Father and Son Playing with Toy Cars Outdoors

Croeso i  Wasanaeth Mabwysiadu Fro, y Cymoedd a Chaerdydd.

Ni yw’r cydweithrediad ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Dinas Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg ac yn un o’r cydweithrediadau rhanbarthol sy’n ffurfio rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru.

Mae ein gwefan yn egluro’r broses fabwysiadu gyda ni. Ceir fideos, straeon, blogiau a gwybodaeth bellach ar y wefan yr ydym yn gobeithio y byddant yn helpu i lywio eich penderfyniad i wneud cais. Mae croeso i chi anfon e-bost atom neu ein ffonio am fwy o wybodaeth hefyd. Byddem yn dwlu ar glywed gennych chi.

Mae mabwysiadu’n benderfyniad enfawr sy’n newid bywydau. Un o’r penderfyniadau mwyaf y byddwch fyth yn ei wneud. Ar ôl i chi benderfynu i gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu bydd ein tîm o weithwyr cymdeithasol profiadol wrth law bob cam o’r ffordd a bydd yn eich tywys trwy’r broses. Byddwn yn siarad â chi am eich penderfyniad i ddod yn rhiant mabwysiadol, yn rhoi hyfforddiant gwych i chi i’ch paratoi i fod yn rhiant mabwysiadol a byddwn yn trafod, archwilio a nodi’r plentyn/plant fyddai’n fwyaf addas i chi ei rianta/rhianta.

Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo fel mabwysiadwr byddwn yn eich cefnogi trwy’r cyfnod cyflwyno, bod wrth law wrth i chi ymgartrefu a dysgu i fyw gyda’ch gilydd fel teulu ac yn ystod y broses fabwysiadu ffurfiol.  Byddwn hefyd wrth law ar unrhyw adeg ar ôl y lleoliad ar gyfer cymorth ar ôl mabwysiadu.

Cysylltu â Ni

Mae ein pecynnau gwybodaeth ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Arabeg, Sbaeneg ac Eidaleg. Rydym yn anfon y pecynnau Cymraeg a Saesneg fel mater o arfer. Ychwanegwch nodyn yn y blwch negeseuon os hoffech dderbyn y pecyn yn Arabeg, Sbaeneg neu Eidaleg hefyd.

Dilynwch y linc gwneud cais pecyn gwybodaeth.