Mother with children

Fideos a Chyfresi

Rydym am i chi deimlo mor barod â phosibl wrth ystyried mabwysiadu. Ar y dudalen hon fe welwch fideos a chyfresi sydd wedi’u creu gennym ni a'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Mae'r fideos a'r cyfresi’n ymdrin â mabwysiadwyr ac unigolion mabwysiedig a'u straeon.

Dweud y Gwir yn Blaen: Podlediad Straeon Mabwysiadu: Tymor Dau

Mae Tymor Dau podlediad Dweud y Gwir yn Blaen y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol nawr ar gael ac mae wedi'i uwchraddio o Dymor Un i nawr gynnwys fideo yn ogystal â sain draddodiadol. Gellir gweld Tymhorau Un a Dau o'r podlediad yma: Dweud y Gwir yn Blaen:  Straeon Mabwysiadu neu drwy apiau ffrydio podlediadau mawr.

Tymor Dau, Pennod Un

Tymor Dau, Pennod Dau

Tymor Dau, Pennod Tri

Tymor Dau, Pennod Pedwar 

Tymor Dau, Pennod Pump 

Tymor Dau, Pennod Chwech 

 

Dod yn Rhieni

Mae Dod yn Rhieni’n gyfres pedair rhan sy’n edrych ar fabwysiadu drwy lygaid pum person sydd wedi dod yn rhieni gyda’r Fro, yn y Cymoedd ac yng Nghaerdydd. Yn ystod y gyfres mae’r rhieni’n siarad am eu profiadau yn ystod gwahanol rannau o’r broses fabwysiadu o ‘Dechrau Arni’ i ‘Dod yn Deulu’.

Mae’r gyfres yn sôn am brofiadau ystod o deuluoedd. Mae’r holl rieni mabwysiadol posibl mor unigryw â’r plant a roddwn â nhw. Rydym yn chwilio am bobl a all rhoi cartref diogel, cariadus sy’n annog plant sydd angen y pethau hynny.

Hoffem ddiolch i Philipa, Ross, Michael, Gareth a Claire am gymryd rhan yn y gyfres hon ac am rannu eu straeon, codi ymwybyddiaeth ac yn y pen draw ysbrydoli eraill i feddwl am fabwysiadu.

Dechrau Arni

Asesu Personol

Paru a Dod i Nabod Eich Gilydd

Dod yn Deulu

 

Dewis Teulu hysbyseb teledu

10 mis. 10 oed. Bachgen. Merch. Brodyr. Chwiorydd. Pan fyddwch chi’n mabwysiadu, nid dewis plentyn yn unig ydych chi – rydych chi’n dewis teulu.

 

Gweld y Plentyn Cyfan

Mae ‘Byddwch yn rhiant arbennig / Become the parent only you could be’ yn ymgyrch Cymru gyfan sy'n cael ei chynnal gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC Cymru). Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn goruchwylio'r broses o fabwysiadu ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at yr angen am rieni sy'n mabwysiadu ledled Cymru ac yn annog y cyhoedd bod rhieni mabwysiadol yn union fel nhw i'w hysbrydoli y gallen nhw hefyd fabwysiadu.

Ymgyrch Recriwtio'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

Stori Jess

Stori Chris

Stori David

Stori Emma

 

Gweld y Plentyn Cyfan

Mae ‘Gweld y Plentyn Cyfan’ yn ymgyrch gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC Cymru). Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn goruchwylio mabwysiadu yng Nghymru benbaladr. Mae’r ymgyrch yn amlygu straeon gan rieni mabwysiadol a phlant sy’n oedolion a fabwysiadwyd.

We need adopters (with Welsh subtitles) from NAS Cymru on Vimeo.

 

Colin & Carol subtitles from NAS Cymru on Vimeo.

 

Tony & Jacquie Subtitled from NAS Cymru on Vimeo.