mae plant yn naturiol chwilfrydig, ac y mae bod yn chwilfrydig am ein cyrff yn arbennig o bwysig am ein bod yn tyfu a datblygu’n gyson.

    Fodd bynnag, i rieni a gofalwyr (yn enwedig y rhai na chafodd, efallai,  gymaint o addysg am y pwnc hwn yn eu plentyndod eu hunain) gall trin chwilfrydedd eu plentyn fod yn dipyn o her. Yn y pen draw, mae’n bwysig eich bod fel rhiant yn teimlo’n abl i ateb y cwestiynau hyn yn onest, mewn dull sy’n rhydd o gywilydd ac sy’n sensitif i gyfnod datblygiadol y plentyn.

    Anelir y llyfr hwn at blant sy’n dod yn ymwybodol o ryw ond nad ydynt eto’n barod i ddysgu am gyfathrach rywiol, ac y mae’n rhoi llwyfan cyfforddus i rieni i drafod ymhellach.

    Mae’r llyfr yn enwi ac yn esbonio organau cenhedlu’r gwryw a’r fenyw trwy ddarluniau a thestun sy’n sensitif i blant. Mae hefyd yn rhoi templed sylfaenol i ddeall sut mae gwryw a benyw yn cenhedlu baban, a’r broses o enedigaeth.

    Mae’r Dr. Gail Saltz yn athro cysylltiol mewn Seiciatreg yn Ysbyty Presbyteraidd Efrog Newydd ac yn Seiciatrydd wrth ei gwaith. Mae wedi ychwanegu nodyn gan yr awdur yng nghefn y llyfr sy’n esbonio chwilfrydedd eich plentyn, sut i ddefnyddio’r adnodd, ac anogaeth am sut i ddwyn plant i mewn ac ymchwilio i’r pwnc hwn gyda hwy.

    Mwy o wybodaeth:

    Gwenfan: Dr. Gail Salt

    Podlediadau: Dr Gail Saltz

    YouTube: @GailSaltzMD

    Facebook: @GailSaltz

    Twitter: @DrGailSaltz

  • Making a Baby - Rachel Greener a Clare Owen

    Yn y canllaw darluniadol, cynhwysol hwn, gellir ei ddefnyddio i gynorthwyo plant i ddysgu am eu cyrff, sut mae babanod yn cael eu creu, sut mae babanod yn datblygu, sut mae genedigaeth yn digwydd ac amrywiaeth teuluol.  Mae'r llyfr yn cynnwys sgwrs ynglŷn â rhyw, triniaeth ffrwythlondeb, dirprwy-feichiogrwydd, a mabwysiadu. Ceir hefyd eirfa ar y diwedd sy'n rhoi esboniad pellach o'r termau a ddefnyddir yn y llyfr. 

  • What is a period? - Nikki Tajiri

    Gellir defnyddio'r llyfr darluniadol hwn fel cyflwyniad i'r pwnc mislif. Yn y llyfr mae mam June yn esbonio beth yw mislif, a'r broses a'u pwrpas. Mae'r llyfr hefyd yn annog plant i archwilio sut mae diwylliannau'n eu dathlu, a'u hysbrydoli i feddwl am sut yr hoffent ddathlu'r garreg filltir hon drostynt eu hunain.

  • The Girls Guide to Growing Up” gan Anita Naik

    Crëwyd y canllaw hwn i gefnogi plant i baratoi ar gyfer glasoed benywaidd a'i ddeall.  Mae'r llyfr yn cefnogi plant i archwilio profiadau benywaidd y glasoed gan gynnwys hormonau, bronnau a bras, twf, hylendid, gwallt corff, organau rhyw, mislif, rhyw, sut mae babanod yn cael eu creu, lles, hunan-barch, delwedd y corff a phreifatrwydd a chydsynio.  Mae'r llyfr hefyd yn archwilio'n fyr rai profiadau gwrywaidd o'r glasoed. 

  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •