Child-smiling

Teuluoedd Biolegol

Rydym yn cynnig cymorth i rieni a pherthnasau biolegol cyn, yn ystod ac ar ôl mabwysiadu. Rydym yn cydnabod y gall mabwysiadu fod yn bwnc poenus i unigolion sydd ynghlwm, ac mae gan ein gweithwyr cymdeithasol ystod eang o brofiad o helpu rhieni a pherthnasau biolegol i wynebu heriau mabwysiadu.

 

Ymgynghorydd Teulu Biolegol

Mae gennym Ymgynghorydd Teulu Biolegol dynodedig i gefnogi aelodau teulu biolegol sy'n rhan o drefniant cyswllt plentyn. Pwrpas y rôl hon yw rhoi’r cyfle i aelodau'r teulu biolegol gael cymorth un-i-un (drwy e-bost, ffôn, neu wyneb yn wyneb); i ysgrifennu eu llythyr(au) blwch llythyrau a thrafod neu egluro'r trefniant cyswllt sydd ar waith. 

Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn neu os oes gennych gwestiynau am eich trefniant cyswllt presennol, cysylltwch â'n swyddfa: 0800 023 4064 a gofyn am atgyfeiriad trwy ein gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd.  Neu, gallwch ofyn am alwad yn ôl am gefnogaeth trwy e-bostio: letterbox@bromorgannwg.gov.uk

 

Gwasanaeth Canoli

Rydym yn cynnig Gwasanaeth Canoli i oedolion a fabwysiadwyd a pherthnasau gwaed rhywun a fabwysiadwyd i gynorthwyo wrth olrhain a sefydlu cyswllt rhwng y ddau barti.  

Gall y broses hon fod yn anodd i bawb, a dim ond os bydd o fudd i bawb dan sylw y gellir ei defnyddio. Gall unigolion mabwysiedig a pherthnasau gwaed gyfyngu neu flocio unrhyw wybodaeth sy'n cael ei rhoi amdanynt a gwrthod cyswllt os nad ydynt am iddo ddigwydd. Fel asiantaeth gyfryngol, ni allwn ddatgelu unrhyw wybodaeth a fydd yn eich helpu i adnabod unrhyw berson heb gael ei ganiatâd yn gyntaf.

Lle bo perthynas fiolegol neu berthynas fabwysiadol yn byw mewn ardal awdurdod lleol arall, gallwn wneud cais i’r asiantaeth fabwysiadu yn yr ardal honno gynnig cymorth hefyd.

Cofiwch, rydyn ni’n cael llawer o geisiadau, ac yn anffodus mae yna restr aros hirfaith am y gwasanaeth hwn yn aml. Gallwn roi manylion cyswllt i chi ar gyfer asiantaethau canoli eraill os hoffech. Gallai’r asiantaethau hyn eich helpu, ond maen nhw fel arfer yn codi am eu gwasanaethau.

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth canoli:

  • 0800 023 4064

 

Cofrestr Cyswllt Mabwysiadu

Os ydych yn oedolyn a fabwysiadwyd neu’n berthynas gwaed i’r sawl a fabwysiadwyd gallwch ychwanegu’ch hunain at y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu: Cofrestr Cyswllt Mabwysiadu.

Dod o hyd i berthnasau gwaed os y’ch mabwysiadwyd

Gallwch ychwanegu’ch hun at y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu os ydych yn 18 oed neu’n hŷn a bod eich genedigaeth neu’ch mabwysiadu wedi’i gofrestru â Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol. Mae angen i chi lenwi ffurflen CR rhan 1 i ychwanegu’ch hun at y gofrestr. Codir ffi am y gwasanaeth hwn.

 Dod o hyd i rywun a fabwysiadwyd os ydych chi’n berthynas gwaed

Gallwch ychwanegu’ch hun at y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu i geisio dod o hyd i rywun a fabwysiadwyd drwy lenwi CR rhan 2. Codir ffi am  y gwasanaeth hwn.

 Os nad ydych am i rywun gysylltu

Gall pobl a fabwysiadwyd a pherthnasau gwaed ddefnyddio’r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu i ddweud nad ydynt am gael eu cysylltu. Rhowch wybod i’ch asiantaeth i gofrestro feto os nad ydych am i asiantaeth ganoli gysylltu â chi. Mae dau fath o feto sef ‘feto llwyr’ a ‘feto amodol’.

‘Feto llwyr’

Mae hyn yn golygu na all asiantaeth ganoli gysylltu â chi dan unrhyw amgylchiadau. Gall eich asiantaeth fabwysiadu dal roi gwybodaeth i chi e.e. am gyflwr meddygol etifeddol neu fanylion etifeddiaeth.

