Mother-with-child

Am Fabwysiadu

Mae mabwysiadu yn benderfyniad sy’n newid eich bywyd chi a bywyd unrhyw blentyn sy’n cael ei fabwysiadu. Efallai rydych yn ymchwilio i fabwysiadu am y tro cyntaf neu efallai rydych wedi bod yn ei ystyried am nifer o flynyddoedd.

Waeth beth fo’ch sefyllfa mae ein tîm bob amser ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a thrafod unrhyw ddisgwyliadau neu amheuon a allai fod gennych. Mae pob stori fabwysiadu’n unigryw a gallwch ddarllen rhai o straeon ein mabwysiadwyr yma.

Rydym yn cynnal Nosweithiau Gwybodaeth i bobl sydd â diddordeb mewn mabwysiadu. Yn ystod y sesiynau hyn rydym yn esbonio’r hyn rydym yn ei wneud yn fanylach ac yn esbonio rhai o’r profiadau bywyd cynnar plant rydym yn chwilio am deulu ar eu cyfer. I fynd i Noson Wybodaeth bydd angen i chi gofrestru eich diddordeb ar 0800 023 4064 neu lenwi ein ffurflen ymholi.

Beth yw Mabwysiadu?

Mae mabwysiadu yn ffordd o roi teulu newydd i blentyn, pan nad yw byw gyda’i deulu ei hun yn bosibl mwyach. Mae’n broses gyfreithiol. Pan gymeradwyir Gorchymyn Mabwysiadu gan lys, roddir pen ar berthynas gyfreithiol y plentyn â’i rieni biolegol a throsglwyddir cyfrifoldeb rhieniol i’r rhieni mabwysiadol. Mae’r plentyn yn dod yn aelod llawn o’i deulu mabwysiadol, pe bai wedi’i eni iddo. Ni ellir gwrthdroi Gorchymyn Mabwysiadu.

Ein plant

Mae ein plant wrth wraidd pob penderfyniad rydym yn ei wneud. Mae ein plant yn dod o ystod o brofiadau bywyd cynnar ond penderfynwyd na allant fyw gyda’u teuluoedd biolegol mwyach a bod angen iddynt gael eu mabwysiadu felly. Maent o oedran amrywiol ac yn dod gyda'u hanghenion a’u gofynion eu hunain.

Byddai diddordeb penodol gennym mewn clywed gennych pe byddech yn ystyried mabwysiadu plentyn / plant sydd fel arfer yn aros yr amser hiraf:

  • Grwpiau o frodyr a chwiorydd o dau neu dri
  • Plant sy’n fwy na phedair oed
  • Plant a allai fod ganddynt broblemau meddygol a datblygiadol
  • Plant a allai fod ganddynt anawsterau dysgu

 

Ein mabwysiadwyr

Mae pobl yn dewis mabwysiadu am lawer o wahanol resymau. I rai pobl mae mabwysiadu’n llwybr maent yn ei gymryd oherwydd anffrwythlondeb ac i bobl eraill mabwysiadu yw eu dewis cyntaf ar gyfer dechrau neu ymestyn eu teulu.

Y prif beth i’w gofio yw nad ydych ar eich pen eich hun. Mae ein nosweithiau gwybodaeth a hyfforddiant yn lleoedd gwych i gwrdd â phobl eraill sy’n dechrau’r broses fabwysiadu ar yr un adeg â chi. Ymhellach ymlaen yn y broses gallech gael eich paru gyda phobl sydd eisoes wedi mabwysiadu a all rannu eu profiad gyda chi ac ar ôl i chi fabwysiadu rydym yn cynnal diwrnodau hwyl dwywaith y flwyddyn a grŵp plant bach.

Mae pobl a all fabwysiadu plentyn yn:

  • Sengl, priod, neu fewn perthynas; ni waeth beth fo’u rhywioldeb a rhyw. Rydym yn chwilio am berson / pobl a all gynnig bywyd cartref sefydlog i blentyn.
  • 21 oed neu’n hŷn. Croesawir ceisiadau gan bobl o bob oed ond rhaid i chi fod yn hŷn na 21 oed.
  • Perchnogion cartref neu’n rhentu. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dangos bod gennych y lle a’r diogelwch i ofalu am blant wrth iddynt dyfu.
  • Gwneud unrhyw fath o swydd. Nid oes angen i chi ennill swm penodol o arian neu gael proffesiwn penodol. Fodd bynnag, bydd angen i chi ddangos i ni na fyddai dod yn fabwysiadwr yn creu anawsterau ariannol i chi.

 

Rydym yn chwilio am fabwysiadwyr sy’n dangos eu bod yn:

  • Ymrwymedig: Mae’r broses asesu’n galed. Bydd angen i chi fod yn siŵr mai mabwysiadu yw’r peth iawn i chi. Bydd ein gweithwyr cymdeithasol yn eich helpu i ystyried unrhyw faterion ac yn eich cynorthwyo trwy’r broses.
  • Egnïol: Rhaid i chi ddangos y gallwch fuddsoddi amser ac egni wrth ddatblygu eich perthynas gyda’ch plentyn mabwysiedig. Mae rhywfaint o brofiad o ofal plant o fudd. 
  • Ymwybodol ac â disgwyliadau realistig: Rhaid i chi fod yn ymwybodol, er bod mabwysiadu plentyn yn fuddiol iawn, y gall hefyd fod yn heriol. Bydd angen i chi dderbyn bod hanes gan blentyn mabwysiedig. Mae’n bwysig iawn ein bod yn agored ac yn onest ac yn eu cefnogi i ddeall ei hanes a’u teulu biolegol.
  • Empathi: Bydd y rhan fwyaf o blant a fabwysiadir heddiw yn cadw cysylltiad â’u teulu biolegol, naill ai drwy lythyr blynyddol neu’n achlysurol, yn wyneb yn wyneb (e.e. gyda brodyr a chwiorydd mewn lleoliadau mabwysiadol eraill). Gallai rhywfaint o gysylltiad hefyd barhau gyda’u teulu maeth os yw hyn yn bwysig i’r plentyn.

 

Mae hefyd yn bwysig bod gan darpar fabwysiadwyr: 

  • Gymorth da gan deulu a ffrindiau
  • Synnwyr digrifwch da
  • Parodrwydd ac awydd dysgu am anghenion plant mabwysiedig
  • Ffordd sefydlog o fyw a’r gallu i gynnig teulu cariadus sy’n derbyn