‘Feto amodol’

Mae hyn yn golygu y gallwch ddweud pryd y byddech chi’n fodlon cael eich cysylltu e.e. gallech ddweud na chaiff rhiant biolegol gysylltu â chi, ond y caiff brawd neu chwaer fiolegol.

I gael rhagor o wybodaeth am y gofrestr cyswllt mabwysiadu:

Adran Fabwysiadu Swyddfa Basbort EM:

  • 0300 123 1837

 

Cwnsela Rhiant Biolegol

Rydym yn cynnig cwnsela rhiant biolegol i bob rhiant biolegol y mae ei blentyn yn cael ei osod i’w fabwysiadu. Mae’n gyfle i riant biolegol gwrdd ag un o’n gweithwyr cymdeithasol a thrafod goblygiadau mabwysiadu, mynegi eu meddyliau a’u teimladau at fabwysiadu ac ennill dealltwriaeth lawn o’u hopsiynau a’u hawliau wrth symud ymlaen.  

 

Cyswllt Post

Cyswllt post yw’r ffurf fwyaf cyffredin o gysylltu rhwng plant a fabwysiadwyd a pherthnasoedd gwaed. Anogir hyn am ei fod yn galluogi plentyn i ystyried ei hunaniaeth fel plentyn mabwysiedig.

Mae ymchwil wedi dangos bod nifer o blant mabwysiedig yn cael budd o gael gwybodaeth am eu teulu biolegol wrth iddyn nhw dyfu. Gall helpu plant i ddatblygu hunaniaeth, rhoi sicrwydd iddynt am les y teulu biolegol a rhoi gwybod iddynt nad ydynt wedi cael eu hanghofio.

Caiff teuluoedd mabwysiadol fudd o wybod mwy am wreiddiau, nodweddion teuluol, materion iechyd a hanes meddygol y teulu biolegol. Yn aml, mae’r wybodaeth a gyfnewidir gyda pherthnasoedd gwaed yn eu helpu i siarad yn fwy agored â'u plant am eu mabwysiadu.

Mae cael y llythyrau hyn yn gadael i deuluoedd biolegol wybod am hynt a datblygiad y plentyn ac yn rhoi sicrwydd am les y plentyn.

Pan fo plentyn yn cael ei osod i fabwysiadu crëir cytundeb cyswllt. Mae hyn fel arfer yn cynnwys adroddiad blynyddol a luniwyd gan y mabwysiadwr i berthynas/perthnasoedd gofynnol y teulu biolegol. Yna gall y perthnasoedd gwaed y cytunwyd arnynt ysgrifennu’n ôl. Caiff pob llythyr a anfonir ei anfon i’n cydlynydd post a’i gadw ar ffeil y plentyn. Yn ystod bywyd plentyn gallai’r cytundeb cyswllt newid. Mae hyn yn aml yn digwydd pan y caiff brodyr neu chwiorydd a aned ar ôl y plentyn/plant mabwysiedig eu gosod.

Rhaid i berthnasoedd gwaed a theuluoedd mabwysiadol roi gwybod i ni os ydynt yn symud tŷ neu’n newid eu manylion cyswllt fel eu e-bost neu rif ffôn.

 

Gwybodaeth gan wasanaethau eraill

  • Llywodraeth Y DU 

    Mae gwefan Llywodraeth Y DU yn cynnwys gwybodaeth bellach am hawliau cyfreithiol rhieni biolegol: Rhieni Biolegol: Eich Hawliau

  • Family Rights Group
    Mae’r Family Rights Group yn elusen yng Nghymru a Lloegr sy’n rhoi cyngor i deuluoedd sy’n ymwneud â Gwasanaethau Plant: Family Rights Group
  • Gyngor ar Bopeth
    Mae gan Gyngor ar Bopeth wybodaeth am fabwysiadu: Y Ganolfan Cyngor ar Bopeth
  • Adoption UK Cymru
    Mae Adoption UK Cymru yn elusen sy’n helpu pobl y mae mabwysiadu wedi effeithio arnynt: Adoption UK Cymru
  • PAC-UK
    Mae PAC-UK yn elusen yn y DU. Maent yn gweithio gyda phobl y mae mabwysiadu, gwarchodaeth arbennig a mathau eraill o ofal parhaol wedi effeithio arnyn nhw: PAC-UK
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  

Os hoffech siarad â ni am eich amgylchiadau unigol cysylltwch â:

  • 0800 023 4064